In Bruges (2008) Mwy na saethu a lladd difeddwl
Y sêr
Colin Farrell, Brendan Gleeson, Ralph Fiennes, Clemence Poesy, Jordan Prentice
Cyfarwyddo
Martin McDonagh
Sgrifennu
Martin McDonagh
Hyd
107 munud
Adolygiad Glyn Evans
Pe na byddai ffrind wedi sôn am ymweliad arfaethedig â Bruges mae'n bur debyg mai ffilm arall fyddwn i wedi mynd i'w gweld - Fool's Gold neu Street Kings efo Keanu Reeves a Forest Whitaker mwyaf tebyg.
Yr ymweliad posibl ie; ond yn fwy na hynny y ffaith mai Martin McDonagh yw awdur a chyfarwyddwr In Bruges a drodd y fantol a'm hanfon i Brugge.
Nes i Mrs Thatcher draddodi araith bwysig yma fis Medi 1988 go brin bod fawr neb ohonom wedi clywed am y ddinas bensaernïol hardd hon yn ardal Fflemaidd Gwlad Belg ond diolch i Hen Wyddeles John Roberts Williams clywyd brolio mawr wedyn ar Bruges - y golygfeydd hardd, y strydoedd caregog, y dyfrffyrdd llonydd a'u pontydd crwm, yr adeiladau ysblennydd.
Ac yn wir maen nhw i gyd In Bruges.
Tarantino a Beckett Ond gydag ysbryd Tarantino yn symud drwy'r niwloedd uwch wyneb y dyfroedd a'r cenllysg bwledi yn syrthio mewn cawodydd o waed.
Ond cyn hynny mae sgyrsiau Beckettaidd hudolus a'u hadlais o ddisgwyl Godot rhwng y ddau brif gymeriad, Ray (Colin Farrell) a Ken (Brendan Gleeson) i'n swyno - dau laddwr proffesiynol sydd wedi eu hanfon yno am seibiant rhwng dwy job gan eu trefnydd llofruddiaethau, Harry (Ralph Fiennes).
A'r ymwneud rhwng y ddau yma sy'n gwneud In Bruges yn ffilm mor arbennig. Y ddau yn Wyddelod; Ray yn geiliog ifanc y trodd ei joban ddiwethaf o saethu offeiriad (Ciaran Hinds, er na nodir hynny) yn ei gyffesgell yn stomp llwyr wrth i fachgen bach gael ei ladd hefyd ar ddamwain.
Tra bo Ken yn aeddfed lowcio'n awchus atyniadau twristaidd y ddinas hudolus llawn hanesyddiaeth ar drothwy'r Nadolig mae Ray yn casáu pob carreg o'r twll lle a'r casineb hwnnw yn llinyn arian o hiwmor drwy'r holl ffilm a'r ymddiddan rhwng y ddau yn deyrnged i ddawn McDonagh fel dramodydd. Yn gyfuniad o dreiddgarwch, ffraethineb du a hud geiriau.
Atalnodir y sgyrsiau 'athronyddol' rhwng yr hen law a'r cyw ifanc gan sefyllfaoedd gwirioneddol ddoniol gan gynnwys ffrae sy'n troi'n gwffas rhwng Ray ac ymwelydd o Ganada a'i wraig mewn tÅ· bwyta.
Golygfa gofiadwy arall yw'r un rhwng Ray a theulu o Americanwyr brasterog lle mae dyfodiad Ken yn dro gwych yn ei chynffon sydd ond yn un enghraifft o saernïo crefftus Mcc Donagh.
Mae yma ymdrin â phethau mawr bywyd ac mae yma amarch - gyda'r ffordd yr ydym yn cael ein swyno gan leisiau a geiriau dau mor ddieflig eu gwaith yn rhywfaint o ddychryn.
Mae dwy ran o dair o'r ffilm drosodd cyn tro annisgwyl galwad ffôn Harry yn y stori a dim ond o hynny ymlaen y mae'r trais, y gwaed a'r lladd yn ganolog i'r hyn sy'n digwydd ar y sgrin.
Ond er mor frawychus ddramatig yw hyn y sgrifennu da a'r saernïo crefftus sy'n cadw rhywun yn ei sedd mewn cymysgedd o edmygedd a syfrdandod hyd at yr eiliad olaf un.
Perfformiadau Mae'r ymwneud rhwng Gleeson dadol, pwyllog a diwylliedig a Farrell anniddig, nerfus, yn rhywbeth i ymhyfrydu ynddo - y ddau mewn cytgord llwyr â geiriau McDonagh yn mesmereiddio gyda sgyrsiau Beckettaidd.
Bu gyrfa Farrell dan rywfaint o gwmwl yn ddiweddar. Gydag In Bruges mae yn ôl yn haul llygad goleuni a bydd yn rhaid disgwyl yn hir am berfformiad a ddaw i'w ragori yn y sinema eleni.
Ond ni ddylid anghofio mai perfformiadau cydradd yw ei un ef a Gleeson. Y naill yn hogi'r llall.
Ni welwyd Fiennes ychwaith yn well na hyn - ar y naill law yn ŵr ac yn dad ond ar y llaw arall yn lladdwr gorffwyll sy'n colli arno'i hun yn llwyr yn ei wylltineb.
Mae Clemence Poesy fel merch bert y mae Ray yn ymserchu ynddi yn gwbl foddhaol mewn rhan nad yw'n trethu llawer arni.
Golygfeydd Tynnu'n groes ag Americanwyr tewion.
Harry a Ray yn y gwesty yn dod i gytundeb - fel dau blentyn yn chwarae gêm saethu.
Ken ar y ffôn gyda Harry yn smalio ei fod yn anfon Ray, nad yw yno, allan o'r ystafell.
Rhai geiriau Gan fod cymaint o'r hyn sy'n drawiadol yn dibynnu ar ei gyd-destun mae'n anodd dewis dyfyniadau sy'n mynd i sefyll ar eu traed eu hunain mewn adolygiad ond dyma ambell un: Pe byddwn wedi fy magu ar fferm ac ddim llawn llathen mi fyddai Bruges yn gwneud argraff arna i - Ray. Roeddwn i'n casáu Hanes- Mae'n sôn am lwyth o bethau sydd wedi digwydd yn barod - Ray. Y cyfan ydw i eisiau ydi gwn cyffredin i ladd dyn cyffredin - Harry
Gwerth ei gweld Os na welwch chi ond un ffilm eleni ac yn y blaen . . ..
|
|