Y Lleill Rhywbeth i rywun arall . . .
Y sêr Rhian Green, John Reynolds, Gethin Evans
Cyfarwyddwr
Emyr Glyn Williams
Hyd
94 munud
Adolygiad Rhodri Ll Evans
Dyma ffilm ddwyieithog am fand - Y Lleill - o ardal chwarelyddol yng nghefn gwlad Cymru a'i hynt a'i helynt wrth ddatblygu'n rhan (yn fwriadol neu'n anfwriadol) o'r Sîn Roc Gymraeg.
Mae Y Lleill yn sŵn gwahanol a'u caneuon yn cyfleu angst ieuenctid sy'n byw mewn pentref cysglyd a diflas - ardal sydd fel petai'n mygu creadigrwydd a'r hawl i fynegi.
Cynnig cyfle Felly, er nad yn blot cwbl wreiddiol, mae ei gyd-destunoli â Chymru, y 'Sîn', Cenedlaetholdeb a thranc y Fro Gymraeg yn cynnig cyfle euraidd i fynegi neges o sylwedd i'r gynulleidfa ynghylch llawer o faterion cyfoes yn ogystal â'u diddanu.
Yn anffodus, mae'n gyfle a gollwyd.
Haeddu canmoliaeth Teg crybwyll rhai o'r pethau sy'n haeddu canmoliaeth cyn dechrau gweld bai.
Mae'r trac sain yn un gwreiddiol, amrywiol a chwbl berthnasol ac wedi ei briodi â'r golygfeydd ar y sgrin yn bur effeithiol.
Roedd ffilmio yn ardal naturiol dywyll Stiniog, gyda'i chwarel a'i thomenni, yn ffordd effeithiol o gyfleu diflastod y cymeriadau ac awch rhai ohonynt i dorri'n rhydd.
Gyda gofid diffuant, mae'n rhaid imi gyfaddef mai hynna o ganmoliaeth sydd yna!
Dwy iaith Hysbysebwyd y ffilm fel un 'ddwyieithog' - popeth yn iawn, tybiais. Mae sawl ffilm o Gymru sy'n ddwy (neu dair, weithiau) ieithog ac wedi bod yn hynod lwyddiannus.
Nid yw'r ffaith i fwy nac un iaith gael ei defnyddio fennu dim arnynt.
Gwn nad ydynt yn yr un cae â'r ffilm hon - nac yn amcanu bod chwaith - ond mae ffilmiau fel Branwen a Solomon a Gaenor yn enghreifftiau gwych o sut y cyfoethogir ffilm gan y defnydd o fwy nag un iaith.
Ond yn achos Y Lleillni chredaf i'r dwyieithrwydd weithio o gwbl - waeth beth fo'i amcan.
Mae'r cymeriadau yn newid o'r Gymraeg - ac nid Cymraeg 'sâl' - i'r Saesneg yn fympwyol ac heb unrhyw reswm call dros wneud hynny.
Hyd yn oed wrth siarad Saesneg roedd gan bron bob un o'r cymeriadau acen drwchus Gymraeg nad oedd, yn y pen draw, yn gwneud dim i'r ffilm. Dim ond ychwanegu at ddryswch.
Cefais fy hun yn chwerthin mewn mannau nad oedd yn fwriadol ddoniol - oherwydd i'r ddeialog swnio mor hurt.
Pan oedd un o'r cymeriadau'n rhegi, roedd rhyw ymdrech dros ben llestri i boeri pob 'ff' a hynny ond yn ychwanegu at annaturioldeb y ddeialog.
Petai'r ffilm wedi ei lleoli mewn dinas, neu ardal lle mae'r Gymraeg dan fwy o fygythiad nag ardal y ffilm, yna efallai y buasai'r dwyieithrwydd wedi bod yn ffordd effeithiol o gyfleu cyflwr bregus yr iaith.
Os mai hynny oedd nod drwy ei lleoli yng nghefn gwlad - nid oedd yn ddigon amlwg.
Ac ni fu'r actio, chwerthinllyd ar adegau, o unrhyw gymorth i'r ddeialog ffals, annaturiol, ychwaith.
Ac nid yr action ifanc yn unig oedd ar fai ond actorion sy'n wynebau cyfarwydd ar ein setiau teledu.
Roedd aelodau'r band - Pati, Robert, Dyl a rhyw ddelw mud arall, yn gymeriadau i'w dioddef yn hytrach nac yn rhai i gydymdeimlo neu uniaethu â hwy.
Darllediad gwleidyddol O bosib mai un o'r prif resymau dros fethiant yr ymgais hon i 'ddweud neges' yw'r ffaith i'r agenda wleidyddol, gymdeithasol a diwylliannol fod yn llawer rhy ymwthiol.
Yn sicr, gellid fod wedi cyflwyno'r neges yn llawer cynilach ac ar adegau, roeddwn yn grediniol fy mod yn gwylio darllediad gwleidyddol yn hytrach na ffilm.
Un pwnc o sylwedd, fodd bynnag, oedd y ddadl ynglŷn â'r dewis i ganu yn Saesneg ai peidio - ac fe ellid fod wedi cyflwyno'r ddadl hon hefyd yn llawer cynilach hefyd.
Byddwn wedi hoffi'n fawr medru canmol y ffilm hon ond gydag actio gwan, sgript waeth a diffyg cynildeb, mae Y Lleill yn anffodus, yn boddi ymhell o fod yn agos at unrhyw lan.
|
|