91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Mission Impossible III (2006)
Cwsg ni ddaw . . .

12a

Pedair seren allan o bump

Y sêr
Tom Cruise, Philip Seymour Hoffman, Ving Rhames, Michelle Monaghan, Jonathan Rhys Meyers, Laurence Fishburne, Maggie Q, Simon Pegg, Keri Russell

Cyfarwyddo
JJ Abrams

Sgrifennu
JJ Abrams, Alex Kurtzman, Roberto Orci

Hyd
125 munud

Sut ffilm
Ffilm y mae ei stori mor ystrydebol a thebygol y mae'n gwneud ichi fod eisiau cysgu - ac y mae ei sŵn gymaint y mae'n eich deffro bob munud.

Y cefndir
Nôl yn 1966 ffurfiwyd rhywbeth oedd yn cael ei alw yn IMF.
I rai mae'r llythrennau'n golygu International Monetary Fund
Ac, yn wir, y mae yna erbyn meddwl gysylltiad bregus rhwng y gronfa arian ryngwladol honno a chorff o anturwyr cudd rhyngwladol sy'n dwyn yr enw Impossible Mission Force sef ystyr 1966 y llythrennau.

Y cysylltiad rhwng y ddau yw fod angen pwll mor ddiwaelod o arian ag un yr IMF (Ariannol) i greu ffilmiau blocbystar am yr IMF (Amhosib).

Ond cyn y ffilmiau mawr; ar y teledu y dangoswyd anturiaethau yr IMF (Amhosibl) mewn 171 o benodau rhwng 1966 a 1973.

Ond wedi'r elwch hwnnw bu tawelwch nes i ffilm gyntaf gyda Tom Cruise yn chwarae'r arwr Ethan Hunt ffrwydro a ffrwydro a ffrwydro ar y sgrin fawr yn 1996.

Ac, yn wir, dilynwyd Mission Impossible gan Mission Impossible II (2000) ac yn awr MI III gyda Cruise yn parhau'n arwr mor gnotiog y gallai fod yn bwped.

Ond ni ddylai neb ragdybio, ar sail hynny, na fydd yna MI IV, V, VI ac ymlaen ac ymlaen. . .

Y stori
Un peth sy'n amlwg, ni wastraffwyd llawer o amser yn meddwl am hon.

Yn fras, mae Ethan Hunt (Tom Cruise), er yn briod erbyn hyn, yn cael ei orfodi'n ôl i'r maes oherwydd i un o'i hoff gydweithwyr, Lindsey (Keri Russell) fynd ar goll a chael ei lladd gan y pen dihiryn Owen Davian (Philip Seymour Hoffman) sy'n gwerthu arfau i bob llywodraeth a mudiad pwdr ar hyd a lled y byd.

Mae o hefyd yn cipio Julia, gwraig Ethan (Michelle Monaghan), sy'n gorfodi Ethan i'w hela a hefyd i ddod o hyd i ryw beth a adnabyddir fel y "Rabbit's Foot".

Mae'r tyndra'r ddirdynnol pan fo Ethan
1 Ynghlwm wrth gadair yn gwylio Davian yn poenydio Julia.
2 Yn gorfod cysylltu ei hun â rhwydwaith drydan Shanghai cyn i fom sydd wedi'i blannu (trwy'i drwyn) yn ei ymennydd ffrwydro.
Dyna be ydi snortio go iawn. Mindblowing yn wir.
Da o beth, felly, fod Julia yn digwydd bod yn feddyg.

Y canlyniad
Yr orau o'r tair ffilm gyda Cruise i'r rhai sy'n hoff o gymanfa ddi-dor o ffrwydradau a thanau bob yn ail a lluniau o Tom yn rhedeg am ei fywyd o gwmpas y Vatican, dros bont yn yr Unol Daleithiau ac wedyn trwy strydoedd cefn Shanghai mewn ymdrech i gyrraedd ei wraig cyn i Davian ei diffodd am byth.

Ni welwyd y fath redeg er pan gafodd Guto Nyth Bran gyri drwg a'r tÅ· bach agosaf i Lanwynno ym Mhontypridd.

Yn wyneb yr holl redeg, rasio, ffrwydro twrw a saethu mae'n ddirgelwch - ac yn wyrth - pam y teimlwn fod MI III syrffedu.

Go debyg bod yna rhyw fformiwla Ffiseg gudd yn nwylo gwyddonwyr ffilm sy'n egluro pam ac fe fyddai Ethan yr union un i'w anfon i'w darganfod ac yntau'n barotach na chi defaid i redeg.
Na fyddech chi ddim eisiau bod yn draed Tom Cruise ar ddiwrnod poeth.

Perfformiadau

  • Rai blynyddoedd yn ôl dywedwyd am actor oedd ar Coronation Street ar y pryd ei fod mor brennaidd ei fod yn rhoi enw drwg i goed.
    Mae rhywun yn amau i Tom Cruise fel Ethan Hunt gael ei naddu o'r un coedyn.
  • Mae Philip Seymore Hoffman yn llawer gwell dihiryn nag yw Cruise o arwr ac y mae Laurence Fishburne yn bennaeth trawiadol i'r IMF.

    Rhai geiriau
  • Llinell orau'r ffilm i gyd yw honno gan bennaeth yr IMF:
    "Peidiwch a thorri ar y nhraws i pan ydw i'n gofyn cwestiynau rhethregol - Please don't interrupt me when I'm asking rhetorical questions."
    Hyfryd.

    Nodi'r ystrydebau
  • Gêm ddifyr gyda ffilm fel hon ydi sbotio'r ystrydebau:
  • Gorfodi'r arwr yn ôl i'r maes.
  • Yr Arwr eisiau dial marwolaeth cydymaith.
  • Dihiryn yn cipio gwraig yr arwr.
  • Arwr yn ddiymadferth i helpu ei wraig.
  • Mae yna dwrch yn gweithio i'r gelyn.
  • Gîc cyfrifiadurol.
  • Dyrnaid o ffrindiau sy'n 'dal i gredu ynddo chi'.
    Ac mae yna fwy wrth gwrs ond mae'r rheinia'n gychwyn . . .

    Gwerth ei gweld? Waeth heb na disgwyl am y DVD gan na fydd unig gryfder y ffilm, ei ffrwydradau, werth dim ar sgrîn fach.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý