Big Nothing (2006) Cysylltiad Cymreig bregus
Y sêr:
Simon Pegg; David Schwimmer; Alice Eve.
Cyfarwyddo:
Jean-Baptise Andrea.
Hyd:
86 munud
Adolygiad Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm?
Comedi eithriadol o dywyll, gyda wyneb lled gyfarwydd o Brydain yn actio ochr yn ochr ag un o sêr y rhaglen deledu Americanaidd Friends.
Hon oedd ffilm gloi Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006, fe welwyd y cyfarwyddwr a'r brif actores yn y dangosiad yn sinema Cineworld yng nghanol y ddinas i gyflwyno'u ffilm.
Mae cysylltiad bregus hefyd rhwng y ffilm hon a Chymru gan i beth o'r ffilmio ddigwydd ger Y Barri.
Hefyd, hi yw'r ffilm gyntaf i dderbyn arian o'r Gronfa ED Greadigol Newydd Cymru.
Y stori: Llwydda Gus i ddarbwyllo Charlie i ymuno ag ef mewn twyll a blacmel... ond dyw y cynllun ddim yn rhedeg mor llyfn a syml a'r disgwyl.
Mae'r penderfyniad yn gychwyn cadwyn gamgymeriadau a ddigwyddiadau peryglus sydd yn fuan iawn yn arwain i lofruddiaethau.
Y canlyniad:
Mae'r ffilm ychydig yn rhy fyr ac anghyson ar adegau, sydd yn drueni, gan fod elfennau effeithiol iawn o bryd i'w gilydd.
Ni allwn ddeall sut y gallai'r y Gronfa ED Creadigol gyfiawnhau cyfrannu tuag at y prosiect hwn gan nad oes unrhyw stamp Cymreig arni ac ni allwn weld fod llawer o dalent o Gymru wedi ennyn profiad o'r prosiect ychwaith.
Rwy'n gwir obeithio y bydd y ffilm yn gwneud elw fel bod o leiaf gyfiawnhad ariannol i dros fuddsoddiad Cymreig o'r fath.
Ambell i farn:
• "Llwyddiant cymysg, ond ar y cyfan yn ddarn credadwy o gomedi noir," meddai Channel4
• "Mae'n ffilm ddigon difyr sy'n cerdded y llinell yna rhwng hiwmor di-chwaeth clyfar a "slapstick" mochaidd amlwg; ond heb fentro digon i'r un maes na'r llall.
Clyfrach na fyddech chi'n ei ddisgwyl, ond ddim hanner mor glyfar a mae'n meddwl yw hi," meddai Galy Slaymaker o'r Western Mail.
Perfformiadau:
• Fe'm synnwyd ar yr ochr orau gan Simon Pegg nid yn unig am ei i allu i actio Americanwr credadwy, ond hefyd gyda'i bresenoldeb hyderus ar y sgrîn fawr.
• Doeddwn i ddim yn teimlo i David Schwimmer lwyddo i ailddyfeisio ei hun yn y rhan hon, os oedd am newid ei ddelwedd yn llygaid y cyhoedd. I bob pwrpas, mae'n dal i chwarae'r cymeriad Ross o Friends - ond mewn amgylchiadau llawer llai ysgafn a chyfforddus.
• Mae cameo annisgwyl gan Mimi Rogers (gwraig gyntaf Tom Cruise) hanner ffordd drwy'r ffilm a hithau heb ymddangos mewn llawer o ffilmiau ers nifer o flynyddoedd - ond mae ei golygfa yma yn un o rai mwyaf annisgwyl a doniol y ffilm.
Gwerth ei gweld?
Oni bai am y cysylltiadau Cymreig dwi ddim yn meddwl y byddwn i wedi brysio allan i'r sinema i weld Big Nothing.
Ac er imi chwerthin yn ystod ambell i olygfa doedd hi ddim yn creu argraff yn ei chyfanrwydd nac am ddigon hir. Ddim pellach na'r credydau ar ei diwedd a dweud y gwir.
Bydd cyfnod y partis Nadolig wedi dechrau erbyn i'r ffilm hon gael ei ryddhau ac rwy'n siŵr y bydd mwy o hwyl i'w gael yn y rheini yn hytrach na threulio awr a hanner mewn sinema dywyll yn gweld big nothing!
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|