![](/staticarchive/df66e4f3eba6bc2286ca6cd6e130c96232ee3002.jpg)
Déjà Vu (2006) Wedi bod yma o'r blaen
![123](/staticarchive/2531fe3987071521c701ce286da06afb50991b35.jpg)
![Tair seren allan o bump](/staticarchive/c7aea993e81c18032fc18f9dcb79e58b722567f2.jpg)
Y sêr
Denzel Washington, Val Kilmer, Paula Patton, Jim Caviezel
Cyfarwyddo
Tony Scott
Sgrifennu
Bill Marsilii, Terry Rossio
Hyd
126 munud
Sut ffilm
Ffilm 'amserol' arall lle mae plismon a gyda help gwyddonwyr amser yn ceisio rhwystro trychineb trwy fynd yn ôl i'r gorffennol, cyn iddi ddigwydd.
Y stori
Cychwyn ffrwydrol wrth i fferi yn llawn pobl a phlant yn mwynhau eu hunain yn New Orleans ffrwydro'n chwilfriw a hynny'n gyfle i griw o blismyn sydd a dyfeisiadau mynd yn ôl mewn amser ddod o hyd i'r ffrwydrwr ac o bosib atal y ffrwydrad.
Mae'r cyfan yn troi o amgylch plismon a chwaraeir gan Denzel Washington sy'n syrthio mewn cariad â merch ifanc ddeniadol a laddwyd (Paula Patton) a'i ymdrechion i'w hachub hi rhag dranc sydd eisoes wedi digwydd iddi.
Y canlyniad
Er bod rhywun weithiau mewn cryn anhawster deall a rhesymoli yr hyn sy'n digwydd mae'r 'berthynas' rhwng y plismon (Washington) â'r ferch a laddwyd a'i ymdrechion 'yn erbyn amser' i'w hachub a dal y llofrudd (Jim Caviezel) yn cadw rhywun ar flaen ei sedd - yn enwedig yn y golygfeydd 'fydd o'n llwyddo?' olaf.
Ond rhaid cyfaddef fod holl egluro'r cysyniadau amser yn anfon rhywun braidd yn benwan.
Yr hyn sy'n arbed y ffilm yw dwyster a phersonoliaeth Washington a golygfeydd trawiadol fel y ffrwydrad a'r ras geir yng ngherbyd amser y gwyddonwyr.
Darnau gorau Y ras geir.
Cornelu'r dihiryn.
Y ffrwydrad.
Perfformiadau Ffilm wantan a hynod ddryslyd fyddai hon oni bai am Denzel Washington. Mae'n deyrnged iddo y gall wneud i rywbeth sy'n ddim amgenach na rwts dryslyd ymddangos yn gredadwy.
Mae Jim Caviezel yn ddihiryn iasoer wych - hen filwr Vietnam y mae ei olwg ar y byd wedi'i lurgunio yn llwyr.
Ffilm y ddau ohonyn nhw yw hon.
Gwerth ei gweld?Gwerth ei gweld - ond dim gwerth mynd i drafferth fawr i'w gweld. Yn wir, fel gyda phob Déjà vu yr ydych yn teimlo ichi fod yma o'r blaen sawl gwaith.
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|