Evan Almighty(2007) Adolygiad gan Shaun Ablett
Y Sêr: Steve Carell, Morgan Freeman, Wanda Sykes, John Goodman, Lauren Graham
Cyfarwyddo: Tom Shadyac
Sgrifennu: Steve Oedekerk
Hyd: 96 Munud
Rwy'n siŵr y byddwch yn cofio'r ffilm ddoniol iawn yn 2003, Bruce Almighty, gyda Jim Carrey yn chwarae'r prif gymeriad.
Er nad yw Carrey yn ôl fel y prif y cymeriad, mae'r ffilm hon hefyd yn un gwerth i'w gwylio.
Steve Carell, sef Evan Baxter o'r ffilm gyntaf, yw'r prif gymeriad y tro hwn gyda Morgan Freeman nôl yn chwarae rhan Duw.
Erbyn hyn mae gan Evan Baxter swydd newydd yn Virginia a'i obeithion am y dyfodol yn uchel.
Ond, mae anifeiliaid yn dechrau'i ddilyn i bob man ac mae barf na all ei rheoli yn tyfu ar ei wyneb a phob tro mae'n eillio mae hi'n aildyfu'n syth.
Ar ben hynny mae celfi a darnau o bren yn cyrraedd ei dÅ· ac mae'n gweld y rhif 614 ym mhob man.
Wedyn, mae Duw yn troi lan, gan ddweud wrtho am adeiladu arch oherwydd y bydd dilyw arall cyn bo hir!
Tra bo hyn yn digwydd mae Evan yn cael droi o'i swydd am fis a'i wraig Joan a'i blant yn ei adael nes bo Duw yn perswadio Joan i'w helpu adeiladu'r arch.
Ond pan ddaw y diwrnod mawr a'r anifeiliaid yn ddiogel yn yr arch nid oes dim byd yn digwydd.
Ond, mae Evan yn cofio sut yr adeiladwyd argae gerllaw yn anghywir er mwyn arbed arian; felly mae pawb yn mynd i'r arch a chawn weld y llifogydd yn ei chario.
Pan beidia'r llifogydd dywed Duw wrth Evan fod yn rhaid gwneud ymdrech i helpu eraill os am newid y byd.
Er na fu'r ffilm hon yn llwyddiant o ran gwerthiant tocynnau dros y byd fe'i hoffais i hi mas draw.
Mae Steve Carell yn ddoniol iawn fel Evan Baxter - ond fe fyddwn i'n dweud hynny a minnau wedi mwynhau pob ffilm a wnaeth hyd yn hyn gan gynnwys The 40 Year Old Virgin.
Yn ôl ei arfer mae Morgan Freeman yn arbennig, hyd yn oed fel Duw, sy'n siŵr o fod yn rhan anodd iawn i'w chwarae.
Mae'r ffilm hefyd yn enghraifft dda iawn o fendithion technoleg CGI a ddefnyddiwyd i greu yr anifeiliaid i gyd. Ffilm ddoniol iawn.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
|