The Polar Express Technoleg yn drech na'r stori ar drên i wlad Santa
Y sêr Tom Hanks, Daryl Sabara, Nona gaye, Peter Scolari.
Cyfarwyddwr Robert Zemeckis
Sgrifennu William Broyles Jnr yn dilyn stori luniau Chris Van Allsburg.
Hyd 120 munud
Sut ffilm Ffantasi Nadolig sentimental tra Americanaidd ei naws am blentyn yn dysgu gwir neges y Nadolig - ond nid Nadolig Bethlehem na'r preseb ond un Santa Clôs a'i sacheidiau o anrhegion.
Ffilm lled animeiddiedig yw hon - hynny yw cafodd ei saethu fel un go iawn gyda'r cymeriadau yn cael eu hanimeiddio wedyn.
Y math o ffilm y byddai llawer o oedolion yn credu y byddai'n llesol i blant ei gweld.
Y stori Pan yw'n gorwedd yn ei wely noswyl Nadolig mae'r Arwr Bach (Daryl Sabara) nad yw'n credu yn Santa .yn cael ei ddeffro gan sŵn trên y Polar Express yn stopio yn y stryd y tu allan i'w gartref.
Caiff ei berswadio gan y giard, neu gondyctor (Tom Hanks), i deithio i Begwn y Gogledd a gwlad Santa gyda nifer o blant eraill fel Y Bachgen Bach Trist (Peter Scolari) a'r Ferch Fach Ddu (Nona Gaye) sydd hefyd yn dal yn eu pyjamas wedi eu codi o'u gwelyau gan y trên.
Y darnau gorau Mewn ffilm sy'n hwrli-bwrli o ruthro a rasio mae sawl golygfa gyffrous wrth i'r Polar Express hyrddio drwy'r nos a thrwy bob math o drafferthion tua gwlad Santa.
Mae un olygfa ryfeddol o'r trên yn sglefrio ar draws y rhew ac yn torri'n rhydd yn null roller coaster.
Golygfeydd hynod ddramatig yn ôl y rhai hynny sydd â mynediad i sinemâu 3D IMAX.
Perfformiadau Anodd deall rhesymeg cael actor o safon Tom Hanks a'i droi o wedyn yn gymeriad prennaidd heb fywyd yn ei wyneb na'i lygaid ond dyna wneuthuriad y ffilm.
Dywedodd un beirniad fod yr olwg ar wyneb y plant yn ei atgoffa o gymeriadau Village of the Damned gyda'u llygaid gweigion, di-weld - ac mae hynny gystal disgrifiad â'r un.
Gystal â'r trelar? Yn dipyn o siom mewn gwirionedd.
Ambell i farn Cymysg fu'r ymateb gyda rhai wedi gwirioni ond eraill yn teimlo i'r hyn mae'n nhw'n ei alw yn glasur o stori luniau gan Chris Van Allsburg gael ei difetha a'i haberthu ar allor technoleg.
Does yna fawr o ganmol ar y dull o droi pobl yn animeiddion.
Disgrifiodd un beirniad y profiad fel cael eich waldio am 105 o funudau gyda morthwyl marsipán!
Y canlyniad Siomedig. Er bod digon o gyffro mae'n anodd cymryd y ffilm o ddifrif yn sgil symudiadau prennaidd y cymeriadau.
Bydd y moesoli Americanaidd siwgwrllyd yn codi cyfog ar eraill ac ers pryd mae credu yn Santa a chael presant yn wir ystyr y Nadolig?
Mae hwn yn Nadolig cwbl ddi-breseb a chwbl faterol.
Yn y pen draw mae'r ffilm yn amddifad o wir deimladrwydd a chynhesrwydd ac yn dibynnu'n bennaf ar olygfeydd trawiadol a chyffro afreolus.
Rhai geiriau "Does yna ddim anrheg gwell na chyfeillgarwch."
"Nid yw wahaniaeth lle mae trên yn mynd - y peth pwysig yw penderfynu ymuno ag ef."
"Weithiau, y pethau mwyaf real yn y byd ydi'r pethau hynny na allwn eu gweld."
Gosodiadau ymddangosiadol ddwys na fyddai'n talu i bendroni gormod drostyn nhw!
Nodyn technegol Yn ystod y saethu gosodwyd offer ar gyrff yr actorion i gofnodi eu symudiadau ar gyfrifiadur a fyddai wedyn yn trosglwyddo'r symudiadau hynny yn rhai animeiddiedig.
Drwy hyn, gallodd Hanks chwarae nid yn unig ran y giard ond hefyd dad yr Arwr, pyped Scrooge, Santa a thrempyn sy'n teithio ar do y Polar Express!
Faint callach yw rhywun o gael gwybod hynny, anodd dweud. A yw'r ffilm yn well o fod wedi gwneud hynny sy'n amheus iawn!
Gwerth mynd i'w gweld Roedd rhai wedi gwirioni - eraill ddim. Beth wnewch chi o hynna?Mae'n werth dweud i'r plant oedd yn bresennol wrando'n astud a gwylio'n dawel - y rhan fwyaf ohonyn nhw yn gyfarwydd â'r stori wreiddiol.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|