I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
Y Sêr:
Adam Sandler, Kevin James, Jessica Biel, Dan Aykroyd, Ving Rhames
Cyfarwyddo:
Dennis Dugan
Sgrifennu:
Barry Fanaro, Alexander Payne
Hyd:
115 munud
Adolygiad gan Shaun Ablett
Dau ddiffoddwr tân yn Efrog Newydd yw Chuck (Adam Sandler) a Larry (Kevin James) - ond er yn ffrindiau mae'r ddau yn wahanol iawn i'w gilydd.
Mae Chuck yn llwyddiannus iawn gyda'r merched ond bu bywyd yn anodd i Larry ers i'w wraig farw ac yntau wedi gorfod edrych ar ôl ei blant yn ogystal â gweithio.
Oherwydd anhawster ynglŷn ag etifeddu arian yswiriant bywyd mae'r ddau yn smalio eu bod yn hoyw er mwyn gallu priodi a bod yn 'ŵr a gwraig'.
Yn fy marn i, dyma'r math orau o gomedi mae America yn gallu'i greu a chan fy mod yn hoff iawn o Adam Sandler, roedd yn rhaid imi fynd i weld y ffilm yma oherwydd gwyddwn fod bron bob ffilm sy'n cynnwys Sandler yn ardderchog.
Yr oeddwn yn hapus iawn gyda pherfformiad Kevin James hefyd ac mae rhai golygfeydd cofiadwy yn y ffilm gan gynnwys ymateb cydweithwyr Chuck a Larry pan fo'r ddau yn cyhoeddi eu bod yn hoyw ac am briodi.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
|