The Simpsons Movie (2007) Gwahaniaeth barn - rhai'n canmol rhai'n siomedig - Do'h
Cyfarwyddwr David Silverman Sgrifennu Matt Groening, James L Brooks ³§Ãª°ù Dan Castellaneta, Julie Kavner, Nancy Cartwright, Yeardley Smith, Harry Shearer.
Gydag 11 o sgrifennwyr, dwy flynedd o sgrifennu a thros gant o ddrafftiau cyn bodloni ar fersiwn terfynol, cymysg fu'r ymateb i'r ffilm Simpsons gyntaf erioed.
Yn y ffilm, dywed 91Èȱ¬r ei hun, tra'n gwylio stribedi cartŵn mewn sinema: "Pam ydym ni'n talu am wylio yr hyn allwn ni ei weld am ddim gartref?"
A dyna'n union sut y mae sawl un wedi ymateb i The Simpsons Movie ei hun gan gwyno nad yw'r ffilm awr a hanner yn ddim mwy na rhyw dair pennod arferol o'r gyfres ar bennau'i gilydd ac yn cynnig dim byd mwy, dim byd gwell na dim byd gwahanol i'r hyn a geir ar y teledu gartref.
Ond un na fyddai'n cytuno â hyn o gwbl yw Gareth Potter a fu'n gweld y 'mwfi' gyda Kate Crockett ar gyfer y rhaglen radio, Stiwdio.
"Ydi e'n gweithio fel ffilm?" meddai. "Ydi, mae'n wych a bod yn onest. Mae'n hilarious."
"Mae popeth sydd yn y rhaglen deledu yna - ac mae'n gweithio fel ffilm.
"Mae'r stori, y plot ei hun, yn eithaf enfawr - maen nhw'n jyst safio'r byd. Dyna beth sydd yna. Ac mae hwnna'n gweddu fel action film format dwi'n meddwl," meddai.
"Mae'r jôcs yn brilliant ac maen nhw'n trio ffitio popeth i mewn .
Dydi o ddim yn dechrau gyda 'soffa gag' ond mae yna un yna a dyw e ddim yn gadael iti anghofio mai ffilm o raglen deledu yw e," ychwanegodd.
Cwyno
Ond dyna'r union beth y bu sawl beirniad yn cwyno amdano gyda Cosmo Landesman yn y Sunday Times yn mynd cyn belled a dweud fod y y ffilm yn rhoi enw drwg i'r teulu rhyfeddol hwn: "Ruining the family's good name
Ac wedi dweud fod y ffilm yn siom ychwanega; "Os ydych am ei wneud yn fwy rhaid ichi ei wneud yn well - neu o leiaf gystal â'r sioe ar ei gorau."
"Os ydych am drosglwyddo cyfres deledu i'r sgrin fawr oni ddylech chi wneud rhywbeth i'w gwneud hi edrych yn wahanol?" meddai.
"Ond dyw'r ffilm ddim digon doniol i gynnal 90 ar sgrin," meddai.
Wedi eu siomi hefyd roedd adolygwyr y Spectator a'r New Statesman ac i raddau llai, yr Observer
Yn gweithio Ond meddai Gareth Potter:
"Roeddwn i wedi meddwl y byddai 90 munud o jyst gags, gags, gags, yn ormod ond dyw e ddim reali. Mae e yn gweithio."
Ychwanegodd ei bod yn ogystal a bod yn 90 munud o chwerthin yn ffilm "eithaf difrifol" hefyd.
"Maen nhw'n mynd i lefydd na fedran nhw fynd ar y y teledu," meddai.
"Os ydych chi'n leicio'r Simpsons dydych chi ddim yn mynd i gael eich siomi. Os nad ydych chi wedi'u gwylio nhw o'r blaen mi fyddwch chi eisiau prynu y box set i gyd dwi'n siŵr," meddai.
Apelio at bawb "Y peth gorau am y Simpsons yw eu bod yn apelio i bawb, pobl hen, pobl ifanc, pobl sy'n hoffi slapstic a phobl sy'n hoffi hiwmor mwy dychanol - mae e'n anhygoel," meddai.
Gyda chymaint o amrywiaeth barn, mae'n sicr yn ymddangos mai'r unig beth i'w wneud yw gweld y ffilm eich hun a phenderfynu wedyn.
Fyddai hynny ddim yn ddefnydd ffôl o'ch hamser!
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad gan Kirsty Jones
Adolygiad gan Carys Mair Davies
|
|