Burn After Reading Clooney a Pitt yn groes i'r graen
Y sêr
George Clooney, Frances McDormand, Brad Pitt, John Malkovich, Tilda Swinton, Richard Jenkins.
Cyfarwyddo
Joel ac Ethan Coen
Hyd
96 munud
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Tybed be ydy "Mad-Cap-Comedy-Crime-Caper" yn Gymraeg? Ar lefel hollol arwynebol, dyna un disgrifiad o ffilm ddiweddara'r brodyr Coen o'r Unol Daleithiau, Burn After Reading.
Torrodd y cynhyrchiad bob record ariannol am ffilm annibynnol pan saethodd i frig siartiau ffilm America yn ddiweddar, a chafodd premieres niferus y cynhyrchiad sylw anferthol yn y wasg, diolch yn bennaf i bresenoldeb dau o sêr y ffilm, "Gorgeous Gorge" Clooney a Mr Angelina Jolie, Brad Pitt, ar garpedi cochion gwyliau ffilm rhyngwladol.
Ie, mae'n debyg mai'r ddau yma ydy'r prif atyniad i nifer, ond gwell imi eich rhybuddio, nid Ocean's 14 mo hon ... diolch byth am hynny.
Mynnu gwyrdroadau llwyr Yn hytrach na vanity-project i'r ddau gael arddangos eu dannedd gwynion a'u siwtiau Armani , dyma ffilm sydd yn mynnu gwyrdroad llwyr o'u perfformiadau arferol fel 'goruwch ddynion', er mwyn chwarae dau dwpsyn di-glem mewn cynhyrchiad sydd yn orlawn ohonynt.
Peidiwch â nghamddeall i, dydw i ddim yn sôn am Dumb 'n Dumber o ffilm yma, oherwydd ar un wedd, mae Burn After Reading yn thriller soffistigedig am beryglon paranoia, wedi'i gosod yn Washington DC.
Ond mae hi hefyd yn gomedi ddychanol sydd yn gwneud hwyl am ben rhai o ddinasyddion a gwybodusion honedig "Intelligence Capital" y byd.
Ymhyfrydu mewn arbrofi Os ydy'r gwrthgyferbyniad anghonfensiynol yma yn swnio braidd yn ddryslyd, mae'n werth cofio mai gweledigaeth Joel ac Ethan Coen sy'n tra-arglwyddiaethu dros Burn After Reading - dau ddyn sy'n ymhyfrydu mewn arbrofi ac yn adnabyddus am neidio o un genre i'r llall gyda phob un cynhyrchiad o'u heiddo.
Mae'r ddau wedi cyd-gynhyrchu, cyd-cyfarwyddo, cyd-olygu (a chyd-sgwennu, dan y ffugenw Roderick Jaynes) dros ugain ffilm, gan gynnwys y dramâu Blood Simple a Miller's Crossing, y comedïau tywyll Raizing Arizona, The Big Lebowski a Fargo, y retro-rom-com Intolerable Cruelty, a'r Western cyfoes No Country For Old Men a gipiodd sawl Oscar eleni am gyfuno delweddau hudolus o anialdir Texas gyda chwip o stori am ddialedd un dyn gorffwyll.
Javier Bardem chwareodd y gwallgofddyn hwnnw, gyda bob dychrynllyd am ei ben, a rhaid dweud i'r brodyr barhau â'r thema hair-don't yn dra llwyddiannus yma, wrth i bouffant Brad Pitt bron iawn a llwyddo i ddwyn pob un golygfa yr ymddangosai ynddi.
Arbenigwyr di-glem Y tro hwn, gosododd y brodyr o Minnesota yr her iddyn nhw eu hunain o gyflwyno thriller wleidyddol gyda throad reit allweddol yn y gynffon fod yr "arbenigwyr" yn gwbl ddi-glem, a hynny gan ddilyn confensiynau cyfarwyddo brenin yr action blockbuster, Ridley Scott.
Ac os nad oedd hynny'n ddigon, roedden nhw hefyd yn awyddus i gyflwyno cyfres o gymeriadau digon annymunol y gallai'r gynulleidfa uniaethu â nhw, a chyflwyno'r Bonheddwyr Pitt a Clooney ar ffurf dau sleaze llwyr. A rhaid dweud iddynt lwyddo i raddau helaeth iawn.
Yn wir, serch y pwyslais ar Pitt a Clooney yn yr ymgyrch farchnata, gellid dadlau'n gryf mai ffilm ensemble yw hon, gyda dream cast o actorion sydd â chryn statws yn Hollywood, ac mai'r ddau hync, os rhywbeth, sydd â'r mwyaf i brofi - a'r mwyaf i'w golli.
Y stori Mae'r ffilm yn dechrau mewn swyddfa anhysbys ym Mhencadlys y CIA yn Langley, Virginia, lle cawn ein cyflwyno i'r dadansoddwr Osbourne Cox (John Malkovich) wrth iddo glywed fod ei swydd yn cael ei hisraddio am resymau cwbl annelwig.
Mae hynny'n peri i Cox ymddiswyddo mewn cynddaredd, gyda'r bwriad o sgwennu hunangofiant, rhywbeth sydd y cythruddo'i wraig Katie (Tilda Swinton) meddyg teulu a control-freak o'r radd flaena sydd mewn perthynas odinebus ag un o weision y trysorlys, Harry Pfarrer (George Clooney).
Yn cydredeg â hyn mae stori Linda a Chad (Frances McDormand a Brad Pitt), dau gydweithiwr yng nghampfa Hardbodies sy'n darganfod disg gyfrifiadurol sydd yn cynnwys gwybodaeth o eiddo Cox y mae nhw'n credu sydd yn llawn cyfrinachau gwerthfawr.
