The Boy in the Striped Pyjamas (2008) Arswyd yr Holocost i blant
Y sêr
David Thewlis Vera Farmiga Rupert Friend Richard Johnson
Cyfarwyddo
Mark Herman
Hyd
94 munud
Adolygiad Aled Edwards
Ffilm yw hon am droeon teulu dosbarth canol Almaenig cyffredin ym Mhedwardegau'r ganrif ddiwethaf a gafodd ei hun yng nghanol gweithgaredd cwbl ddieflig y Natsïaid. A rhaid cofio taw ffilm o eiddo Walt Disney UK yw hon.
Pobl gyffredin Beth bynnag arall a ddywedir am y gwaith y mae'n llwyddo i ddatgelu a thanlinellu un gwirionedd hanesyddol.
Nid bwystfilod o fyd anwar oedd y Natsïaid ond pobl gyffredin oedd yn gwneud pethau cyffredin a wnaeth bethau erchyll.
Fe wnaethon nhw hynny o gefndir holl fendithion gwareiddiad Cristnogol cyfandir Ewrop ar y pryd. Hynny'n wir sy'n gwneud yr hyn a ddigwyddodd mor ofnadwy o frawychus.
Mae'r ymdriniaeth hanfodol deuluol hon yn agor drws felly i fath arbennig o drafod y testun. Gwelir yr hil laddiad drwy lygaid plentyn. Yn hyn o beth, fe lwyddodd y cyfarwyddwr, Mark Herman, i wneud ei waith.
Dadleuon Dengys golygfeydd agoriadol y ffilm y dadleuon a oedd yn sicr o godi ar aelwydydd rhai o'r swyddogion a fyddai'n mynd ati mewn modd mor fecanyddol i ddifa cymaint o'u cyd-ddynion.
Yn fwyaf arbennig, y mae gwragedd teulu Bruno (Asa Butterfield) wyth oed yn amheus o'r Natsïaid ac yn mynegi hynny'n dawel.
Ond, y mae'r tad, Ralf (David Thewlis) yn mynnu mynd ymlaen i gyflawni ei waith yn y gwersyll crynhoi ac fel y mae'r ffilm yn datblygu gwelir Elsa (Vera Farmiga), mam Bruno, yn cyrraedd y dychryn mawr nad milwr da a dyn anrhydeddus oedd ei gŵr.
Y mae'r ddeialog gyda'r chwaer Gretel (Amber Beattie) hefyd yn llwyddo i ddangos grym propaganda Hitler ar feddyliau ifanc.
'Fferm' ryfedd Daeth newid ar fyd Bruno a'i deulu wedi i'w dad gael ei benodi yn un o uchel swyddogion un o wersylloedd difa'r Natsïaid a'r Bruno diniwed yn tybio taw gofalu dros fferm y mae ei dad. Ond fferm od lle y mae gwas y tŷ sy'n plicio tatws yn feddyg!
Daw'r cyn feddyg hwn ag erchyllterau'r gwersyll crynhoi i'r aelwyd.
Y mae'r Bruno ifanc yn gweld y 'fferm' o'i lofft ac yn clywed arogl atgas y ffwrneisi. Y mae hefyd yn cael rhwydd hynt i grwydro at ffens y gwersyll lle mae cyfeillgarwch rhyfedd yn tyfu rhyngddo a'r carcharor ifanc, Shmuel (Jack Scanlon).
Gormod o her Er na fynnwn i fod yn llawdrwm ar actorion ifanc fe gefais y teimlad bod mawredd a hiwmor y sgript yn ormod iddyn nhw weithiau.
Cefais hefyd yr ymdeimlad taw'r hyn a oedd yn digwydd oedd llefaru geiriau yn hytrach nag actio.
Ac er bod Shmuel wedi ei goluro'n dda mae'n edrych yn rhyfeddol o iach!
Mae'r acenion Seisnig o eiddo'r ddau blentyn hefyd yn gryf ac yn drawiadol.
Llwyddo Ar y cyfan, credaf i Herman lwyddo i gadw'r cydbwysedd priodol rhwng datgelu gwirionedd erchyll yr Holocost a chyfarfod â gofynion cynhyrchu ffilm 12A.
Yn glyfar iawn, datgelir gwirionedd yr hyn a ddigwyddodd nid drwy ddangos cyrff ond drwy ddangos tomen o ddoliau noeth yn seler y tÅ·.
Roedd hynny'n wirioneddol drawiadol.
Os am ddangos rhywbeth o'r Holocost i blentyn 12 oed mae'r ffilm hon yn dderbyniol ac, yn fwyaf arbennig, mae'r diweddglo trawiadol wedi ei fesur yn ofalus ond yn gwbl erchyll ar yr un pryd.
Byddai datgelu'r diwedd trawiadol hwnnw yn difetha gweld ffilm cwbl ddewr sy'n llawn gwerth pris y tocyn.
|
|