Abraham's Point (2008) Dilyn y ffordd i le'n byd!
Y Sêr Mackenzie Crook, Ifan Huw Dafydd, Gwyn Vaughan Jones, Sharon Morgan
Cyfarwyddo Wyndham Price
Sgrifennu Wyndham Price
Hyd 110 mun
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Mae Abraham's Point yn dilyn hanes adferwr dodrefn o'r enw Comet Snape (Mackenzie Crook) sy'n byw mewn fflat unig yn Llundain.
Taith dyn yr hunllefau
Yn gymeriad swil a mewnblyg mae e ofn dŵr ac yn methu'n lân a chysgu gan ei fod yn dioddef o hunllefau dychrynllyd.
Anwybydda bob galwad gan ei fam (Sharon Morgan), sy'n erfyn arno i ddychwelyd adre i Gymru i weld ei dad (Gwyn Vaughan Jones) sy'n sâl.
Trwy gyfres o ôl fflachiadau sy'n datgelu trychineb glan môr down i ddeall mai'r cefndir hwn sy'n gyfrifol am ei anhunedd.
Yn dilyn cyngor gan ei reolwr ceisia Comet wellhad drwy hypnotherapi a'r driniaeth honno yn deffro rhyw ysfa ynddo i brynu cloc wyth niwrnod o gartref un o'i gwsmeriaid.
Yn dilyn sawl tro trwstan, mae'n cael gafael ar y cloc ac yn dechrau ar y daith adre i Abraham's Point yng nghwmni cyfres o gymeriadau gwahanol.
Ffilm ffordd
Mae'r ffilm yn rhyw fath o road-movie swreal ond rhaid cyfaddef imi ddiodde cryn dipyn o salwch teithio wrth i'r ffilm wyro'n aml oddi wrth y stori gan fynd ar gyfeiliorn yn llwyr.
Efallai bod "ffyrdd syth yn boring", ond ag ystyried mai taith o Lundain i benrhyn Gwyr a geir yma, ro'n i'n crefu am i Comet ffeindio'r M4 unwaith yn rhagor inni gael cyrraedd yn gynt.
Wrth gwrs, fydde hi ddim yn road-movie heb y "daith" drosiadol a'r arwr yn 'darganfod' ei hun ac, yn wir, ceir yma ddigon o wersi bywyd i bara oes, diolch i gynghorion y gamblwr carismatig, yr arlunydd sy'n gweithio gyda chnau Ffrengig, y pianydd anghonfensiynol a'r gyrrwr loris cyffredin.
Os rhywbeth, y gyrrwr loris argyhoeddodd fwyaf gan mai Jim (Ifan Huw Dafydd, neu Dic Deryn i chi a fi) oedd yr unig un i siarad unrhyw sens gyda'r Comet mud a dihiwmor.
Mae Mackenzie Crook, sy'n chwarae rhan Comet, yn bennaf adnabyddus fel Gareth, lefftenant lled seicotig David Brent yn The Office, ac mae'n bleser gen i ddweud ei fod yn llwyddo yma i gyflwyno cymeriad llawn pathos.
Fy unig feirniadaeth yw fod peryg i'r Comet annwyl dueddu weithie tuag ar begwn y "loser" i'r sbectrwm ddolurus - ond ni all actor ond gwneud y gorau o sgript wan!
A sôn am sgript wan, mae rhywbeth yn ddiflas iawn mewn ffilm sy'n orlawn o regfeydd diangen.
Sylw i Gymru Yn naturiol, â nawdd ariannol gan Gronfa ED Creadigol y Cynulliad ac Asiantaeth Ffilm Cymru yn y fantol, bu'n rhaid wrth elfen Gymreig a hynny'n arwain at lawer o sôn am "Wales" ond heb gyfeirio at nunlle'n benodol ar wahan i'r Abraham's Point dychmygol.
Ond fe welwyd heolydd cefn diri a chloddiau gwyrddion Sir Fynwy a Bro Morgannwg, ac ambell gip atmosfferig o Fannau Brycheiniog.
Ond dechreuais holi wrtha i fy hun erbyn diwedd y ffilm, beth yn union oedd pwynt yr holl beth?
Hynny yw, nes inni gyrraedd yr olygfa olaf un, o ffermdy anghysbell uwchlaw traeth Rhosil - golygfa odidog o bersbectif hofrennydd - wnaeth egluro rhywfaint ar yr hyn symbylodd Wyndham Price i sgwennu a chyfarwyddo'r ffilm yn y lle cyntaf.
Ond tila iawn yw'r emotional payoff ar achlysur yr aduniad mawr o flaen y ffermdy hwnnw, ac rwy'n dal i ofyn y cwestiwn a yw'r olygfa olaf o'r awyr yn cyfiawnhau bron i ddwyawr o grwydro a mwydro?
Mae gen i ofn mai na go gadarn yw fy ateb.
|
|