History of Violence Braw o'r gorffennol
Y sêr Viggo Mortensen, Maria Bello, Ed Harris, William Hurt, Ashton Holmes, Heidi Hayes.
Cyfarwyddwr David Cronenberg
Sgrifennu Josh Olson ar sail nofel luniau gan John Wagner a Vince Locke
Hyd 96 munud
Sut ffilm Trais, gwaed ac esgyrn yn crensian mewn ffilm glos a gafaelgar wedi ei seilio ar 'nofel' luniau gan John Wagner - crëwr Judge Dredd - a Vince Locke.
Y stori Yn nhawelwch tref gysurus Millbrook yn Indiana, mae Tom Stall (Viggo Mortensen) yn rhedeg lle bwyta yn y stryd fawr a'i wraig , Edie, yn dwrnai llwyddiannus.
Mae ganddyn nhw ddau o blant Jack, 15 (Ashton Holmes) a Sarah, 6 (Heidi Hayes).
Mwyaf sydyn mae wyneb Tom ym mhob papur newydd ac bob rhaglen newyddion yn dilyn gwrhydri rhyfeddol ar ei ran yn saethu dau ddieithryn sinistr (Stephen McHattie a Greg Bryk) sy'n ei fygwth ef a gweinyddes ei gaffi am ddim rheswm o gwbl.
Gweld y lluniau hyn sy'n tynnu'r dihiryn ciaidd Carl Fogaty (Ed Harris) i'r dref gydag awgrym bod rhyw elfennau annymunol yng ngorffennol Tom ei hun ac mai ei enw iawn ydi Joey.
Mae hyn oll yn arwain at fwy o fygwth, mwy o ladd a rhagor o dywallt gwaed ond, yn waeth na hynny, rhwyg ac ansicrwydd teuluol sy'n cyrraedd uchafbwynt dramatig yn cynnwys ymladdfa waedlyd â giangstar brwnt (William Hurt).
Y cwestiwn gydol y ffilm yw: ai lladdwr ynteu'r 'dyn anghywir' ydi Tom ac a oes ganddo rywbeth i'w guddio ac os oes, beth?
Y canlyniad Swaden ar ôl swaden o waed a thrais mewn stori ddiwastraff sydd wedi'i chlymu'n dyn, dyn.
Mae'n codi cwestiynau am dueddiadau naturiol pobl a'r cyfiawnhad dros ddefnyddio trais i drechu trais.
Er enghraifft gorfodir Jack i ddefnyddio'i ddyrnau i ddelio â bwli yn yr ysgol.
Y darnau gorau Yr olygfa agoriadol llawn syrthni sy'n adlais o Once Upon a Time in the West. Y penllanw pan fo Tom yn wynebu'r arch-ddihiryn (William Hurt). Yr olygfa olaf un ddi-sgwrs o gwmpas y bwrdd bwyd. Sut beth fydd y dyfodol?
Perfformiadau Mae'r trawsnewid yn Tom o fod yn benteulu diddan i ymladdwr treisgar yn anhygoel.
Mae'r 'hefis' i gyd yn codi braw gwirioneddol - yn enwedig William Hurt oeraidd a dideimlad ac Ed Harris fel Carl Fogarty y lladdwr unllygeidiog a chraith weiren bigog ar ei wyneb.
Mae Maria Bello hithau yn ymateb yn wych i'r sefyllfa y mae'n cael ei sugno iddi a hynny'n cael ei adlewyrchu yn y ddwy olygfa garu rhwng y ddau - un yn bryfoclyd rywiol ond yr ail yn ymosodol dreisgar.
Mae Ashton Holmes hefyd a gafael sicr ar gymeriad Jack y bachgen sy'n cael ei fwlio yn yr ysgol.
Rhai geiriau "Yr wyt ti wedi bod y dyn arall yma bron cyn hired ag yr wyt ti wedi bod yn ti dy hun." "Pan ddaeth dy fam a thi adra o'r ysbyty mi wnes i drio dy dagu di yn dy grud ac fe roddodd hi gweir imi." "Gofyn i dy ŵr am yr adeg y gwnaeth o dynnu fy llygaid i efo weiran bigog."
Gystal â'r trelar? Mwy o sylwedd.
Ambell i farn Dros yr Iwerydd bu canmoliaeth gyffredinol gyda'r beirniaid yn eithaf cytun nad trais er mwyn trais sydd yma.
Ond mae cytundeb hefyd fod angen stumog go gryf.
Doedd Rolling Stone ddim yn bell ohoni pan ddywedodd fod gwylio A History of Violence yn rhoi ichi swaden hegr sy'n mynd a'ch gwynt - "body blow" - cyn symud ymlaen i chwarae efo'ch meddwl - messing with your head.
Does dim anghytundeb fod History yn brofiad ysgytwol.
Gwerth mynd i'w gweld? Mae'n brofiad - ysgytwol gyda rhai golygfeydd brawychus anodd i'w gwylio - ond bod y cyfan yn digwydd mor sydyn.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|