Ocean's Twelve Mint, sws a thinc Gymreig i Zeta-Jones
Y sêr George Clooney, Brad Pitt, Matt Damon, Julia Roberts, Don Cheadle, Andy Garcia
Cyfarwyddwr Steven Soderbergh
Sgrifennu George Nolfi
Hyd 125 munud
Sut ffilm "Fe fyddwn i'n rhoi mint yn fy ngheg a bwrw 'mlaen â hi."
Dyna, medden nhw, ddywedodd Catherine Zeta-Jones wrth delynegu am gusanu Brad Pitt yn y dilyniant hwn i ailbobiad 2002 o ffilm wreiddiol Ocean's Eleven a wnaed yn 1960 gyda Frank Sinatra.
Hyd y gellir gweld bu cymaint o drafod ar olygfeydd cusanu rhwng Jones a Pitt ac mae peryg y bydd mwy o ddiddordeb yn nhechnegau llabsochian y Gymraes enwocaf erioed nag yn y ffilm ei hun.
Y deuddeg Danny Ocean - George Clooney; Rusty Ryan, chwaraewr cardiau - Brad Pitt; Tess Ocean, gwraig Danny - Julia Roberts; Linus Caldwell, lleidr pocedi - Matt Damon; Basher Tarr, dyn ffrwydron - Don Cheadle; Reuben Tishkoff, arbenigwr diogelwch - Elliott Gould; Saul Bloom, twyllwr - Carl Reiner;Virgil a Turk Malloy, gyrwyr cecrus - Casey Affleck a Scott Caan; Frank Catton, torrwr sêffs - Bernie Mac; Livingstone Dell, arbenigwr gwylio - Jemison; Yen, acrobat o China - Qin
Y stori "Be? Oes na stori?" meddai rhai a wêl hon fel cyfle i baredio gwerth miliynau o bunnau o gnawd Hollywoodaidd ar draws y sgrîn.
Ta beth mae perchen casino, Terry Benedict (Andy Garcia) wedi darganfod mai Danny Ocean (George Clooney) a'i griw (gweler uchod) fu'n gyfrifol am ddwyn $160,000,000 o ddoleri oddi arno yn Ocean's Eleven.
Mae'n rhoi pythefnos iddyn nhw ddychwelyd yr arian - efo llog - ond gan fod y deuddeg wedi hen wario'r arian i gyd rhaid iddyn nhw deithio i Amsterdam, Paris a Rhufain i ddwyn oddi ar eraill mewn cyfres o ladradau beiddgar.
Yn dynn ar eu sodlau mae un o blismyn Europol, Isabel Lahiri (Catherine Zeta-Jones) sydd yn hen gariad i un o'r deuddeg, Rusty (Brad Pitt).
Y cwestiwn mawr nad yw neb - gan gynnwys y gynulleidfa - i'w weld yn poeni llawer amdano yw, "A fydd dwsin Ocean yn llwyddo?"
Mewn ymgais i roi ychydig mwy o flas i stori digon cyffredin mae elfen o gystadleuaeth hefyd rhwng y deuddeg ac arch leidr Ewropeaidd, Francois Toujour (Vincent Cassel) sydd fel pe byddai gam ar y blaen iddyn nhw gydol yr amser.
Ond yn y pen draw cyfres o olygfeydd slic rhwng cymeriadau sydd yma yn hytrach na stori wedi ei saernïo yn grefftus yn null ffilmiau heist a caper traddodiadol.
Y canlyniad Yr ofn mwyaf yw y bydd yna Ocean's Thirteen - a'r arwyddion yw y bydd yna.
Ond o ddifri, bydd edmygwyr Clooney, Pitt, Damon ac eraill wrth eu boddau â'r golygfeydd o wagswmera ffraeth a doniol rhwng y gwahanol gymeriadau -eilbeth yw unrhyw stori i'w presenoldeb hoffus a slic hwy.
Mae yma adlais amlwg yma o'r Thomas Crown Affair yn rhan Pitt a Zeta-Jones o'r stori. Yn anffodus dydy'r naill ddim yn Steve McQueen na'r llall yn Faye Dunaway ac yn sicr ni ellir cymharu y ddwy ffilm.
Y darnau gorau Yen yn cael ei bacio mewn bag sy'n mynd ar goll yn ystod taith awyren.
Julia Roberts yn smalio bod yn Julia Roberts.
Perfformiadau Yn ôl y Western Mail mae Catherine Zeta-Jones yn sgubo'r llawr â phawb arall gan 'ddwyn' y ffilm."Ni chafwyd yr un gair drwg am Zeta-Jones 35 oed," meddai'r papur ond yn amlwg sgrifennwyd hynny cyn darllen Peter Bradshaw yn dweud yn rhifyn yr un diwrnod o'r Guardian fod acen Gymraeg yr actores yn codi i'r wyneb "pan nad yw hi'n actio'n dda iawn. Hynny yw, gant y cant o'r amser."
Ac meddai beirniad arall ar y We: "Oni bai fod Zeta-Jones yn chwarae rhan tywysoges, model, neu gymydog ymgyfreithgar, mae ei chredinedd mewn unrhyw broffesiwn arall ymhell allan ohoni."
Go brin y bydd llawer o Gymry a fydd yn mwynhau ambell i dinc Gymreig yn y llais yn cydweld â rhyw sylwadau felna!
Bod eu hunain yn slic ac yn llyfn ac yn ddiymdrech mae'r chwaraewyr eraill.
Gystal â'r trelar? Na.
Ambell i farn Yn yr un modd ag yr oedd pawb o'r farn fod yr ail Ocean's Eleven gyda George Clooney fydoedd yn well na'r ymdrech drychinebus gyda Frank Sinatra a'i Rat Pack yn y chwedegau mae unfrydedd barn hefyd fod Ocean's Twelve yn gam sicr yn ôl er gwaethaf ei holl sglein.
Yn ôl y Guardian y gwir plaen yw, waeth faint ydych chi eisiau i'r ffilm hon fod yn un dda mae hi wedi mynd heibio'r pwynt o fod yn gredadwy a diddorol.
Dywedodd y New Staestman bod gan y ffilm gymaint o hygrededd dramatig â'r dramâu hynny fyddai Ernie yn eu sgrifennu ar gyfer sioeau Morecambe and Wise!
Ac ni allai beirniad y Spectator gofio dim am y ffilm, meddai, ddeuddydd wedi ei gweld!
Geiriau i'w cofio "Flynyddoedd yn ôl pan oeddwn yn dair ar ddeg oed gwelais fy mam gyda phryf cop oedd yn gwisgo gorchudd tebot - flynyddoedd wedyn y sylweddolais nad pryf cop ydoedd o gwbl ond fy Ewythr Harri."
"Dydi o ddim yn fy natur i fod yn gyfrinachol - ond allai ddim siarad am y peth na dweud pam."
Gwerth mynd i'w gweld? Er ei bod braidd yn hir ac er nad oes llawer o stori mae yna ddigon o olygfeydd doniol a ffraeth i'w gwneud yn ffilm hawdd iawn ei gwylio wrth i rai o actorion enwocaf Hollywood gael hen hwyl iawn ymhlith ei gilydd.
Mae'n hwyl hefyd adnabod sêr eraill fel Robbie Coltraine, Eddy Izzard, Albert Finney a Bruce Willis yn 'westeion'.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|