Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007) Pum cynnig - a'r pumed yn orau
Y sêr
Daniel Radcliffe, Rupert Grint, Emma Watson, Gary Oldman, Imelda Staunton.
Cyfarwyddo
David Yates.
Ysgrifennu
Michael Goldenberg.
Hyd
Dwy awr 40 munud (ond mae o leiaf 30 munud o hynny yn hysbysebion.)
Adolygiad Ffion Miles
Sut ffilm?
Dyma'r bumed ffilm yn y gyfres fyd-enwog sy'n dilyn llyfrau J K Rowling.
Maen nhw'n cynnig mai ffilm ar gyfer plant yw hi ond gyda'r stori yn tywyllu a'r cymeriadau'n aeddfedu, mae'r 12A yn angenrheidiol.
Y stori
Erbyn Order of the Phoenix, mae Harry wedi cyrraedd pumed flwyddyn ei addysg yn Hogwarts School of Witchcraft and Wizardry, er nid yw'n cael cymaint o gysur o fod gyda'i gyd-ddewiniaid erbyn hyn.
Mae'r Ministry of Magic a'r Daily Prophet, papur newydd y byd hudol yn prysur berswadio pawb mai celwydd yw honiad Harry iddo weld yr arglwydd tywyll, Voldemort, yn dychwelyd i'w gorff (yn y ffilm ddiwethaf).
Mae hyd yn oed ei arwr a phrifathro'r ysgol, Dumbledore, yn osgoi edrych arno.
I wneud pethau'n waeth, mae Prof. Umbridge, athrawes sydd, o bosib, yn fwy creulon na Snape, hen elyn Harry, yn prysur gymryd drosodd yr ysgol ar ran y weinyddiaeth.
Ond mae gan Harry rai ffrindiau sydd am ei gredu ac maen nhw'n awyddus iawn iddo ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen i allu mynd allan a brwydro yn erbyn cefnogwyr Voldemort.
Mae'r dosbarthiadau cudd hyn yn cynnig hefyd y cyfle am ychydig o ramant i Harry.
Ond pethau prin yw'r adegau hapus iddo erbyn hyn ac yntau'n gorfod wynebu ei elyn - a hefyd y gwirionedd - ni all pawb o'i ffrindiau oroesi'r frwydr.
Y canlyniad
Rhaid imi gyfaddef fy mod yn adolygu'r ffilm hon fel un sy'n ffan enfawr o'r llyfrau ac felly yn setlo'i lawr gyda fy mhopcorn, yn gwybod yn union beth sydd am ddigwydd.
Ond nid yw hyn byth yn amharu ar fy mwynhad o'r ffilmiau, er gwaethaf rhai camgymeriadau anfaddeuol.
Serch hynny, fel yn y llyfrau, rhaid cofio cliwiau a chymeriadau o'r ffilmiau blaenorol erm mwyn dilyn yn iawn daith Harry - ac felly mae'n bosib y bydd y rhai sydd erioed wedi darllen y llyfrau yn colli ystyr rhai elfennau o'r stori. Wedi'r cyfan, mae popeth yn arwain at y llyfr/ffilm olaf, a rhaid disgwyl cryn dipyn am hynny.
Ond i mi, wrth i'r llyfrau aeddfedu, mae'r ffilmiau yn gwella hefyd.
Y tro hwn, mae awduron y ffilm wedi llwyddo'n sicr i gwtogi ar lyfr hiraf y gyfres heb golli cnewyllyn y stori.
Yn wir, wrth roi mwy o amser ar y sgrin i Voldemort nac a gaiff yn y llyfr, rydym yn cael ein hatgoffa am y cysgod tywyll sy'n ymestyn dros fywyd Harry.
Gwelir hefyd ragor am berthynas Harry a'i dad bedydd, Sirius, wrth iddo rannu ei bryderon am ei faich.
Gwelwn hefyd fwy o Ginny, chwaer Ron - beth ddywed hynny am y dyfodol?
Perfformiadau Er nid yw Dan Radcliffe (Harry) yn tyfu cyn gyflymed a'r ddau arall, mae ei bortread o Harry, erbyn hyn yn teenagerllawn cythrwfl, yn fwy na derbyniol. Mae Rupert Grint (Ron) mor ddoniol â'r arfer ac Emma Watson (Hermione) yn dal i wneud cyfiawnder â gwrach fwyaf dawnus yr ysgol.
Mae Imeldga Staunton (Prof. Umbridge) wedi cipio gymeriad cythruddol a phitw yr athrawes hon yn wych.
Er mai rhan fechan sydd ganddi mae Helena Bonham Carter yn ddewis da ar gyfer Bellatrix, prif gefnogwr Voldemort sydd braidd yn wallgof yn dilyn blynyddoedd o garchar.
Dywedodd yr actores Ivanna Lynch iddi hi weld ei hun yn chwarae rhan Luna Lovegood, y ferch freuddwydiol ond llawn doethineb.
Felly nid wyf yn siŵr os mai actio ynteu chwarae ei hun yw Ivanna- ond mae hi'n sicr yn siwtio'r rhan.
Oherwydd yr holl gymeriadau newydd, nid ydym yn gweld cymaint o Alan Rickman fel Snape na Robbie Coltraine fel Hagrid, ein hoff gawr, ond da yw gweld Gary Oldman yn dychwelyd fel Sirius Black - er, yn fy marn i, nid yw'n ddigon golygus (mae'r llyfrau llawn o bytiau am edrychiad a hunanhyder y cymeriad hwn)
Y llyfr olaf Fel un a ddarllenodd y llyfr olaf yn y gyfres dros nos gydag aelodau eraill o gynhadledd Harry Potter (dywedais fy mod yn ffan!) rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld yr holl antur ar y sgrin fawr yn y blynyddoedd i ddod.
Er, rwy'n pryderu o weld mai enwau Cymraeg sydd gan nifer o'r cefnogwyr drwg yn y llyfr olaf - Selwyn, Enid a Gellert. Cymrwch ofal!
Cysylltiadau Perthnasol
Catrin Heledd yn y premier
Adolygiad arall
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|