Ioan Gruffudd Ei holi yn sgil Fantastic Four
Holwyd Ioan Gruffudd am y Fantastic Four ar gyfer y rhaglen deledu Bandit ar S4C Nos Wener, Gorffennaf 22, 2005. 22.30. Dyma rai pethau a ddywedodd:- Dysgu'r acen Wnes i benderfynu mod i moyn mynd a chael fy nghyfweld fel Americanwr. O'n i ddim isie mynd mewn ac fel Prydeiniwr a rhoi'r acen ymlaen yn hwyrach o'n i moyn mynd mewn fel Americanwr o'r cychwyn felly weithiais i'n galed iawn ar yr acen am bythefnos gyda fy hyfforddwraig acen.
- Gobeithion Y gobaith yw y bydd llwyddiant yn arwain at gynigion i weithio gyda'r bobl orau a wy'n gobeithio'n fawr nawr gai'r cynnig i weithio ar rywbeth falle sy'n fwy cyfoes a mwy tywyll ei natur a mwy difrifol efallai.
Ond pwy a wyr, does dim byd ar y gweill ar hyn o bryd ond mae'r cynigion gen i , dwi ddim di penderfynu'n union beth wy am wneud a gyda llwyddiant y ffilm hon dwi'n gobeithio y bydd mwy o ddrysau'n agor eto.
- Cymeriadau Ar 么l yr holl gymeriadau fel Pip a Hornblower a Phillip Bosinney yn y Forsythe Saga - i gyd yn gymeriadau o'r gorffennol - byddwn i'n hoffi falle cael gwneud rhywbeth mwy cyfoes.
- Cowboi Byddwn i'n hoffi gwneud Western. Dwi wastad wedi bod eisiau cael chwarae cowboi.
Roedd dad yn gwylio'r holl ffilms Western pan ro'n i'n ifanc ac roedd yn ddylanwad mawr arna i, felly pwy a wyr falle os na Western cyfoes allen ni wneud.
- Cariad Ma pethau 'n gr锚t [rhyngddo ef ac Alice Evans]. Mae'n haws gwneud symudiad mawr, fel y penderfyniad i symud i rywle fe LA gyda chymar ondife?
Mae pethau'n hwylus iawn iddi hi hefyd. Mae Alice wedi cael llwyddiant eleni - mae hi wedi bod yn gweithio yn Ewrop ar ffilm ac mae hi wedi bod yn agos iawn at gael nifer o bethau yn America felly mae'r ffaith bod ni wedi symud mas wedi dwyn ffrwyth i'r ddau o ni, 芒 dweud y gwir.
Y mwyaf i ni gyda'n gilydd, yr anodda' yw hi i fod bant oddi wrth ein gilydd. Dwi'n credu, yn y dyfodol bydd rhaid i ni ddod at ryw benderfyniad falle - bodun yn mynd i weithio ar y tro a'r llall yn bod yn gwmni.
- Premier Fe wnaethon ni bremier yng Nghaerdydd y llynedd gyda'r Brenin Arthur ar gyfer elusen Help a South Wales Child ar Red Dragon FM, felly ri ni'n dod n么l eto i wneud premier o'r Fantastic Four a gobeithio y bydd mwy o blant yn y gynulleidfa tro hyn achos ffilm i blant yw hon.
- Gweld y teulu Mae'n gyfle i weld y teulu a ffrindie ac i ddathlu'r ffaith mod i'n Gymro a mod i wedi cael llwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol ac mae'n gyfle i ddod 芒'r llwyfan rhyngwladol i Gymru.
- Symud i LA Dwi di bod yn mynd n么l a mlaen i LA ers tua saith mlynedd, ers y tro cyntaf imi fynd allan yno gyda Titanic, felly mae'r holl flynyddoedd hynny wedi dwyn ffrwyth.
Mae'n ddiddorol mai'r casting cyntaf saith mlynedd yn 么l oedd yr un a gastiodd fi yn Fantastic Four.
Felly saith mlynedd o fynd n么l a blaen ati hi yn uniongyrchol.
Mae na ddywediad yn Hollywood ei bod hi'n cymryd rhyw saith mlynedd i bethe ddwyn ffrwyth felly dwi'n falch mod i wedi symud mas yna a bod fy wyneb yn cael ei gweld a bod pobl yn dod i fy adnabod i.Adolygiad
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad - Fantastic Four
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|