In Prison My Whole Life Bywgraffiad, stori dditectif a thaith dywyll
Cyfarwyddo: Marc Evans
Sgwennu: Marc Evans a William Francombe
Hyd: 93 munud
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Ar Ragfyr 9, 1981, dedfrydwyd gyrrwr tacsi a newyddiadurwr croenddu o'r enw Mumia Abu-Jamal i farwolaeth am lofruddio heddwas gwyn o'r enw Daniel Faulkner yn Philadelphia.
Ar yr un diwrnod, ganed Will Francombe yn Llundain i rieni wnaeth bwynt o atgoffa'u mab o'r cyd-ddigwyddiad hwn ar bob pen-blwydd.
Dechrau ymchwilio Rai blynyddoedd yn ôl, ac yntau'n ddyn ifanc yn ei ugeiniau, dechreuodd ymchwilio i achos y carcharor a fu dan glo ers diwrnod ei enedigaeth.
Mae canlyniad yr ymchwil, sef y ffilm ddogfen hon, yn gyfuniad o fywgraffiad, stori dditectif a thaith dywyll i galon pwdr system gyfiawnder yr Unol Daleithiau.
Mae'n ffilm sy'n perthyn i Will gymaint ag yw i'r cyfarwyddwr Cymraeg, Marc Evans, a ddaeth i gyswllt â'r dyn ifanc trwy'r cynhyrchydd Livia Giuggioli-Firth.
Mae'n dechrau mewn ffordd hynod drawiadol. Gofynnir i'r gynulleidfa ystyried am funud, ac ar ddiwedd y munud hwnnw, clywir lais deallus ac angerddol y carcharor dan sylw, o un o'i areithiau radio cyhoeddus a ddarlledir yn yr Unol Daleithiau, yn disgrifio bywyd ar Death Row.
Crynhoir y profiad trwy bwysleisio mai'r hyn a wneir fwyaf mewn cell ydy aros. Yn benodol, aros i farw.
O fewn dim, cawn ein cyflwyno i'n tywysydd, Will; dyn ifanc breintiedig a fagwyd yn rhannol yn Llundain ac ar Long Island, Efrog Newydd.
Hanes y nosonCrynhoir ei berthynas ef ag Mumia Abu Jamal a dilynwn ei daith wrth iddo geisio tyrchu i hanes cymhleth noson y "llofruddiaeth" - sydd yn ein atgoffa fod America y cyfnod hwnnw - ac yn arbennig gwleidyddiaeth leol a heddlu Philadelphia - yn berwi o densiynau hiliol.
Darlunir dinas oedd ymhell o ymgorffori'r "City of Brotherly Love", er gwaethaf ymffrost lleoliad y Liberty Bell a'r man yr arwyddwyd y Datganiad Anibyniaeth ym 1776.
Datgelir yr anghysondebau a'r camgymeriadau cyfreithiol a arweiniodd at ddedfrydu Mumia Abu Jamal i farwolaeth, bydded yn euog neu'n ddi-euog o'r cyhuddiad.
Cawn hefyd gyfarfod nifer o'r bobol sydd yn ymgyrchu ar ran apêl y carcharor am achos tecach ac eraill sy'n gwrthwynebu'r gosb eithaf.
Hefyd, clywn am y ffordd y cafodd unrhyw wrthwynebiad gan bobol groenddu yr Unol Daleithiau i status quo y cyfnod ei dawelu trwy ddulliau cwbl ffasgaidd - a bod hyn yn dal i ddigwydd i raddau helaeth.
Mae ffigurau amrywiol iawn ymhlith y cymeriadau sy'n goleuo'r ymchwilydd ifanc - a thrwyddo ef, y gynulleidfa - ar hyd y daith hon, o'r athronydd Noam Chomsky a'r ymgyrchwraig wleidyddol, Angela Davis, hyd at yr awdures Toni Morrison a'r artistiaid cerddorol Mos Def, Snoop Dogg a Steve Earle.
Fodd bynnag, cynhelir y cyfarfyddiad pwysicaf - rhwng Will Francombe a Mumia Abu Jamal ei hun - y tu ôl i ddrysau caedig y carchar maximum security gwledig ger Waynesburg, Pennsylvania, am i system gyfiawnder y dalaith honno basio cyfreithiau i gyfyngu ar ei hawliau dynol, a hynny yn ei enw ef.
Defnydd deallusMae ei absenoldeb corfforol yn amlwg gydol y ffilm, ond gwneir defnydd helaeth a deallus o'i areithiau a'i lais dwfn ac awdurdodol, sydd yn dwyn i gof ddull areithio trydanol yr ymgyrchydd Dr Martin Luther King a'r Arlywydd newydd, Barrack Obama.
Dydy Will ei hun ddim yn bresenoldeb arbennig o garismataidd; yn wir, mae na beryg weithie iddo ymddangos fel petai allan o'i ddyfnder yng nghwmni'r radicaliaid a'r deallusion.
Ond, serch hynny, mae yna rywbeth gonest ac apelgar am ei ddiniweidrwydd gan fod ei syndod o ddarganfod rhai ffeithiau moel yn adlais o'n hanwybodaeth ninnau fel cynulleidfa am ddigwyddiadau na chyrhaeddodd newyddion lleol y cyfnod, heb sôn am raglenni newyddion rhyngwladol.
Mae na sawl peth trawiadaol iawn am y ffilm ddogfen hon. Nid yn unig fod yma stori ddynol sydd yn cystadlu ag unrhyw un o flocbysters Hollywood am y profiad o fod ar Death Row - gan gynnwys The Shawshank Redemption, The Green Mile a Dead Man Walking - ond cyflwynir hynny mewn ffordd hynod ffres trwy gyfuno gwaith camera a golygu sy'n symud yn gyflym gyda defnydd diddorol o archif, cerddoriaeth addas, a hyd yn oed gwaith animeiddio difyr.
Ffilm gyntafMae'n werth nodi mai dyma'r ffilm gyntaf i dderbyn cefnogaeth swyddogol Amnest Rhyngwladol ac mae hefyd yn addas iawn fod yna gysylltiad agos rhwng y cynhyrchiad a'r cyfrwng newydd MySpace Film ac mae hanes byw y stori yn parhau i dynnu sylw wrth i'r naill a'r llall hyrwyddo'i gilydd.
Wnes i ddim disgwyl mwynhau gymaint y profiad o wylio'r ffilm gan fod iddi stori mor dywyll ar un wedd ond, yn wir, yr hyn a gafwyd oedd gwledd i'r synhwyrau ac ro'n i'n falch iawn imi deithio'r holl ffordd i Aberteifi i'w gweld - lle'r oedd hi'n agor Gŵyl Ffilm Theatr Mwldan 2009.
Bydd dangosiad o In Prison My Whole Life yng Nghanolfan y Chapter, Caerdydd, fis Mawrth 2009 ac mae manylion am ddangosiadau eraill ar wefan y ffilm a'r dudalen MySpace.
Cysylltiadau Perthnasol
|