Hope Eternal Euog fyd ar ei waethaf a'i orau
Hope Eternal (2008)
Y sêr
Christine Rochat Genoud, Richard Harrington, Lusungha Munthali a Shane Williams fel ef ei hun.
Cyfarwyddo
Karl Francis.
Sgrifennu
Karl Francis.
Adolygiad Aled Edwards
Cyfoethogwyd y profiad o fynd i weld Hope Eternal yn Chapter, Caerdydd gan barodrwydd y Cyfarwyddwr, Karl Francis, i drafod ei waith ac i dderbyn cwestiynau wedi dangos y ffilm.
Datgelu gwirionedd Fel rhywun fu'n ymwneud yn agos â ffoaduriaid o'r gwledydd Affricanaidd sy'n cael eu trafod yn y ffilm, ceir un rhinwedd mawr yn y gwaith - mae'n datgelu gwirioneddau am fywydau beunyddiol y bobl hyn sy'n anodd i'r byd cyfoethog Gorllewinol ei ddeall!
Cysgod marwol AIDS dros fywydau pobl; trais a rheibio yn realiti dyddiol;
Y teithio blêr a diddiwedd;
Y llu o ieithoedd a geir yno;
Pwysigrwydd y ffydd Gristnogol i'r cyfandir
A'r drafferth a geir ynghylch dogfennau yn arbennig wrth geisio teithio i Ewrop.
Y mae'r cyferbyniadau cryfion i gyd yno.
Yn gyfochrog â Christnogaeth ceir parodrwydd mamau i adael eu plant a'u gwerthu am arian.
Yn y byd hwn, ceir prinder dŵr glân ond fe geir defnydd cymharol rwydd o'r rhyngrwyd mewn ambell fan.
Ceir aberth a dewrder anhygoel sy'n deillio o argyhoeddiad mawr ond ceir parodrwydd parhaus i ddweud celwyddau bach er mwyn cael byw.
Hollol gredadwy Y mae byd Hope (Christine Rochat Genoud) yn hollol gredadwy.
Trafodir y trais a'r rheibio a ddioddefodd yn blentyn, ei gwaith yn nyrs yn cynorthwyo eraill a'u gobaith parthed y dyfodol yn arbennig drwy lygaid ei merch Bantu (Lusungha Munthali) sy'n graddol ddod i garu Shane Williams a'i ddawn.
I mi, cafwyd gwirioneddau hefyd ynghylch pwy yw'r Cymry.
Un o gymeriadau mwyaf allweddol y ffilm yw'r meddyg, Evan (Richard Harrington). Diolch i'r drefn, gwelodd Karl Francis ymhellach na'r ystrydeb ddioglyd a ddarlunnir bron yn ddieithriad erbyn hyn o'r hyn sy'n weddill o ymneilltuaeth Gymreig.
Datgelir yn onest taw gwerthoedd da magwraeth Capel Cymraeg ei blentyndod a ysgogodd Evan i fynd i Affrica yn y lle cyntaf.
Yno, mae'n cyflawni gwaith aruthrol ac yn colli ei fywyd drwy ddatgelu gwirioneddau am lygredd a thrais y cyfandir. Y mae hefyd yn ddynol ei gariad yn ei berthynas â Hope, yn danbaid ei ymrwymiad i rygbi ac yn naturiol ei gyflwyno o Shane Williams i Bantu - ei ferch fabwysiedig.
Cenhadon Yn ystod y trafod wedi'r ffilm roedd Karl Francis yn llym â holwr a oedd am iddo feirniadu cenhadon am yr hyn sy'n digwydd yn Affrica. Heb wadu'r un gwirionedd poenus ynghylch ymddygiad ambell offeiriad neu fynach wrth drin plant, roedd Francis yn onest ei ganmoliaeth o waith anhygoel cenhadon Cymreig ac aberth Cristnogion sy'n gweithio yn Affrica heddiw yn wyneb anawsterau erchyll.
Dwi'n adnabod y math o bobl a bortreadir yn y ffilm; sy'n anfon faniau o ddeunydd meddygol i wledydd o'r fath. Y maen nhw yno yn llawnder eu daioni.
Ffilm yw hon sy'n trafod gobaith yn y modd mwyaf gonest. Y mae Hope ac Evan, o gefndiroedd cwbl wahanol, yn mynd ati i wasanaethu eraill drwy drin eu clwyfau; eu diogelu rhag trais a rheibio rhywiol a herio llygredd a thrïais ar wyneb mwy strwythurol y rhai sy'n meddu ac yn arddel grym yn Affrica.
Mewn byd sy'n llawn creulondeb a chyferbyniadau creulon ceir yr un ffydd, yr un cariad a'r un gobaith.
Chwalu llwch Ar y diwedd, o gwmpas llestri Cymun y Capel Cymraeg traddodiadol, gwelir Hope a'r atgof sydd ganddi o Evan yn cyfranogi o gorff a gwaed y Crist a ddioddefodd drais yn noeth ar y Groes.
Priodol, wedi hynny oedd dwyn llwch Evan i Stadiwm y Mileniwm ar gyfer eu gwasgaru gan Bantu a Shane Williams at y man yn ein bywyd cenedlaethol lle y byddwn ni yn dathlu'r Bread of Heaven.
Ar ddiwedd y ffilm daeth geiriau mawr Gwilym Hiraethog i'r cof am "Dyma gariad" a'r Duw sy'n "cusanu euog fyd".
Gwych iawn, iawn. O weld y ffilm hon, disgwyliwch weld yr euog fyd ar ei waethaf a'i orau.
Rhagor am 'Hope Eternal'
|
|