Yn erbyn cyngor eu rheolwr Ted - dyn â gorffennol - maen nhw'n mynd ati i geisio hawlio "treth y Samariad Trugarog" oddi wrth Cox; penderfyniad sydd yn arwain at gymhlethdodau anochel ac, wrth i stori'r chwech gyd blethu, oblygiadau dyrys i bawb.
Yn llwyddiant Bu penderfyniad y Coens i gyflwyno hyn oll yn null action blockbusters Ridley Scott, yn llwyddiant yn ystod munudau agoriadol y ffilm, wrth i'r cynhyrchiad ddechrau o bersbectif camera lloeren filltiroedd uwchben y ddaear gan ostwng yn gyflym a glanio mewn coridor ym mhencadlys y CIA, cyn dilyn cerddediad brysiog Malkovich i'r swyddfa.
Caiff hyn ei gyflwyno i gyfeiliant cerddoriaeth gynhyrfus Carter Burwell i ddynodi digwyddiad o bwys gwleidyddol mawr, ar y cyd â gwaith golygu yr un mor slic a chyflym ag a welwyd ychydig funudau ynghynt mewn hysbyseb ar gyfer ffilm diweddara' Ridley Scott, Body of Lies - thriller gwleidyddol am ysbiwyr y CIA gyda Russell Crowe a Leornado Di Caprio!
Adleisir y gerddoriaeth a'r un steil olygu frysiog yn ystod y ffilm, yn ogystal â'r thema o baranoia trosgynnol fod pawb yn monitro pawb, ond rhaid dweud na lwyddwyd i gynnal hynny drwyddi draw, a hynny am un rheswm arbennig; asgwrn cefn y ffilm, sef y sgwennu.
Os oes na un peth sydd yn gyson ym mhob un o ffilmiau'r brodyr Coen, yna deialog ffraeth yw hynny, sydd yn adlewyrchu sgript gref, stori dda a chymeriadau cyflawn.
Yn wir, does dim un cymeriad dibwys yn y ffilm yma.
Tu hwnt o hunanol Mae pob un o gymeriadau Burn After Reading yn bobol tu hwnt o hunanol sydd yn haeddu pob dim sy'n dod i'w rhan ond, ar yr un pryd, mae modd cydymdeimlo'n llwyr â nhw i gyd; o'r cyn ysbïwr chwerw, Cox, sydd ar ganol creisus canol oed ingol o boenus, i'w wraig, y meddyg oeraidd sydd yn orymarferol am ddod â'u priodas i ben; yna Harry, y godinebwr gwangalon gyda'i five mile runs a'i ffug honiadau o fod ag alergedd bwyd i bopeth, hyd at Linda Litzky, is-reolwraig y gampfa fyddai'n fodlon gwneud unrhyw beth er mwyn gallu fforddio total body overhaul o dan y gyllell; ei rheolwr Ted sydd mewn cariad â hi, a'i chydweithiwr Chad, yr hardbody hurt sy'n honni arbenigedd mewn ysbio.
Maen nhw'n gymeriadau y mae actorion yn ffoli arnynt, ac yn wir, y math o rannau y mae ambell un yn ennill llu o wobrau amdanynt, yn enwedig yng nghategori'r Actor neu Actores Gynorthwyol, a hynny am eu bod yn cynnig y rhyddid i actor wneud rhywbeth hollol wahanol i'r arfer gan nad ydynt dan bwysau i "gario'r" ffilm.
Ceir gwledd o berfformiadau cryfion yn y ffilm hon, yn enwedig gan Frances McDormand a Tilda Swinton, ond rhaid canmol Brad Pitt am fynd amdani go iawn gyda'i ddehongliad hynod ddifyr o gym-bunny über-arwynebol sydd yn gwbl ddall i'w dwpdra ei hun.
Yn erbyn y delweddau Yn achos Clooney, wel dyma'i drydydd dehongliad o "Sleazy-Idiot" (yn ôl ei gyfaddefiad ei hun) mewn ffilm gan y brodyr Coen (yn dilyn O Brother, Where Art Thou? ac Intolerable Cruelty), ac mae'n amlwg ei fod yntau yn cymryd yr un dileit mewn chwarae yn erbyn ei ddelwedd arferol ag y mae'r brodyr yn eu cael wrth greu'r cymeriadau ar ei gyfer.
Yn fwy na dim, mae cymeriadau Burn After Reading yn rhai sy'n cynrychioli pobol sydd ymhell o fod yn effeithiol wrth eu gwaith, ac eto maent yn hapus i gael eu diffinio yn ôl eu proffesiwn oherwydd gwacter eu bywydau.
Mae'n dwyn i gof y mantra "Nobody Knows Anything", a fathwyd gan y sgwennwr sgriptiau William Goldman, wrth ddatgelu nad oes na ffasiwn beth â fformiwla bendant o lwyddiant yn Hollywood, a bod na elfen o siawns wrth ryddhau pob un ffilm.
Mae'r brodyr Coen yn sicr yn ymgorffori'r ethos yma, a hyd yn oed gyda'u hymdrechion lleiaf llwyddiannus (mewn termau ariannol o leiaf) mae ôl meddwl ac arbrofi.
Fel gwyliwr, mae'n braf iawn gwybod bod na ambell i ffilm sy'n ganlyniad i ffatri gynhyrchiol o syniadau creadigol, sydd ddim yn ofni herio confensiynau, ac sydd yn trin ei chynulleidfa gyda pharch.
|
|