The Interpreter Mwy na phroblem iaith
Y sêr Nicole Kidman, Sean Penn, Catherine Keener, Jesper Christensen, Earl Cameron
Cyfarwyddwr Sydney Pollack
Sgrifennu Charles Randolph, Scott Frank, Steven Zaillian.
Hyd 129 munud
Sut ffilm Ffilm ddifyr - os braidd yn hunan-bwysig - sy'n ceisio ailgreu tyndra ffilmiau rhagorol fel Three Days of the Condor - gan Pollack ei hun, gyda Robert Redford yn y brif ran - a North by North West gan Hitchcock.
Pollack yw'r cyntaf erioed i gael mynediad i ffilmio ym mhrif siambr y Cenhedloedd Unedig ei hun!
Y stori Mae'r stori yn cychwyn gyda llofruddiaeth oeraidd ac erchyll trwy law plentyn gyda gwn AK-47 mewn hen stadiwm bêl-droed yng ngwlad ddychmygol Matobo yn Affrica sy'n siŵr o fod yn fwriadol debyg i Zimbabwe.
Yn dilyn y digwyddiad hwn mae'r stori yn ail-gychwyn ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd lle mae Silvia Broome (Nicole Kidman) yn gyfieithydd ar y pryd sy'n siarad iaith Mtobo a chysylltiadau agos ganddi â'r wlad.
Ar ôl dychwelyd i'w swyddfa i gasglu ei bag yn hwyr un noson mae'n clywed dros yr offer cyfieithu ran o sgwrs sy'n ei brawychu gan ei bod yn sôn am lofruddio arlywydd Mtobo pan fydd yn annerch y Cenhedloedd Unedig ymhen rhai dyddiau.
Trosglwydda'r wybodaeth am y sgwrs i'r awdurdodau sy'n penodi swyddog dirgel, Tobin Keller (Sean Penn) i ymchwilio i'r mater a'i diogelu hithau.
Buan iawn y daw Broome, oherwydd ei chefndir, dan amheuaeth o fod yn rhan o rhyw gynllwyn. Wrth i'r cicio a'r brathu disgwyliedig rhyngddi hi a Keller dyfu mae o mewn penbleth ai merch sydd angen ei gwylio ynteu angen ei gwarchod yw hon.
Dan yr holl bwysau closia'r ddau at ei gilydd wrth iddynt ill dau sylweddoli eu bod yn gymeriadau bregus - ef mewn galar yn dilyn marwolaeth ei wraig a hithau oherwydd profiadau ysgytiol yn ei gorffennol.
Cyrraedd y cyfan benllanw gydag ymweliad yr Arlywydd Edmund Zuwanie (Earl Cameron) a siambr y Cenhedloedd Unedig.
Ond pwy fydd yn anelu gwn ato?
Y canlyniad Ffilm hawdd iawn ymgolli ynddi - a da hynny gan fod y stori mor dyllog a gogor - ond mae'n hawdd anwybyddu hynny.
Mae cryn duedd i fod yn 'deilwng' iawn mewn perthynas â'r Cenhedloedd Unedig gan beri i rywun amau ar adegau a oedd hynny yn un o amodau cael ffilmio yno.
Dylid fod wedi chwynnu rhai ymadroddion canmoliaethus, propaganllyd, o'r sgript.
Y darnau gorau Yr olygfa agoriadol yn y stadiwm bêl-droed ddiffaith.
Y daith ar y bws.
Perfformiadau Dydyn nhw ddim yn Bogie a Bacall nac yn Tracy a Hepburn ond mae Kidman a Penn yn gweithio'n ddigon da gyda'i gilydd i gadw diddordeb cynulleidfa.
Mae Catherine Keener fel un o gyd-swyddogion Penn yn cael ei hafradu braidd a rhywun yn teimlo y gallai'r actores hon fod wedi cyfrannu llawer iawn mwy at y ffilm. Ar y llaw arall gellid fod wedi hepgor y cymeriad yn llwyr. Trueni gwastraffu cystal actores ar ran cyn waned.
Rhai geiriau "Dydi'r gwir ddim angen cyfieithiad" a nifer o osodiadau hunandybus eraill.
Gystal â'r trelar? Llawn cystal.
Ambell i farn Mae dau begwn gyda rhai beirniaid yn gwbl ddinistriol eu sylwadau ond eraill yn hynod o ganmoliaethus.
Does gan y Sunday Times ddim gair da o gwbl i'r ffilm ond yr Observer yn gweld sawl rhinwedd er gwaethaf ambell i wendid.
Canmolwyd gwaith ffilmio Darius Khondji yn y New Statesman ond mae'n cyhuddo Pollack o bobi gormod ar y sgript.
Ffilm, meddai'r Cymro sy'n dangos, fel y gwnaeth The Assasination of Richard Nixon, "gwir dalent" Sean Penn gan gyfeirio at "yr angerdd ganddo a'i fodlonrwydd dwys i fynegi dynion cyffredin yn brwydro yn erbyn amgylchiadau anarferol".
Gwerth mynd i'w gweld? Pnawn difyr ddigon.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|