The Constant Gardener Gwaith chwynnu yn Affrica
Y sêr
Rachel Weisz, Ralph Fiennes, Danny Huston, Bill Nighy, Hubert Koundé
Cyfarwyddo
Fernando Meirelles
Sgrifennu
Jeffrey Caine ar sail nofel gan John le Carre
Hyd
129 munud
Sut ffilm
Cymysgedd o stori serch deimladwy, stori gyffro, a dichell gwleidyddol gyda chwmni cyffuriau byd-eang yn ddrwg yn y caws.
Y stori
Gwelir y diplomydd swil Justine Quayle (Ralph Fiennes) yn ffarwelio â'i wraig danbaid, llawn delfrydau, Tessa (Rachel Weisz) mewn maes awyr cyn iddi adael gyda meddyg du ar daith fewnol yn Affrica.
Darganfyddir ei chorff wedi ei losgi ac mae'r meddyg wedi diflannu.
Am ran go lew o'r ffilm olrheinir wedyn sut y daeth dau mor ymddangosiadol anghymarus aQuayle a Tess yn gariadon ac yn ŵr a gwraig.
Buan iawn y daw yn amlwg fod ymchwiliadau Tess i weithgareddau amheus cwmnïau cyffuriau mawrion yn Affrica wedi sathru ar gyrn pobl o bwys ac o ddylanwad gan gynnwys rhai o fewn y Llywodraeth yn Llundain.
Mae Justine yn ymroi i ddatrys y dirgelwch gan anesmwytho diplomyddion a rhai eraill o'i gwmpas a gwneuthurwyr cyffuriau meddygol sy'n llai na gonest yn eu hymwneud a thrueiniaid Affrica. Caiff ei ddal mewn gwe o dwyll a chynllwyn.
Mae'r stori yn crwydro o goridorau grym ym Mhrydain i gefn gwlad dlawd, beryglus ac ysblennydd Affrica gyda diweddglo dramatig.
Y canlyniad Ffilm hynod afaelgar sy'n gweithio fel stori garu dau berson tra gwahanol ac hefyd fel stori gyffro lawn tyndra gydag amheuon dirif pwy sy'n gyfaill a phwy sy'n elyn.
Ychwaneger at hyn olygfeydd naturiol trawiadol ac mae gennych ffilm a stori sy'n dal eich sylw o'i chychwyn i'w diwedd.
Dialog afaelgar, dynn a brathog.
Perfformiadau Mae Fiennes yn llwyddo gyda'i berfformiad o'r diplomydd swil ac ofnus sy'n cael ei orfodi gan amgylchiadau i fyd o dwyll a dichell er mwyn darganfod beth ddigwyddodd i'w wraig. Mewn gwirionedd, does yna ddim byd yn hoffus yn Tessa ei hun acmae'n glod i berfformiad Rachel Weisz ein bod ninnau yn dod i bryderu amdani ohewydd cymaint cariad ei gŵr tuag ati. "Does gen i ddim cartref," medda fo. "Tessa ydi fy nghartref i." Mae perfformiad Danny Huston o gydweithiwr i Justin a chyfaill iddo ef a Tessa yn iasol. Un o gameos gorau'r ffilm - sydd ond yn osgoi bod yn gartwnaidd trwy drwch blewyn - yw un Bill Nighy.
Gystal â'r trelar?
Ydi - ac yn y flwyddyn newydd mae hon yn dal i dynnu cynulleidfaoedd.
Ambell i farn Gafaelgar a deallus yn ôl gwefan y 91Èȱ¬. Sylwodd yr Observer ar ddyled y ffilm i nofel wreiddiol le Carre a dyled y nofelydd hwnnw i Grahame Greene a'i nyddu storïol nodweddiadol.
Rhai geiriauDim ond Duw sy'n gwybod popeth - ac mae o'n gweithio i Mossad.. Beth ddigwyddodd i'r ffisig? Gafodd o'i drawsnewid i'r car y daethoch chi yma ynddo?Y merched sy'n gwneud y cartrefi - y dynion sy'n gwneud y rhyfeloedd.Mae Duw yn cydio yn dy galon a'r diafol yn cydio yn dy geilliau..
Gwerth ei gweld Heb os - ffilm gyffro sy'n cynnig rhywbeth i gnoi cil arno hefyd.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|