The Golden Compass (2007)
Y sêr
Nicole Kidman, Daniel Craig, Dakota Blue Richards, Eva Green, Ian McKellen, Sam Elliot
Cyfarwyddo
Chris Weitz
Sgrifennu
Chris Weitz - yn dilyn y gyntaf mewn triawd o nofelau gan Philip Pullman.
Hyd
113 munud
Sut ffilm
Ffantasi antur - heb fod cweit yn ffantastig - i blant gyda phlant sy'n cyfarfod pob math o gymeriadau brith yn amrywio o gowboi mewn awyren falwnaidd i Arth Mawr Gwyn sy'n siarad ac yn gwisgo arfwisg.
Y stori
Mae Lyra (Dakota Blue Richards) a'i ffrindiau yn byw mewn byd cyfochrog â'n hun ni gyda naws y Tridegau yn gryf drosto. Ond yr hyn sy'n gwneud y byd hwn yn wahanol iawn i'n byd ni yw fod 'eneidiau' y bobl yn eu canlyn ar ffurf anifeiliaid a adnabyddir fel 'daemons'. Cred gyfarwydd i frodorion Americanaidd a rhai o lwythau Affrica. Mae'r anifeiliaid hynny yn amrywio o berson i berson - i adlewyrchu ei natur mae'n debyg - gydag un o'r prif gymeriadau, Yr Arglwydd Asriel (Daniel Craig), ewythr Lyra, yn cael ei ganlyn gan lewpard gosgeiddig ond y cowboi gan ysgyfarnog.
Gyda phlant gall ffurf y 'daemon' newid o un peth i'r llall gyda Lyra weithiau'n garlwm o ran ysbryd, weithiau'n aderyn ac yn y blaen. Ond wrth i'r unigolyn aeddfedu a heneiddio collir y gynneddf arbennig hon ac erys y 'daemon' yn sefydlog.
Cyn symud i oerni'r Arctig mae'r ffilm yn cychwyn yn hafan dysg Rhydychen - lle mynychodd Pullman, awdur y llyfr gwreiddiol, yr un coleg JRR Tolkien , ond nid ar yr un pryd - lle mae dwy garfan benben a'i gilydd.
Y Magisterium ffwndamentalaidd a'i phwyslais ar drefn a rheolaeth o bobl ond y garfan arall a gynrychiolir gan yr Arglwydd Asriel, anturiwr yn nhraddodiad H M Stanley a'i debyg, yn hyrwyddo ewyllys rydd a rhyddid yr unigolyn.
Mae ef newydd ddarganfod bodolaeth llwch hud cosmig yn yr Arctig sy'n cyfuno cyfanfydoedd cyfochrog.
Yn y cawl hefyd mae Mrs Coulter (Nicole Kidman) yr wyddones brydweddol a hardd sydd â labordy ym mhegwn y gogledd lle mae'n gwahanu plant oddi wrth eu heneidiau er mwyn cael gwell rheolaeth drostynt.
Pan yw'n cipio ffrind Lyra mae Lyra'n naturiol yn teithio tua'r gogledd i'w achub gan gario gyda hi gwmpawd hud a gafodd gan ei hewythr i hyrwyddo ei thaith - y cwmpawd yw'r unig 'alethiometr' sydd ar ôl a hwnnw'n fodd nid i ddangos y ffordd i rywle ond i ddangos y gwir am bobl a digwyddiadau.
Mae llygad Mrs Coulter ar hwnnw hefyd wrth gwrs.
Ar ei thaith daw Lyra ar draws pob math o greaduriaid yn gyfeillion ac yn elynion gan gynwnwys gwrach dda, Serafina Pekala (Eva Green) a'r cowboi Lee Scoresby (Sam Elliot) gyda'r mwyaf lliwgar ohonynt ochr yn ochr â'r arth mawr gwyn o'r enw Iorek Byrnison sy'n gwisgo arfwisg (llais Ian McKellen).
Daw y cyfan i ben gyda'r holl elfennau yn ymuno mewn brwydr fawr ym mhellafion oer y gogledd eithaf.
Rhai geiriau "Rhyfel yw'r môr yr ydw i'n nofio ynddo a'r awyr yr wyf yn ei hanadlu. Hebddo nid wyf ddim," meddai Iorek Byrnison.
Y canlyniad Gellir bod yn eithaf sicr fod hon yn ffilm y byddai'n well dod ati heb fod wedi eich trwytho yn nofelau Philip Pullman - un o awduron plant mwyaf meddylgar a dadleuol y cyfnod presennol yn y Saesneg gyda'i ddaliadau atheistiaidd ac yn un a ystyrir gan ei edmygwyr yn J K Rowling y darllenwyr hynny sy'n meddwl! Heb os mae The Golden Compass yn cynnig dipyn mwy na Harry Potter, er mor boblogaidd ydi hwnnw.
