Harry Potter and the Prisoner of Azkaban Dewin y sbectols crwn yn dal i hudo - trydedd ffilm yn fwy dewinol fyth
Y sêr Daniel Radcliffe, Rupert Grint, Emma Watson, Gary Oldman, Michael Gambon, Robbie Coltrane, David Thewlis
Cyfarwyddwr Alfonso Cuarn
Sgrifennu Steven Kloves
Hyd 141 munud
Sut ffilm Mae hyd yn oed pobl nad ydyn nhw erioed wedi gweld ffilm Harry Potter yn gwybod sut bethau ydyn nhw a'r farn gyffredinol yw fod hon, y drydedd, gymaint yn well na'r ddwy arall a enillodd gymaint o gymeradwyaeth.
Yr hyn sy'n fwyaf gwahanol, ar gyfer y selogion yw fod cyfarwyddwr newydd gydag Alfonso Cuarn o Fecsico wedi cymryd yr awennau oddi ar Chris Columbus a wthiodd y cwch llwyddiannus hwn i'r dwr.
Maen nhw'n dweud mai ffilm fwyaf adnabyddus y cyfarwyddwr newydd cyn hyn ydoedd un 'or enw, Y Tu Mama Tambien am ddau fachgen yn cael perthynas rywiol â dynes brofiadol!
Ond yn groes i un awgrym dydi hynny ddim yn arwain at Hermione (Emma Watson) yng ynganu'r geiriau beiddgar, "Is that your wand or are you just pleased to see me" wrth Harri (Daniel Radcliffe)!
Yn sicr, yn nwylo Cuarn mae Harry Potter wedi aeddfedu a thyfu o fod yn blentyn o ddewin a chlywir defnyddio'r gair "bitch" yn y bennod ddiweddaraf hon!Y stori Ar ei ddychweliad i Ysgol Hogwarts i ddewiniaid mae Harry yn cael ei erlid gan y difelig Sirius Black (Gary Oldman) sydd wedi dianc o garchar Azkaban.
Yr her i Harry yw datrys y dirgelwch sydd yna ynglyn â Siius a threchu'r Dementors, gwarchodwyr aflunaidd Azkaban sydd nid yn unig ar warthaf Sirius ond a'u llygaid ar Harry ei hun.
Y darnau gorau beth bynnag am ddarnau gorau y creadur gorau ydi'r Hippogryff trawiadol - creadur sy'n rhannol geffyl a rhannol eryr. Creadigaeth wefreiddiol y mae technoleg ddigidol yn llwyddo i'w wneud ymddangos yn anifail go iawn.
Mae golygfa fer y forwyn glanhau wrth y drws yn goglais.
Perfformiadau Y mwyaf deheuig heb os yw Oldman fel Sirius a David Thewlis fel Professor Lupin. Sylweddolir hefyd fod Hermione yn datblygu ac yn aeddfedu'n gorfforol ac i'r amser ddod i fanteisio ar ddoniau diamheuol Emma Watson yn y cyfeiriad hwnnw.
Un golled, fodd bynnag, yw nad yw Richard Harris gyda ni mwyach i chwarae rhan prifathro Hogwarts, Albus Dumbledore.
Yn cyflawni'r swydd honno, yn dilyn marwolaeth Harris, mae Michael Gambon a'r gyffelybiaeth sy'n cael ei chynnig yw, George Lazenby yn dilyn Sean Connery fel James Bond. Dim llawer o fajic yn fanna felly!
Gystal â'r trelar? Go bring an fod yr awr gyntaf yn tueddu i dindroi a dydi'r diwedd ddim yn gwneud llawer o sens ychwaith.
Y canlyniad Cymaint y dilyniant unllygeidiog i Harry Potter byddai'n anodd iawn creu ffilm nad yw'n mynd i'w plesio. Ond mae lle i gredu y gall y Prisoner ennill ambell i edmygydd newydd hefyd.
Gwerth mynd i'w gweld Er yn llawer rhy hir ar gyfer y stori denau rhaid gweld y ffilm yn y sinema gan na all unrhyw beiriant fideo neu DVD ddygymod â'r holl effeithiau rhyfeddol.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|