Powerless Bargen am y pris
Y sêr Bethany Wilkins, Matt Wilkins, Hannah Wilkins, Matt Daniels, Martha Wilkens, Samuel Wilkins.
Cyfarwyddwr Matthew Daniels
Hyd 116 munud
Adolygiad Gwyn Griffiths Fe gawson ni raglenni teledu am yr hyn allai ddigwydd byddai'r cyflenwad trydan yn methu yn Llundain.
Yn wir, cafwyd achlysuron pan fethodd y trydan mewn rhannau o Lundain ac yn Unol Daleithau'r America.
Mae'r ffilm Powerless a gafodd ei dangosiad cyntaf ar ddydd olaf Gŵyl Sgrîn Caerdydd 2004, ddydd Sadwrn, Tachwedd 20, yn pwysleisio eto mor fregus yw'r byd rydym ni'n byw ynddo.
Pum mil o bunnau Mae'n rhyfeddod o ffilm. I gychwyn fe'i gwnaed am bum mil o bunnau. £5,000 i gynhyrchu ffilm sy'n para 100 munud! Y cyfan wedi ei gyflawni mewn dwy flynedd. Mae'n rhaid ei fod yn record.
Mae'n amlwg na chafodd neb eu talu am eu llafur!
Gwelir fod y rhan fwyaf o'r actorion a'r bobl a weithiodd ar y ffilm - gan gynnwys y sgriptiwr - yn perthyn i un teulu (niferus) o actorion dibrofiad.
"Mae gynnon ni ddyrnaid o dystysgrifau TGAU Drama".
Y cyfarwyddwr, Matthew Daniels, sy'n tynnu'r cwbl at ei gilydd, yw un o'r eithriadau o'r tu allan ond daw elfen deuluol i mewn fan hynny, hefyd, gyda'i wraig, Esther, yn canu dwy gân ar y trac sain.
Llofruddiaeth yn Llundain Mae'r stori'n cychwyn gyda llofruddiaeth yn Llundain. Yna, oherwydd diffyg yn y cyflenwad trydan ledled Prydain, mae plant y dyn a lofruddiwyd yn llwyddo i ddianc i ardal Maenclochog a'r Preseli yng ngogledd Penfro, er na ddywedir hynny ond mae gwbl amlwg i'r sawl sy'n adnabod y fro honno.
Wedyn mae'r frwydr i fyw yn y ffermdy diarffordd yn cychwyn, byw oddi ar y wlad wrth i'r dŵr a'r trydan fethu. Mae'r gwasanaeth radio'n methu - 'does dim teledu, wrth reswm.
'Does neb o'r tu allan yn dod i darfu ar y bobl ifanc, ddim am ysbaid dda, beth bynnag. Maen nhw'n gwneud ymdrech i gadw draw oddi wrth pobl o'r tu allan.
Pawb drosto'i hun yw hi yn yr argyfwng hwn.
Ond mae cysgod llofruddiaeth y tad yn hollbresennol wrth i olygfeydd o'r digwyddiad fflachio o flaen llygad Sarah, y ferch hynaf oedd yn dyst i'r lladd, a hynny'n dod yn bwysicach wrth i'r stori fynd rhagddi.
Mae'r ffilm yn cynnal y tyndra yn rhyfeddol wrth i Sarah frwydro i gadw'r teulu ifanc rhag rhwygo ac i ddogni a dygnu ymlaen yn y gobaith y daw iachawdwriaeth o rywle, yn fuan.
Yna, fe ddaw ymyrraeth o'r tu allan gan gynyddu'r tensiynau ymhellach.
Haeddu'i gweld Am y tro bydd yn rhaid i'r cyfarwyddwr, y cast a'r criw fodloni ar weld y ffilm yn cael ei dangos mewn gwyliau eraill tebyg i Ŵyl Sgrîn Caerdydd ond mae'n haeddu mwy.
Hyderaf y bydd yn sicrhau dosbarthydd fel y caiff ei gweld mewn sinemâu ledled Prydain.
Mae yma stori dda rhybudd i bawb.
Mae'r ffilmio'n dangos dawn artistig wirioneddol i wneud yn fawr o wynebau a llygaid cymeriadau a manteisio hyd yr eithaf ar fro a moelydd y Preseli.
Gwyrth o ffilm, amserol a pherthnasol, sy'n dal y gwyliwr o'r dechrau i'r diwedd. Gwyn Griffiths
Cysylltiadau Perthnasol
Cyrraedd Hollywood!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|