Thunderbirds Pypedau cig a gwaed
Y sêr Brady Corbet, Bill Paxton, Anthony Edwards, Ben Kingsley, Sophia Myles
Cyfarwyddwr Jonathan Frakes
Sgrifennu William Osborne, Michael McCullers
Hyd 94 munud
Sut ffilm Bydd y gynulleidfa yn garedicach na'r beirniaid wrth y ffilm hon lle mae actorion go iawn yn chwarae'r rhannau a anfarwolwyd gan bypedau o'r chwedegau hyd yn hyn.
Ac wrth gwrs, wnaeth rhai ohonyn Nhw, y beirniaid, ddim oedi o gwbl cyn cyhuddo'r actorion go iawn o fod yn fwy prennaidd na'r pypedau gwreiddiol.
Ond mewn gwirionedd mae'r Thunderbirds cig a gwaed gyda'i dipyn o gynnwrf a thyndra gystal, a mymryn yn well, na sawl ffilm arall a wnaed yn ddiweddar.
A beth am ochel rhag rhamantu gormod ynglyn â phypedau lletchwith 1965 - Nid pawb oedd wedi mopio efo nhw a meddwl eu bod mor F A B. Wedyn y daeth hynny'n ffasiynol, wrth edrych yn ôl.
A'r gwir amdani yw fod yr effeithiau technegol yn llawer gwell heddiw nag oeddan nhw y pnawniau Sul hynny nad oedd yna fawr ddim arall i'w wylio ar y teledu efo'r plant beth bynnag.
Y stori Mae Jeff Tracy (Bill Paxton) a chriw International Rescue yn cael eu carcharu gan yr Hood (Ben Kingsley) ar orsaf ofod a neb ar ôl i'w hachub ond mab Jeff (Brady Corbet) a dau o'i ffrindiau, Fermat fab Brais (Soren Fulton) a Tintin (Vanessa Anne Hudgens). O, a'r Lady Penelope binc (Sophia Myles) a'r sioffar, Parker (Ron Cook), wrthgwrs.
Ond, o ystyried pa mor dwp ydi gweision yr Hood mae hynny'n fwy na digon!
Rhoddir rhywfaint mwy o gig ar yr esgyrn trwy greu'r tyndra tad a mab ystrydebol rhwng Jeff a'i fab sy'n ysu am ddod i'w oed ond yn cael ei 'gadw'i lawr' gan ei dad. Y darnau gorau Mae'r achub yn Llundain yn drawiadol a bron pob golygfa gyda Lady Penelope yn ddoniol.
Yr Hood yn rheoli trwy rym meddwl symudiadau corfforol Brains a chanu wedyn, Like a puppet on a string.
Perfformiadau Gan fod yr actorion, yn wir, yn tueddu i fod yn fwy pypedol na phypedau diolch byth am y ddeuawd Penelope a Parker sy'n dod a mwy na dim ond y pinco liw i'r ffilm. Mae ganddi hi sawl llinell dda, nid lleiaf, "Put me down, this outfit is couture!".
Yn llawer anwylach na'r ap Tracy annioddefol yw Fermat fab Brains sy'n dipyn o gymêr gyda'i atal dweud. "Mi rydan ni'n bâr od," medda fo, "Rydw i'n i chael hi'n anodd siarad a thithau'n i chael hi'n anodd i wrando ar neb."
Gystal â'r trelar? Ydi ond mae'r stori i gyd yn hwnnw.
Ambell i farn O blith y beirniaid, prin yw'r ganmoliaeth. Yn ôl Sci Fi Weekly mae'r ffilm yn cynnal yr hen, hen, syniad mewn ffilm, y gall criw brith yn rhydd o hualau awdurdod confensiynol ein diogelu'n well na'r Sheriff swyddogol.
Mae sawl un yn cyfeirio at Lady Penelope fel Emma Peel yr Avengers mewn pinc.
Cwynai Sianel 4 fod y ffilm yn gic yn nannedd y genhedlaeth honno a fagwyd ar y pypedau gwreiddiol.
Mae'n cyfeirio hefyd pa mor debyg i boy band yw'r arwyr o ran pryd a gwedd.
"Ail wampiad penwan," meddai gwefan Saesneg y 91Èȱ¬ gyda deialog a stori syrffedus.
Y canlyniad Gyda'r byd yn cael ei achub gan blant yn ystod eu gwyliau ysgol mae Thunderbirds yn gwneud i rywun feddwl am y Famous Five efo rocets a hei tec ond er pob cwyno am blentyneiddio ac yn y blaen mae Thunderbirds 'yn iawn'. Ond ni ddylai hynny fod yn rheswm dros ruthro i wneud dilyniant.
Cwestiwn Pa mor hawdd ydi hi i barcio yng nghanol Llundain? Dim problem o gwbl os ydych chi'n cyrraedd efo fflyd o rocedi - ond pwy fydd yn talu'r Tâl Tagfa i Ken?
A beth wnaeth i Lady Penelope gael gwared â'i Rolls Royce a phrynu Ford?
Gwerth mynd i'w gweld Efo'r plant os yn bosib.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|