No Country for Old Men (2008) Haeddu Oscar? Go brin . . .
Dechrau da - cloffi wedyn
Y sêr
Josh Brolin, Tommy Lee Jones, Javier Bardem, Kelly McDonald, Woody Harrelson
Cyfarwyddo
Ethan Coen, Joel Coen
Sgrifennu
Cormac McCarthy (y nofel), Joel & Ethan Coen.
Hyd
122 munud
Adolygiad Gwion ap Rhisiart
A yw No Country For Old Men yn haeddu Oscar?
Bu canmol di ben draw ar ffilm ddiweddaraf y Brodyr Coen ers iddi ymddangos gyntaf gydag amryw o adolygwyr hyddysg wedi dweud mai dyma ffilm orau'r flwyddyn hyd yn hyn - a bod sialens fawr gan unrhyw un arall i fod yn well na hi.
Rhaid i minnau, felly, holi fy hun a yw'r ffaith na fûm yn ffan mawr o ffilmiau'r brodyr yn y gorffennol yn fy ngwneud yn un od a di-chwaeth?
Methodd The Big Lebowsky â gwneud imi chwerthin gyda chenhedlaeth o fyfyrwyr a thybiais mai teitl gwell i O Brother Where Art Thou? fyddai O Frawd, Lle Mae'r Mwynhad?!
Heb ragfarnu Er gwaethaf hyn cerddais i mewn i weld No Country For Old Men heb ragfarnu ac yn ddiduedd wedi fy sbarduno i roi cyfle teg i'r ffilm oherwydd presenoldeb un o'm hoff actorioni ac un o actorion gorau ei genhedlaeth, Tommy Lee Jones.
Cafwyd golygfeydd agoriadol trawiadol oedd yn gafael ac o'r munudau cyntaf nid oedd y stori yn caniatáu ichi ymlacio gyda phrif ddrwgweithredwr gwirioneddol gythreulig a drwg.
Yr actor Sbaenaidd, Javier Bardem, sy'n actio y gŵr dieflig sy'n lladd ar fympwy ac yn ymhyfrydu yn yr elfen o lwc a ffawd sy'n gysylltiedig â llofruddio'r bobl ddaw wyneb yn wyneb ag ef wrth iddo grwydro'r wlad.
Ei sgiliau amlwg wrth ddienyddo yn nodweddiadol o grefft glinigol gweithiwr lladd-dy anifeiliaid.
Cefais fy synnu pa mor gredadwy oedd actio - ac acen deheudir yr Unol Daleithiau - yr actores Albanaidd, Kelly McDonald. Os cofiwch, hi chwaraeodd y ferch ysgol a roddodd sioc farwol i Ewan McGregor yn Trainspotting.
Dim digon Perfformiad digon hoffus yw un Woody Harrelson fel llofrudd arall er na fu ddigon ar y sgrîn.
Mae hynny'n sicr yn wir am Tommy Lee Jones. Ar y dechrau, yr awgrym oedd mai ef oedd un o hoelion wyth ffilm ond yn anffodus nid oes ganddo ddigon o ran i blesio'i gefnogwyr mwyaf taer.
Mwynheais bob eiliad - o hanner cyntaf y ffilm gyda'r stori, y cyffro a'r actio yn gafael ynof a'm cipio ar wibdaith wallgof.
Ond beth yn y byd ddigwyddodd hanner awr cyn y diwedd?
Lladdwyd y stori a'r holl rinweddau a roddai gymaint o fwynhad imi.
Mwy na mynd yn fflat Yr oedd hyn yn fwy na mynd yn fflat a rhedeg allan o stêm. Y gwendid oedd iddi geisio mynd yn athronyddol am ddim rheswm yn hytrach na pharhau yn film o gyffro a saethu fel y dylai fod yn hytrach na rhyw sylw sigledig ar y ffordd mae'r byd yn mynd â'i ben iddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
Mae'r athronyddu yn anghelfydd a heb fod yn feddylgar.
Beth bynnag, mae'r cyfan sydd i'w ddweud yn nheitl y ffilm!
Pam, felly, y cafodd hon Oscar am fod y ffilm orau?
Allai ddim deall pam y'i hystyriwyd yn well na There Will Be Blood a honno wedi ei chymharu mor ffafriol ag un o'r ffilmiau gorau erioed, Citizen Kane .
Cic i eraill Gwir bod Javier Bardem yn sinistr dros ben fel y gelyn ond doedd yna ddim galw am actio gwefreiddiol i chwarae'r cymeriad hwn ac mae cynnig yr Oscar iddo fo yn gic yn wyneb actorion fel Phillip Seymor Hoffman a Casey Affleck sydd wedi profi eu hunain yn llawer mwy celfydd yn y ffilmiau y cawson nhw eu henwebiadau ar gyfer yr un Oscar.
Byddai'n anghywir dweud imi gael fy siomi yn y ffilm gan nad oedd fy nisgwyliadau yn fawr beth bynnag - ond wedi'r blas melys amy rhan fwyaf o'r ffilm chwerw iawn oedd y diwedd.
Ond ar nodyn ysgafnach, braf oedd gweld yr enw Cymraeg Llewelyn ar y prif gymeriad. Er nad oedd unrhyw un yn ei ynganu yn gywir!
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
|
|