Taliesin Jones Blas Americanaidd ar ffilm o Gymru Gwewyr bachgen sy'n gallu iachau
Ar ôl i'r ffilm Gymreig, The Testimony of Taliesin Jones, gael ei dangos yn yr Unol Daleithiau yr oedd cant a hanner o ferched ifainc ar warthaf yr actor a chwaraei'r brif ran - wedi mopio ag ef ac eisiau ei lofnod!
Yn ôl Ben Goddard, un o'r cynhyrchwyr, cafodd y ffilm am fachgen ysgol synhwyrus o Gymro, sy'n darganfod fod ganddo y gallu i iachau, dderbyniad da yn yr Unol Daleithiau.
Actorion newydd a hen lawiau A hithau yn un o'r ffilmiau cyntaf i'w dangos yng Ngwyl Ffilm Ryngwladol Cymru yng Nghaerdydd yr oedd y disgwyliadau yn uchel oherwydd ei chymysgedd o actorion ifainc newydd a hen lawiau fel Jonathan Pryce, Geraldine James, Griff Rhys Jones a'r diweddar Ian Bannen a fu farw yn dilyn damwain car tra'r oedd y ffilm yn cael ei saethu.
Yng Ngwent y bu'r ffilmio gyda John-Paul Macleod 15 oed o Borth Talbot yn chwarae rhan mab fferm sy'n darganfod ei alluoedd cyfrin yn sgil ei gyfeillgarwch a iachawr lleol, Billy Evans (Ian Bannen).
Mae'r berthynas rhwng Taliesin ac Evans, ei athro piano, yn un dyner a dwys gyda Macleod yn rhoi cyfrif da ohono'i hun.
Mae Bannen, fel y byddai rhywun yn disgwyl, yn ddi-feth.
Priodas wedi chwalu Yn y stori a sylfaenwyd ar lyfr gan Rhidian Brook, mae tad Taliesin Jones (Jonathan Pryce) a'i fam (Geraldine James) wedi gwahanu ac y mae effaith hyn ar y teulu a'r crwt ifanc yn elfen bwysig yn yn y ffilm.
Chwaraeir rhan ei frawd gan Matthew Rhys a'i athro yn yr ysgol yw Griff Rhys Jones..
Er y llwydda'r ffilm i fynd i'r afael a themau amrywiol yn foddhaol y mae rhywbeth ynglyn a'r cynhyrchiad sy'n golygu nad yw'n llwyr daro deuddeg.
Ar adegau, cefais y teimlad fod y gynulleidfa yn cael ei chadw hyd braich.
Blas Americanaidd Ac er wedi ei lleoli yng Nghymru, gyda golygfeydd Cymreig, blas a meddylfryd Americanaidd sydd i'r ffilm mewn gwirionedd. Yn y golygfeydd yn ymwneud â'r ysgol mae'r plant yn llawer rhy clean-cut i fod yn naturiol - gyda hyd yn oed y dihirod drwg yn rhy dwt a glân i argyhoeddi.
Y mae rhywbeth yn eisiau yn rhai o'r perfformiadau unigol hefyd a dydi Griff Rhys Jones, yn sicr, ddim yn gwisgo mantell athro ysgol yn gyfforddus iawn.
Mae Macleodd, fodd bynnag, yn gwbl argyhoeddiadol fel y disgybl synhwyrus, gwahnol, sy'n ceisio dygymyod â holl drybestod ei fywyd personol a'r ffaith mai plentyn yr ymylon yw e.
Yr oedd ef a rhai o'r actorion eraill yn bresennol yn y dangosiad.
Her a sbardun Am y ffilm, dywedodd: "Yr oedd cysyniad y sgript yn her gan roi imi y sbardun yr oeddwn ei angen. Teimlwn fy mod yn gwybod beth oedd Tal yn ei feddwl ac yr oedd y gefnogaethg a gefais gan bawb yn galonogol.
"Y mae'n ffilm gwbl Gymreig ond gydag apêl ryngwladol, dwi'n meddwl. Y mae ei gredoau yn croesi pob ffîn a rhwy'n gobeithio y bydd hynny'n amlwg i bawb sy'n gweld y ffilm."
Ac yntau yn ymddangos ym mhob golygfa bron nid oes amheuaeth na fu hon yn her arbennig i'r actor ifanc sy'n awr yn mynychu ysgol ddrama yn Llundain.
Bu The Testimony of Taliesin Jones yn ffilm hawdd a dymunol i'w gwylio gyda'i themau amrywiol a'r berthynas ddiddorl rhwng pobol yn cynnal diddordeb.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|