Babel (2007) Ffilm i'w dadansoddi yn hytrach na ffilm sy'n cyffroi
Y sêr
Brad Pitt; Cate Blanchett; Kōji Yakusho
Cyfarwyddo
Alejandro González Iñárritu
Hyd
142 munud
Adolygiad Ciaran Jenkins
Sut ffilm?
Does dim llawer o bobl sy'n medru Siapanaeg, Sbaeneg, Arabeg a Saesneg. Bydd y mwyafrif, felly, yn gadael y sinema wedi drysu rhywfaint ar ôl gweld Babel.
Mae'r ffilm yn defnyddio pedair iaith, yn teithio dros dri chyfandir ac yn dilyn o leiaf bedair cainc naratif fel rhan o'r cyfanwaith.
Nid yw'n hawdd neidio rhwng Mecsico, Moroco a Tokyo trwy gydol y ffilm ond mae'r gwrthgyferbyniadau'n drawiadol.
Yn ôl y cyfarwyddwr, Alejandro González Iñárritu, nid yw hynny ond yn adlewyrchu'r gwahaniaethau mawr sydd yna rhwng diwylliannau'r byd.
Y stori Ar fynydd ym Moroco mae dau lanc yn bugeilio. Mae un yn herio'r llall i danio ei wn. Un fwled sy'n bwrw targed ond mae effaith y fwled honno yn atseinio ledled y byd.
Yn America, gwelir dau blentyn yng ngofal menyw o Fecsico. Mae rhieni'r plant ar wyliau yng ngogledd Affrica ac yng nghanol rhyw gymhlethdod. Rhaid, felly, i'r ofalwraig lusgo'r plant i briodas ei mab ym Mecsico, ac ar daith enbydus dros y ffin.
Ar yr un pryd, mae merch fyddar o Siapan yn brwydro â'i hanabledd a marwolaeth sydyn ei mam. Lle rhyfedd iawn yw Tokyo heb y sŵn diderfyn sydd yn tanlinellu pob dim yn y ddinas. Mae'r ferch yn crefu am gysur emosiynol ac yn mynegi hynny trwy ymddwyn yn rhywiol tuag at ddynion, gan gynnwys heddwas sy'n ymweld â'r fflat er mwyn siarad â'i thad.
Mae'r ceinciau annibynnol hyn yn afaelgar ac yn llawn lliw lleol. Trueni eu bod yn dod at ei gilydd yn llawer llai naturiol nag y maen nhw'n bodoli ar wahân.
Y canlyniad
Profiad sinematig ydy Babel sy'n bwydo ar ein amheuon ynglŷn â holl gymhlethdod y byd.
Mae'n ffilm sy'n gwrthod cydymffurfio a chonfensiynau ffurfiol Hollywood - ond, o ganlynaid, y ffurf sydd yn dod i'r brig a hynny ar draul y naratif.
Ffilm yw hon, efallai, ar gyfer pobl sy'n hoffi'r sinema, yn hytrach na phobl sy'n hoff o stori.
Rhai geiriau Richard (Brad Pitt): Beth amdanat ti? Sawl gwraig sydd gen ti?
Anwar: Dim ond un allai fforddio.
Ambell i farn "Mae ffurfioldeb ei strwythur yn rheoli gwir ddicter," yn ôl yr Observer.
"Darn gwefreiddiol o sinema sydd wedi ei seilio ar un ennyd fer o dwpdra plentynnaidd," meddai'r Times.
Perfformiadau Mae Cate Blanchett yn gorwedd ar ei chefn am y rhan fwyaf o'r ffilm.
Does dim llawer i ddifyrru edmygwyr Brad Pitt chwaith.
Portread gwych o fywyd merch fyddar mewn byd llawn sŵn gan yr actores Siapaneaidd, Rinko Kikuchi.
Darnau gorau Golygfeydd o ddinas Tokyo, yr anialwch ym Mecsico a mynyddoedd diffrwyth Moroco.
Un o agweddau mwyaf pleserus y ffilm yw'r ffordd y mae Iñárritu yn pwysleisio ystyr trwy dirlun.
Wynebau syn y plant diniwed o America wrth i ffermwr o Fecsico rwygo pen cyw iâr i ffwrdd o flaen eu llygaid. Mae'r olygfa ymysg sawl enghraifft o dyndra rhwng gwahanol gymunedau yn y ffilm.
Gwerth ei gweld?
Marciau llawn am ddyfeisgarwch ffurfiol. Serch hynny, mae'r plot yn eithaf tenau a'r cysylltiadau rhwng y ceinciau braidd yn anghredadwy.
Ffilm i'w dadansoddi, nid ffilm i gyffroi.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|