4: Rise of the Silver Surfer (2007) Ioan Gruffudd mewn rhan ymestynedig a ffantastig arall
4: Rise of the Silver Surfer (2007)
Y sêr
Ioan Gruffudd, Jessica Alba, Michael Chiklis, Chris Evans, Lawrence Fishburne, Doug Jones
Cyfarwyddo
Tim Story
Sgrifennu
Don Payne, Mark Frost.
Hyd
91 munud
Sut ffilm
Ail ffilm, well na'r gyntaf, yng nghyfres y Fantastic Four. Ond y prif reswm dros fynd i'w gweld oedd Ioan Gruffudd yn chwarae unwaith eto ran arweinydd y pedwar, Mr Fantastic, gydag acen Americanaidd.
Y stori
Yn llawn hapusrwydd a llawenydd mae'r Mr Fantastic (Ioan Gruffudd) a Sue Storm (Jessica Alba) yn paratoi ar gyfer eu priodas - a dyna ichi fis mêl fydd hwnnw gyda'r priodfab yn berchen corff ymestynedig a hithau'n medru bod yn anweledig!.
Ta waeth mae eu paratoadau hwy a'r Dyn o Dân (Chris Evans) a'r Peth - Thing - (Michael Vhiklis) yn mynd ar chwâl gyda dyfodiad y syrffiwr arian (Corff Doug Jones a llais Laurence Fishburne) allfydol sydd a'i fryd ar ddifetha'r ddaear a'i throi'n ysglyfaeth i rym dieflig Galactica (yn cael ei chwarae gan gymylau a mŵg a thywyllwch gyda rhimyn o olau) sy'n llowcio planedau.
Fel y byddwch yn deall yn iawn, dim ond Y Pedwar gyda'u doniau arbennig all achub y byd a hynny er gwaethaf ymddangosiad Dr Victor Von Doom (Julian McMahon) a oedd i fod wedi'i ladd yn y ffilm gyntaf.
Y canlyniad
Ffilm sydd fymryn yn well na'r gyntaf gyda thipyn bach mwy o hwyliogrwydd a hiwmor yn perthyn i dri o'r pedwar cymeriad y tro hwn.
Ond druan o Jessica Alba - mae hi mor flond ag erioed a'r unig dro y cawn yr argraff fod rhywfaint o gymeriad iddi yw pan fo'n cael gwared â phloryn oddi ar ei thalcen trwy rym rhyw Nivea mewnol sy'n cwrsio drwy'i chorff siapus. Ond jyst meddyliwch, gorfod byw am byth heb y pleser o wasgu plorod.
Mewn fersiynau ffilm o straeon eraill tebyg gwnaed ymdrech yn ddiweddar i ddod â rhywfaint o ddyfnder i'r cymeriadau comics antur hyn ac fe lwyddwyd yn ddeheuig iawn gyda Christian Bale yn y Batman diwethaf ac hefyd yn yr ail SpiderMan ond nid cymaint yn y trydydd.
Ond does yna ddim rhyw lol felly fan hyn gyda'r ffilm yn adloniant ysgafn, arwynebol, ar gyfer yr hyn mae gwneuthurwyr ffilm yn hoff o gyfeirio ato fel 'Y Teulu'.
Ac er gwaethaf ambell i reg - dim byd mwy difrifol na 'crap' rhyw hanner dwsin o weithiau - mae'r Silver Surfer yn gwbl ddiogel ar gyfer unrhyw Deulu gyda stori seml, gwrthdaro cyfeillgar a darnau gosod hynod o drawiadol, hynod o ffrwydrol.
Dim byd i drethu neb.
Yn wir, nid yw hyd yn oed y ddau ddihiryn - y Surfer ei hun a Victor Von Doom - yn eich dychryn.
Yn wir, mae'r Syrffiwr yn greadigaeth ryfeddol iawn - yn gwbl noeth ac yn gwbl afrywiol ar yr un pryd.
Perfformiadau Mae Ioan Gruffudd yn llwyddo i wneud rhywbeth na fu'n rhaid i Sean Connery ei wneud gydol ei yrfa - colli ei acen ei hun a mabwysiadu un Americanaidd.
Ac mae'n swnio'n ddigon credadwy yr ochr hon i'r Iwerydd ond byddai'n ddiddorol cael ymateb yr Americanwyr eu hunain.
Chris Evans sydd wedi cael rhan y cesyn - y rôg hoffus, yr hogyn drwg - ac mae i'w weld yn mwynhau hynny. A ninnau yn ei sgil.
Yr un modd Michael Chiklis sy'n rhan o sawl golygfa ddoniol - yn enwedig pan fo galluoedd yr unigolion yn symud yn ddamweiniol o un i'r llall. Mae Chiklis hefyd yn dygymod yn dda â'r elfen ramantus yn ei stori. Y gorau y gellir ei ddweud am Jessica Alba yw; lwcus ei bod hi'n siapus. "The talentless Jessica Alba," yw geiriau'r Observer amdani.
Darnau gorau Afon Tafwys wedi sychu. Pydew y syrffiwr.
Rhai geiriau Ym mhobman lle mae hwn yn mynd mae'r blaned yn marw wyth diwrnod wedyn.".
"Pam mai i mi mae hyn yn digwydd o hyd," meddai Sue Storm ar ôl colli ei dillad.
Ambell i farn "Dyw'r Silver Surfer yn cynnig dim na wnaed yn well mewn ffilmiau eraill," yn ôl yr Observer.
"Mae o'i gyd yn wirion iawn ac y mae i fywyd y pedwar gyda'i gilydd holl urddas pennod o'r Monkees," meddai'rGuardian ond gan ychwanegu dau air allweddol; "Entertaining, though."
Gwerth ei gweld?
Pe byddai'r Cynulliad o gwmpas ei bethau fe fyddai'n ddeddf gwlad yng Nghymru fod yn rhaid i bawb yng Nghymru fynd i weld ffilm gyda Ioan Gruffudd ynddi.
Ond mynd ydym ni beth bynnag gyda'r 'diddordeb Cymreig' yn drech, yn aml iawn, nag apêl y ffilm.
Y Ffilm gyntaf yn y gyfres
Cysylltiadau Perthnasol
The Fantastic Four
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|