Er bod yma sawl golygfa drawiadol fel yr ymladdfa rhwng yr eirth gwynion a'r frwydr fawr rhwng pawb tua diwedd y ffilm dydi The Golden Compass ddim yn cydio'n llwyr a hynny mae'n debyg am mai ffilm sy'n gosod y cefndir yw hon, yn cyflwyno'r cymeriadau, yn agor y gyfres.
O bosib, hefyd, nad yw tasg Lyra yn cydio ddigon yn nychymyg rhywun a hynny oherwydd na lwyddwyd i gyfleu gyda digon o argyhoeddiad y perygl i dynged y plant yn labordy Mrs Coulter.
Gydol y ffilm dyw'r syniad o wir berygl ddim yn cael ei gyfleu na'r ffaith bod unrhyw beth yn dyngedfennol.
Dim ond mewn rhannau y mae'r Golden Compass| yn rhagorol - nid fel cyfanwaith ac fe ddown o'r sinema yn teimlo inni weld pennod gyntaf rhywbeth gan ysu am weld beth ddaw nesaf yr wythnos nesaf.
Ond fe fydd hi'n llawer iawn hwy na'r wythnos nesaf arnom yn cael ein digoni wrth gwrs - ac er mai yn yr un sefyllfa yn union yr oeddem ar ddiwedd pennod gyntaf Lord of the Rings yr oeddem ar ddiwedd honno o leiaf yn teimlo inni gael gwledd a fyddai'n ddigon i'n digoni tan y pryd nesaf.
Mae'r Golden Compass fodd bynnag yn fwy o gwrs cyntaf - yn llenwi twll heb ddigoni'n llwyr.
Perfformiadau Heb fod erioed wedi actio o'r blaen ac heb fod erioed eisiau actio dim byd o'r blaen, nes iddi glywed am ran Lyra yn y nofelau a fwynhaodd gymaint, mae Dakota Blue Richards yn argyhoeddi'n llwyr fel arwres gyda'r cyfuniad bron a bod yn berffaith o ddiniweidrwydd plentynnaidd a rhyw ddoethineb a chrebwyll mwy na'i hoed. A chydag enw fel yna fyddai rhywun yn synnu dim ei gweld hi'n mynd yn bell chwedl hwythau.
Mor ymylol yw ei ran, mae rhywun yn synnu iddynt wario cymaint ar enw fel Daniel Craig heb wneud gwell defnydd ohono ond diau y digwydd hynny yn y ffilmiau nesaf gan nad yw ond megis cysgod o gymeriad o'i gymharu â'r cowboi Lee Scoresby o Texas y mae Sam Elliot yn mwynhau gymaint ei chwarae a'r llais bendigedig yna yn treiglo'n swrth ar draws y sgrin fel triagl dros gerrig mân. Ef, ydi 'cymêr' y ffilm yn fwy felly na'r Arglwydd Asril.
Anodd meddwl am Nicole Kidman fel dewines ddieflig ond y mae serch hynny fin i Mrs Coulter - ond tybed fod gan hynny fwy i'w wneud a'r mwnci coch sy'n ei chanlyn. Marciau llawn, felly, i'r mwnci coch!
Golygfeydd cofiadwyBrwydr y ddau arth gwyn.
Marchogaeth yr arth gwyn dros yr anialdir eira.
Y frwydr olaf ar dir ac yn yr awyr.
Cysylltiad Cymreig Bu Philip Pullman yn ddisgybl yn Ysgol Ardudwy, Harlech, pan oedd ei dad gyda'r lluoedd arfog yn yr ardal ac yn awr ei fod yn enwog mae'n manteisio ar bob cyfle i dalu teyrnged i'r Gymraes, Enid Jones, a oedd yn athrawes Saesneg iddo am ei gymell a'i feithrin.
Rai blynyddoedd yn ôl daeth y Cyngor Llyfrau a'r ddau at ei gilydd mewn cynhadledd llyfrau plant yn Abergele pan oedd Pullman ond yn dechrau dod yn adnabyddus. Ers hynny daeth yn un o bileri amlycaf llenyddiaeth plant yn y Saesneg - ac mae'n dal i gydnabod ei ddyled i'w athrawes ac yn anfon copi o bob llyfr newydd iddi.
Gwerth ei gweld Yn werth ei gweld, ydi. Beth bynnag, ni fydd yr ail yn y triawd o ffilmiau yn gwneud synnwyr heb fod wedi gweld hon.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Shaun Ablett
|
|