Yn yr Oscars Cameron Diaz fel angyles mewn gwawl o aur meddai Gary Slaymaker
"Mae fel bod yn y Swistir am wythnos a bwyta dim byd ond siocled."
Disgrifiad y beirniad ffilm, Gary Slaymaker, o'r amser a dreuliodd yn seremonïau'r Oscars yn Los Angeles rai blynyddoedd yn ôl.
"Os oes gen ti y diddordeb lleiaf mewn ffilm - dyna binacl dy yrfa di - cael mynd i rywle fel yr Oscars," meddai ar Raglen Sian Thomas ar 91Èȱ¬ Radio Cymru ar drothwy seremonïau 2007.
Dywedodd mai yn y flwyddyn 2000 pan enwebwyd y ffilm Gymraeg Solomon a Gaynor am wobr yr bu ef yn gohebu yno.
"Dyna'r flwyddyn y cliriodd American Beauty bopeth," meddai wrth Sian Thomas.
Y crach a'r pwerus Honno hefyd oedd y flwyddyn olaf i'r seremoni gael ei chynnal yn y Shrine Auditorium - lle dechreuodd y seremonïau - cyn symud i'r Kodak Centre erbyn hyn.
"Yr oedd y Shrine yn edrych fel rhywbeth allan o Ben Hur o'r tu fas - yn wampyn o le ac roedde ti'n gwybod dy fod di wedi landio yng nghanol y crach a'r bobl bwerus i gyd," meddai.
"Er pan oeddwn i'n 15 oed rydw i wedi bod yn gwylio'r Oscars ac roedd cael bod yno . . . yn ffantastig a chael gweld fy arwyr yn y cnawd," meddai.
Angyles mewn gwawl o aur
Ac ni wnaeth neb fwy o argraff arno na Cameron Diaz.
"Yr uchafbwynt oedd gweld Cameron Diaz yn dod heibio o fewn pum troedfedd imi - a dyna'r tro cyntaf dwi di stopo siarad yn llwyr dwi'n meddwl!
"Roedd hi'n stunning. Fe allai gofio heddiw liw ei cholur, pob math o emau oedd hi'n wisgo a lliw ei ffrog. Roedd hi jyst yn stunning. Yr oedd bron math o halo o aur o'i chwmpas hi. Roedd hi wirioneddol fel angel yn cerdded heibio ti," meddai.
Arwr arall Er iddo golli ei lais yn llwyr yn wyneb y fath brydferthwch methu atal llif y geiriau oedd o pan ddaeth wyneb yn wyneb ag arwr arall.
"Gweld rhyw gar bach yn edrych fel Ford Escort yn parcio a gweld y boi tal yma yn dringo mâs mewn dici bo . . .
"O nefi blw, Clint Eastwood, un o'm harwyr pennaf yn y byd.
"Roedd rhyw picket fence fach i'n cadw ni yn y gorlan - wel fe neidies dros hwnnw yn strêt a rhuthro groes y ffordd a jyst bablan . . .
"'Cool down sir,' medde fe a siglo llaw."
Daeth wyneb yn wyneb â Syr Michael Cain yr un noson hefyd - yn ennill ei ail Oscar.
"Roedd [y cyfan] fel bod yn y Swistir am wythnos a bwyta dim byd ond siocled - os oes gen ti'r diddordeb lleiaf mewn ffilm, hwn ydi'r pinacl," meddai.
Ond yr oedd yn feirniadol fod llawer o'r dathlu ffilm yn mynd ar goll erbyn hyn dan gochl y diwylliant selebs gyda mwy o ddiddordeb yn cael ei ddangos gan rai yn yr hyn sy'n cael ei wisgo gan y sêr yn hytrach na'r hyn a gyflawnwyd ar y sgrin.
Cliciwch uchod i glywed sgwrs Gary a Sian yn llawn.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|