![](/staticarchive/0b52567976c3644274d0613156b0845ca15e6737.jpg)
Alpha Dog (2007) Ffilm gyntaf Timberlake
![18](/staticarchive/e2e0fa8bcf57e64c4b0297c46c5bef38b97cddf0.jpg)
![Dwy seren allan o bump](/staticarchive/2d2d461f265c8fb4d61916b1bc71ecf6f66d5869.jpg)
Y sêr
Justin Timberlake; Emile Hirsch; Bruce Willis; Sharon Stone; Anton Yelchin
Cyfarwyddo
Nick Cassavetes
Hyd
118 munud
Adolygiad Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm?
Drama wedi ei gosod yn Los Angeles a San Diego yn 1999 yn olrhain bywyd Jesse James Hollywood, y deliwr cyffuriau ieuengaf erioed i fod ar restr pen ddrwgweithredwyr yr FBI.
Y stori
Mae Johnny Truelove (Hirsch) yn ddyn ifanc grymus a chyfoethog ond hefyd yn ddiasgwrn cefn.
Gyda chymorth ei Dad (Willis) datblygodd rwydwaith gwerthu cyffuriau.
Mae pethau'n mynd o chwith pan gyll un o'i gyfeillion ansefydlog ei arian mewn bargen.
Er mwyn cael ei arian yn ôl mae Truelove yn herwgipio brawd iau y cyfaill a mynd ag ef i San Diego.
Ond gan fod y brawd 15 oed (Yelchin) eisoes wedi cael blas ar gyffuriau ac alcohol, a'i berthynas gyda'i deulu yn dirywio o'r herwydd, mae'n falch o'r cyfle hwn i ddianc.
Tra bo'i fam adref yn poeni amdano mae o'n gwneud y mwyaf o'i ryddid gyda chriw newydd o ffrindiau anwadal.
Er bod cyfeillgarwch brawdol bron rhyngddo â Frankie (Timberlake) mae'r ofn sydd gan Truelove o'r hyn mae wedi ei achosi yn peri iddo gynllunio i ladd yr hogyn mewn er mwyn osgoi cosb o'i ddychwelyd ar ôl yr herwgipio.
Y canlyniad
Stori annymunol - ac iasoer ar adegau - ond ffilm siomedig a allai fod gymaint gwell.
Er gwaethaf ambell i berfformiad da nid yw'r cyfarwyddwr yn llwyddo i greu sefyllfa sy'n argyhoeddi mewn unrhyw ffordd.
Y gwir yw, na allwn gredu yn y cymeriadau a'u penderfyniadau.
Mae hefyd yn ffilm rhy hir a llif y stori yn anghyson.
Rhai Geiriau
• "Wyt ti erioed wedi cael breuddwyd: honno lle'r wyt ti wedi gwneud rhywbeth, a ti ddim yn gwybod pam, ond ti byth yn medru dychwelyd?" meddai Truelove.
Perfformiadau
• Perfformiad y canwr Justin Timberlake, sy'n rhagori. Mae'n berfformiad naturiol sy'n ennyn cydymdeimlad â pherson sydd, yn y bôn, yn annymunol.
• Roedd Sharon Stone yn effeithiol fel mam y bachgen ifanc ond bod yr ymgais i'w heneiddio a'i gwneud hi edrych yn dew yn chwerthinllyd, ond ni ellir ei beio hi asm hynny!
• Yr unig gyfraniad a gafwyd gan Bruce Willis oedd ei enw fel 'seren' a'r persona cyffredin a geir ganddo.
Darnau gorau
• Nifer o olygfeydd credadwy lle mae'r berthynas yn tyfu rhwng cymeriad Justin Timberlake a'r bachgen ifanc.
• Yr olygfa lle mae brawd yr bachgen ifanc yn ffrwydro drwy ddrysau parti yn chwilio am ei frawd ac yn ymladd â phump neu chwech o bobl gwahanol cyn dweud, "Os yw UNRHYW un yn gweld Johnny Truelove, dwedwch bo' fi'n chwilio amdano."
Ambell i farn
• "Ar y cyfan, mae'n flêr ac yn artiffisial. Mae yna ddiffyg ffocws ac mae'r naws yn newid mewn ffordd anghyfforddus," meddai'r Guardian.
• Bu Total Film ychydig yn fwy ffafriol gan ddweud ei bod yn stori sy'n gafael gyda pherfformiadau sy'n sefyll allan gan Timberlake, Hirsch a Yelchin.- - ond ei bod hefyd braidd yn hirwyntog.
Gwerth ei gweld?
Os nad oes gennych ryw hoffter mawr o Justin Timberlake does yna fawr ddim ichi yn y ffilm hon.
Fe fyddwn i'n eich cymell i wylio Bully neu Kids yn portreadu bywyd difreiniedig rhai o ieuenctid America mewn ffordd llawer iawn grymusach a mwy credadwy.
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|