The Legend of Zorro Zorro a Zeta - Rhwng mantell a mwgwd
Y sêr Antonio Banderas; Catherine Zeta-Jones; Rufus Sewell; Nick Chinlund; Julio Oscar Mechoso; Shuler Hensley; Michael Emerson; Adrian Alonso
Cyfarwyddwr Martin Campbell
Sgrifennu Roberto Orci ac Alex Kurtzman. Y stori gan Orci, Kurtzman, a Ted Elliott a Terry Rossin.
Hyd 120 munud
Sut ffilm Batman a Robin - Hood - ar gefn ceffyl a chydag acen Sbaenaidd yn achub cam trigolion adfydus Califfornia yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dilyniant uniongyrchol i The Mask of Zorro gydag Antonio Banderas a'n Catherine Zeta Jones ni saith mlynedd yn ôl, yn 1968.
Ond mae'r olyniaeth yn un llawer hwy na hynny a'r straeon a'r steil heb newid gymaint a hynny ers i Don Diego de Vega ar ffurf Douglas Fairbanks wisgo'i fwgwd a sbarduno'i geffyl gyntaf yn The Mark of Zorro yn 1920 .
Bu sawl ffilm ers hynny gyda Tyrone Power ymhlith y rhai fu'n llosgi'u henw a'r Z danllyd.
Bu cyfres deledu gan Disney yn y chwdegau hefyd.
Dros y blynyddoedd bu yna The Mark, The Ghost, The Sign, The Shadow ac The Son, of Zorro ac hyd yn oed gadi ffan o Zorro yn y barodi, Zorro the Gay Blade yn 1982.
Go brin y bydd neb am gredu mai The Legend of Zorro fydd yr olaf yn y gyfres o anturiaethau cabaleraidd. Yn wir ymddengys bod dyfodol i fab Zorro'r ffilm ddiweddaraf hon.
Y stori Aeth deng mlynedd heibio ers i Don Alejandro de la Vega (Antonio Banderas) etifeddu clogyn Zorro oddi ar Anthony Hopkins yn The Mask of Zorro ac y mae'n awr yn briod a'r hyfryd Elena (Catherine Zeta-Jones) a chanddynt fab bychan, Joaquin (Adrian Alonso) na ŵyr o ddim am gyfrinach ei dad.
Ond dydi'r briodas ddim yn un esmwyth a chydag Elena'n chwilio am ysgariad aiff Zorro oddi ar y rêls a hynny ar adeg dyngedfennol yn hanes Califfornia sydd ar fin cael ei derbyn yn unfed talaith ar ddeg ar hugain yr Unol Daleithiau.
Ond mae gan bendefig Ffrengig melfedaidd, Armand (Rufus Sewell), gynlluniau amgenach ar gyfer y bau hoff a phur hon a chyda chymorth dihiryn ffiaidd o'r enw Jacob McGivens (Nick Chinlund) mae'n mynd ati i roi ei gynlluniau dichellgar ei hun ar waith ac hefyd ennill calon yr hyfryd Elena yn awr ei bod wedi troi cefn ar ei gŵr.
Erbyn cyrraedd y cyfwng hwn mae disgwyl inni, un ac oll, holi a all Zorro achub y dydd a dod i'r casgliad ei bod yn edrych yn go ddu arno fo.
Mae bygythiad Armand yn alegori amrwd o gyflwr yr Unol Daleithiau heddiw a'r bygythiadau iddi oddi wrth elynion allanol. "Agorwyd pyrth America led y pen i bobl o wledydd estron," meddir.
Y canlyniad Mae The Legend yn gorffen yn llawer gwell nag y mae'n dechrau.
Ar y cychwyn mae cryn ansicrwydd ynglŷn â chywair gyda pheryg gwirioneddol ar adegau iddi droi'n barodi ohoni ei hun wrth hercian yn ansicr rhwng cyffro, doniolwch a slapstig.
Erbyn hanner ffordd; unai yr ydym ni'n dod i arfer â hyn neu mae'r ffilm yn dod o hyd i'w llais a hynny'n arwain at ddiweddglo gwir drawiadol.
Y darnau gorau Zorro a'i geffyl yn ymuno â'r tren ydi'r uchafbwynt mawr.Zorro a'i geffyl wedi meddwi mewn golygfa sy'n ein hatgoffa o Cat Balou.Llosgi cartref y gwerinwr tlawd.
PerfformiadauRywsut, dydi gafael Banderas a Zeta-Jones ddim cyn sicred y tro hwn ag oedd yn The Mask of Zorro ac y mae darogan na fydd hon yn gwneud y $250m a wnaeth eu hymdrech gyntaf gyda'i gilydd.Mae Rufus Sewell yn fwy seimllyd nag iasol fel arwr a Nick Chinlund yn rhy gartwnaidd i godi gwir ofn - er, rhaid dweud fod y dannedd gosod pren yna sydd ganddo yn ei geg yn effeithiol iawn.Anodd cymryd at ddehongliad Adrian Alonso o Joaquin - ddyddiau a fu byddai tats iawn wedi gwneud lles i'r hen genna bach powld ond wrth gwrs allwn ni ddim awgrymu hynny y dyddiau PC hyn!
Gystal â'r trelar? Ydi.
Ambell i farn Ymddengys i'r adolygwyr fod yn cadw eu powdr yn sych iawn dros y saith mlynedd ers The Mask of Zorro ar gyfer saethu hon i lawr. Ymhlith y pethau sy'n cael eu dweud mae: "Yn amddifad o gyffro gwreiddiol a phersonoliaeth y ffilm gyntaf mae hon yn chwedl a fydd yn cael ei anghofio yn sydyn iawn. "Syniadau siampên gydag arian cwrw."Ymddengys nad oes gan Catherine Zeta-Jones ond un olwg - un sy'n edrych yn wâg i'r awyr."Y broblem fawr ydi hyd y ffilm . . . yn llusgo am dros ddwy awr gyda rhannau lle mae'r stori yn llesg ac yn llawer rhy syrffedus."
Ond mewn gwirionedd dydi'r Legend ddim hanner cyn waethed a hynny ond yn fwyd llwy digon blasus er gwaethaf rhai diffygion.
At y gwreiddiau Mewn nofel gan Johnston McCulley ym 1919 y gwelwyd Zorro gyntaf, The Curse of Capistrano, ac ef yw arwr-mewn-mwgwd cyntaf yr Americanaid. Ers hynny bu'n gymeriad mewn comics yn ogystal ag arwr ffilmiau
Gwerth mynd i'w gweld? Er gwaethaf ansicrwydd o ran tôn mae digon o ddigwyddiadau cyffrous i gadw'r teulu cyfan ar ymyl eu seddau.
Cysylltiadau Perthnasol
Catherine Zeta-Jones
|
|