The Last King of Scotland (2007) Dan hud y bwystfil hoffus
a hanner
Y sêr
Forest Whitaker, James McAvoy, Gillian Anderson, David Oyelowo
Cyfarwyddo
Kevin MacDonald
Hyd
121 munud
Adolygiad gan Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm?
Profiad o gyfarwyddo ffilmiau dogfen sydd gan Kevin MacDonald a dyma'r tro cyntaf iddo gynhyrchu ffilm nodwedd ffuglen.
Er hynny, mae hon yn stori naturiol a synhwyrol iddo fynd i'r afael â hi gan ei bod wedi'i seilio ar ddigwyddiadau go iawn.
Y stori
Mae'r ffilm yn dilyn Nicholas Garrigan (McAvoy) sydd newydd raddio'n feddyg mewn prifysgol yn yr Alban ac er mwyn ehangu ei orwelion yn penderfynu mynd i gynorthwyo cleifion yn Uganda.
Wedi cyrraedd y wlad daw yn rhan o'r newid a fu yno ar ddechrau'r Saithdegau pan ddaeth Idi Amin yn brif weinidog y wlad.
Gan fod gan Amin hoffter o'r Alban oedd yn ymylu ar fod yn afreal mae'n gwahodd Garrigan i fod yn feddyg personol iddo.
O dipyn i beth mae Garrigan yn difaru derbyn y gwahoddiad o weld bod y rhethreg ysbrydoledig ac egwyddorol a ddefnyddiodd yr arweinydd mawr ar ddechrau'i deyrnasiad yn cuddio gwirionedd erchyll o hil-laddiad a chamdrin ar raddfa anhygoel.
Y canlyniad
Mae'r ffilm yn orlawn o densiwn, awyrgylch a chyffro pur.
Fe'i ffilmiwyd yn Uganda ei hun ac mae hynny'n sicr yn ychwanegu at realaeth yr hyn a welwn ar y sgrîn.
Mae'r stori'n llyfn iawn er ar adegau yn rhy slic ac o ganlyniad yn sgimio dros rai o'r ffeithiau creulon.
Mae diffyg cyffredinol yn y golygu o bryd i'w gilydd (pam bod angen y berthynas gyda chymeriad Gillian Anderson gan nad yw'n arwain at ddim?)
Hefyd, mae perthynas Garrigan ag un o wragedd Amin yn hollol anghredadwy ond rwy'n derbyn ar yr un pryd fod creu sefyllfa ddramatig fel hon wedi ychwanegu at y stori a'r tensiwn.
Rhai geiriau
• Wedi i alltudio Asiaid Uganda o'r wlad gael ei feirniadu gan y wasg ryngwladol, mae Amin yn mynnu gwybod pam nad yw Garrigan wedi ei rybuddio i beidio â mynd ymlaen â hyn a phan fo Garrigan yn ceisio dweud ei fod wedi ei rybuddio, mae Amin yn troi a dweud; "Ond wnes di ddim fy mherswadio, Nicholas."
Ambell i farn
• Mae'r Guardian yn canmol Forest Whitaker i'r cymylau drwy ddweud: "Uwchlaw popeth arall, mae hwn yn arddangosiad anhygoel o actio cymeriad gan Forest Whitaker mewn rôl ysgeler a dieflig. Mae gwobrau wedi eu creu ar gyfer perfformiadau fel hyn."
• "Mae'r plot yn troi yn enbydus o agos at Hollywood pan fo'r meddyg yn cychwyn perthynas gydag un o wragedd Amin. Ond mae Whitaker ar dân, a phan yw ef ar y sgrîn mae'n eich cadw yn hollol glwm i'r ffilm" meddai Rolling Stone.
Perfformiadau
• Mae portread Whitaker o Idi Amin gyda'r gorau a welais erioed wedi ei seilio ar gymeriad go iawn.
Weithiau'n swyno'r gynulleidfa gyda'i natur hawddgar a'i doniolwch ond wedyn yn troi'n berson mwyaf iasoer.
Mae'n llwyr ddarbwyllo'r gynulleidfa pa mor bosib yw hi i arweinydd hudo cenedl gyfan ac ar yr un pryd fod ei gelyn gwaethaf.
• Nid oeddwn wedi sylweddoli pa mor dalentog oedd James McAvoy nes ei weld ar y rhaglen deledu Shameless ar Channel 4.
Mae ei weld ar y sgrîn fawr yn cadarnhau fod ganddo bresenoldeb a gallu arbennig.
Mae'n hawdd ei gymharu gydag Ewan McGregor ifanc - ac mae hynny'n dipyn o ganmoliaeth.
Er yn chwarae cymeriad gorhyderus a ffaeledig llwydda i wneud hynny mewn modd hoffus ac nid yw byth yn colli eich cydymdeimlad yn llwyr.
• Er mai cymeriad ymylol mae'n chwarae mae perfformiad David Oyelowo fel cyd feddyg i Garrigan yn yr ysbyty yn un cadarn iawn gyda nifer o'r golygfeydd y mae ynddynt yn gwbl allweddol i'r stori.
Darnau gorau
• Does dim golygfa fwy cyffrous na'r un lle mae Garrigan yn amddiffyn Amin rhag ymgais i'w lofruddio mewn car.
Mae siots camera cyflym a'r symudiadau afreolus gan y ddau wrth geisio ffoi yn drawiadol dros ben.
• Mae'r olygfa sy'n darlunio bywyd bras Idi Amin - y partis, alcohol a merched - yn wrthgyferbyniad effeithiol iawn gyda bywydau tlawd a syml dinasyddion Uganda ar y pryd.
Gwerth ei gweld?
Ni amharodd y gwendidau y cyfeiriais atynt ar fy mwynhad o'r ffilm mewn unrhyw ffodd.
Mae'r amseru, rhythm a strwythur bron a bod yn berffaith a chyda pherfformiadau mor wefreiddiol bydd hon yn un o'r ffilmiau gaiff barch mawr am flynyddoedd i ddod.
Os na fydd yr Academy yn dyfarnu Oscar i Forest Whtaker am ei berfformiad byddaf yn bwyta fy nhocyn sinema!
Dyma'r ffilm orau a'r un bwysicaf i ddeillio o goffrau arian cyhoeddus Prydain ers blynyddoedd maith.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|