91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
Dal i fyny efo'r Jonesus

12A

Pedair seren allan o bump

  • Adolygiad Glyn Evans

    Y sêr
    Harrison Ford, Cate Blanchett, Karen Allen, Ray Winstone, John Hurt, Shia LaBeouf, Jim Broadbent..

    Cyfarwyddo
    Steven Spielberg

    Sgrifennu
    George Lucas.

    Hyd
    123 munud

    Sut ffilm?
    Ffilm sydd ond am funud yn byw yn y byd go iawn.

    A hynny pan yw Indiana Jones (Harrison Ford) yn cael ei wahardd o'i swydd brifysgol oherwydd ofnau di-sail yr FBI ei fod yn 'subversive' - a hynny'n gorfodi Deon y brifysgol (Jim Broadbent) i ymddiswyddo mewn cydymdeimlad ag ef.

    Dyma'r Pumdegau pan oedd yr Americanwyr yn gweld Comiwnyddion ym mhobman gan gynnwys "yn eu cawl" ys dywed un o gymeriadau'r ffilm.

    Mae'r obsesiwn McCarthy â Chomiwnyddiaeth a chynllwynwyr yn taflu ei gysgod dros ddechrau'r ffilm ond buan iawn y dihangwn i ddwyawr a mwy o hwyl stribed comics lle mae pawb yn mwynhau eu hunain yn rhyfeddol mewn stynts sy'n mynd a gwynt rhywun.

    Mae 19 mlynedd ers yr Indiana Jones diwethaf - y gorau o'r triawd o ffilmiau lle mae Jones yn ymuno â'i dad (Sean Connery) i drechu'r Natsiaid yn eu hymchwil am y Y Greal Sanctaidd ar drothwy'r Ail Ryfel Byd.

    Fel Harrison Ford yr actor mae Indiana Jones y cymeriad wedi heneiddio ac y mae yna nifer o jôcs am heneiddio a bod yn hen.

    "Faint wyt ti, 80?", hola Mutt Williams, cydymaith ifanc newydd Jones, (Shia LaBeouf).

    Pan ddychwelodd Sean Connery i ran James Bond wedi absenoldeb o 12 mlynedd gwnaed pob ymdrech i'w iengeiddio - dydi Spielberg ddim yn trafferthu ac o'r herwydd y Jones y mae ei enw ar y can a gawn.

    Ond yn dal i fedru cyflawni'r un hen wrhydri anhygoel gyda'i chwip a'i ddyrnau.
    Ond yn fodlon cyfaddef ei bod hi'n anos!

    Mae'n deyrnged i'r fenter fod y cyfan yn argyhoeddi.

    Bydd y ffyddloniaid wrth eu boddau gyda'r aml deyrngedau yn ystod y ffilm i'r tair ffilm flaenorol.
    Llun o'i dad (Connery) a Dr Marcus (Denholm Elliott) ar ddesg yr arwr - y ddau bellach wedi'n gadael a'r Deon yn gofidio gyda Jones eu bod yn awr mewn oed pan yw bywyd wedi dechrau cymryd yn hytrach na rhoi.

    Mae sawl golygfa ddramatig hefyd sy'n adlais o gampau'r gorffennol ac y mae hen gariad Jones, Marion Ravenwood (Karen Allen) yn ôl - hithau hefyd wedi heneiddio gyda rhai'n ddigon creulon i ddweud i'r blynyddoedd fod yn fwy angharedig â hi nag â Harrison Ford! Ond bu Ford o'i ddyddiau cynnar yn ddyn actor a edrychai fel pe byddai a pwysau'r byd yn go drwm ar ei ysgwyddau a chanddo felly lai o ffordd i fynd fel petai.

    Mae teyrngedau slei i arwyr sinemaol eraill hefyd gyda dyfodiad Murtt Williams yn atgof o Marlon Brando yn The Wild One ac o Ricky Nelson fyrbwyll hoffus yn Rio Bravo

    O ydi mae hon yn ffilm sy'n hwyl ar fwy nag un cyfrif ond yn deyrnged yn bennaf i'r hen ffilmiau cliff-hanger episodig a oedd yn arlwy Sadyrnol dyddiau cynnar y sinema gydag arwyr yn wynebu eu diwedd un Sadwrn ond "gydag un ymdrech fawr anhygoel" yn cael eu traed yn wyrthiol rydd yn Sadwrn wedyn.

    Mae'r yn rolarcostar o beryg a dianc - i ragor o beryglon!

    Y stori
    Unwaith eto mae Indiana Jones ar gael i achub y byd rhag ei feddiannu gan bwerau'r drwg - y tro hwn ym mherson y Cyrnol KGB seicig, Irina Spalko sy'n cael ei chware fel rhyw Rosa Clebb fwy lluniaidd ond gyda'r un rhewlif yn ei gwythiennau.

    Yn gwisgo siwt drowsus mae Cate Blanchett yn poeri bygythiadau mewn acen Rwsiaidd sy'n rhoi corneli i bob gair.

    Ymhlith olion y Maya ym Mheriw y mae hi ar ôl penglog crisial a fydd yn ei galluogi i reoli meddyliau'r byd.

    Ac wrth gwrs dim ond Jones, Mutt a'r Cocni o Mi6 (Ray Winstone) all ei rhwystro - er ni all neb fod yn siŵr iawn beth yn union yw teyrngarwch y Sais.

    Rhwng popeth mae yma ddwyawr o hanner o fod a dim amser i gymryd eich gwynt wrth i'r criw o anturwyr gael eu taflu o un trychineb i'r llall gyda cheir a cherbydau milwrol yn ymlid ei gilydd rhwng tyrrau ifori ysgolheictod un munmud a thrwy goedwigoedd peryglus Periw a thros Niagrfeydd o raeadrau gwylltion.

    Ond fel gyda'r ffilmiau Indi i gyd dydi hiwmor a'r sylw bachog byth ymhell i ffwrdd.

    Ond dydi'r 'cemistri' ddim cystal â'r hyn a gyflawnwyd gan Ford a Connery yn y Last Crusade.

    Y canlyniad
    Er nad yw'r un o'r ffilmiau Indi yn rhai sy'n cymryd eu hunain ormod o ddifrif y mae Spiielberg bob amser yn cymryd diddori o ddifrif.

    Wrth gwrs fe ddywed sawl un wrthych nad yw hon gystal â'r ffilmiau eraill ac, yn wir, llugoer fu'r derbyniad o sawl cyfeiriad.

    Ond mewn gwirionedd does dim llawer i'r ffyddloniaid gwyno amdano ac fe fydd y gwir edmygwyr yn barod i faddau namau er, bydd rhai ohonom yn anesmwyth gyda'r naws a'r awyrgylch wrth Gomiwnyddol.

    Y darnau gorau
    Mae yna gymaint ohonyn nhw:
  • Y ffrwydrad atomig.

  • Y ras drwy gampws y Brifysgol.

  • Yn y fynwent.

  • Y ras drwy'r goedwig.

  • Y morgrug cochion.

  • Cwymp car dros y dibyn ac yn erbyn coeden.

    Ambell i farn
  • "Mae'r chwip yn dal yn ei law," meddai'r Observer.

  • Ond dywed y Spectator mai'r peth tecaf i'w ddweud am y ffilm yw; "os yw hon y math o ffilm sy'n eich cyffroi yna fe fydd yn eich cyffroi ac os nad yw, fydd hi ddim!"

    Gwerth ei gweld?
    Mae'n hwyl - yn enwedig i'r anfeirniadol sy'n fodlon ei derbyn am yr hyn yw hi.


  • Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý