Mean Girls Perswadio gennod annifyr i fod yn neis-neis
Y sêr Lindsay Lohan, Rachel McAdams, Lacey Chabert, Amanda Seyfried, Tina Fey
Cyfarwyddwr Mark S Waters
Sgrifennu Tina Fey - wedi ei sylfaenu ar lyfr Americanaidd gyda theitl digon hir i fod yn baragraff agoriadol, Queen Bees and Wanabees: Helping your Daughter Survive Cliques, Gossip, Boyfriends and Other Realities of Adolescence
Hyd 97 munud
Sut ffilm Ar yr olwg gyntaf, un arall o'r myrdd o gomedïau ysgol Americanaidd yn fwrlwm o ferched bronnog, hirgoes, mewn sgertiau cwta ac o fechgyn cydnerth, llamserchus, yn pledu jôcs amrwd. Er bod yr holl ystrydebau hyn yn bresennol buan iawn y gwelwn fod yna fwy o ddychan deifiol nac o oglais yn Mean Girls wrth i Tina Frey ddamnio meddylfryd y giang sy'n gwneud bywyd yn uffern i'r sawl nad yw'n un o'r clic derbyniol.
Mae bywyd ysgol yn cael ei ddarlunio fel jyngl gyda'r 'anifeiliaid' ddant yn nant, grafanc yng nghrafanc yn y ffordd neisiaf posib wrth i'r gwenau teg guddio'r gwenwyn ar y tafod.
Y stori Beth bynnag am y stori y ddamcaniaeth yw nad ydi genethod yn eu harddegau ddim yn neis wrth ei gilydd. Yn wir mi fedran nhw fod yn wirioneddol annifyr a'r neges yw na ddylen nhw fod felly ac nad yw unigolyn ar ei ennill o fod yn gas wrth eraill.
Er mwyn dangos hynny lluniodd Tina Fey stori am Cady Heron (Lindsay Lohan) - sydd wedi ei magu yn Affrica a'i dysgu gartref gan ei rhieni - yn dod i fyw i'r America lle mae'n gorfod cychwyn mynd i ysgol.
Yn yr ysgol buan iawn y gwel Cady ddiniwed fod yn rhaid perthyn i'r gang iawn o ferched gyda'r Plastics dan arweiniad yr atgas y brydweddol Regina (Rachel McAdams) yn drechaf o'r gangiau hynny.
Mae Cady a'i chyfaill Janis (Lizzy Caplan) sy'n gas ei hwyneb gan Regina yn cynllwynio i Cady dreiddio i gymdeithas y Plastics er mwyn eu trechu ond, och, wele Cady yn mwynhau bod yn un ohonyn Nhw a dod yn Blastig yr un mor atgas ei hun.
Ond cyn diwedd y ffilm, yn dilyn araith emosiynol gan un o'r athrawon, Ms Norbury (Tina Fey yr awdur) caiff ei darbwyllo mai bod yn glên ac yn gyfeillgar â phawb sy'n talu. Wedyn, mae pawb yn byw mewn cytgord byth wedyn.
Y darnau gorau Cady yn 'gweld' ei ffrindiau yn ymddwyn fel anifeiliaid.
Gair neu ddau Mae gan y myfyrwyr eu geiriau mewnol eu hunain: Frenemy: yw rhywun yr ydych yn smalio ei hoffi. Gucci hootchie: merch gyda dillad drud ar gorff salw. Grotsky little byotch: rhywun sy'n rêl niwsans. Queenbee: arweinydd carfan o ferched. Regina er enghraifft. Awesome: gair plastig am fendigedig. Frankfurter boots: esgidiau duon gyda chriau sy'n cau at y pen gliniau.
Ambell i farn "Ffraeth, pigog ac hanfodol wir," meddai gwefan Saesneg y 91Èȱ¬ gan gyfeirio hefyd at "gomedi ddeifiol" y ffilm.
Ond wrth feirniadu'r ffilm am fod yn simplistig ac amlwg dywedodd beirniad arall nad ydi Mean Girls yn ddim byd amgenach na ffilm gan oedolion y mae eu cydwybod yn eu brathu am iddyn nhw fod yn gas ac yn annifyr efo'u cyfoedion pan yn eu harddegau!
Gystal â'r trelar? Ydi.
Y canlyniad Ffilm ffraeth, rhugl a difyr sy'n cadw diddordeb rhywun o'r dechrau i'r diwedd er yn ddigon ystrydebol a siwgwraidd o ran neges.
Gwerth mynd i'w gweld Yn well na'r rhelyw o'r ffilmiau hyn ac mae'r fferins llygaid yn dal yna.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|