Just My Luck (2006) Rhamant, doniolwch a chyffro!
Adolygiad o'r ffilm Just My Luck gan Meleri Siôn
Cyfarwyddwr: Donald Petrie Sgrifennu: I Marlene King, Amy Harris ³§Ãª°ù: Lindsay Lohan, Chris Pine, Faizon Love, Missi Pyle.
83 munud.
Beth mwy sydd ei angen ar ffilm? Cast bendigedig efallai yn cynnwys Lindsay Lohan (Freaky Friday) a Chris Pine (Princess Diaries 2) ac, wrth gwrs, stori lawn bywyd a dychymyg.
Mae Just My Luck yn dechrau trwy ein cyflwyno i Ashley Albright (Lindsay Lohan) - y ferch fwyaf lwcus yn y byd yn ôl ei ffrindiau!
Nid yw'n glawio pan pan fo Ashley yn cerdded lawr y stryd ac ni chaiff byth drafferth dal tacsi - yn Efrog Newydd hyd yn oed!
Y lwc ddiweddaraf iddi hi ei gael yw'r cyfle i drefnu dawns masquerade er mwyn hyrwyddo artistiaid cwmni recordio Damon Phillips (Faizon Love).
Yn y ddawns mae Jake Hardin - y dyn mwyaf anlwcus yn y byd! - yn rhannu cusan ag Ashley.
Fel arfer treulia Jake ei amser yn glanhau tai bach mewn ali fowlio neu'n rheoli band Prydeinig o'r enw McFly - band sy'n ceisio ennill dêl gyda Damon Phillips.
Ychydig wedi'r gusan mae bywydau Ashley a Jake yn troi'n llwyr gydag Ashley'n troi'n anlwcus a Jake yn lwcus ac mewn dim o dro mae gan McFly ddêl record gyda Damon Phillips.
O sylweddoli beth sydd wedi digwydd mae Ashley yn canolbwyntio ar ddarganfod y dawnsiwr hwnnw â'i cusanodd ond dydi hynny ddim yn hawdd gan fod Jake yn gwisgo mwgwd noson y ddawns.
Ond o fewn diwrnod i'r gusan mae Ashley wedi colli ei gwaith a'i chartref.
Pan wêl Jake yr Ashley anffodus mewn bwyty mae'n ceisio'i helpu trwy gynnig ei swydd glanhau toiledau iddi a chyn pen dim mae'rddau yn ymserchu yn ei gilydd a phan sylweddola Ashley pwy yw Jake mae'n ei gusanu gan beri i anlwc Jake ddychwelyd.
Y cwestiwn yw, a fydd Ashley yn ei helpu ef?
Ar y cyfan mae'r ffilm yn cynnwys digon o gyfleoedd i chwerthin a a chydymdeimlo bob yn ail.
Yn ogystal â hyn mae digonedd o emosiynau'n ymddangos trwy gydol y ffilm gan gynnwys rhai eithaf dwfn.
Mae'n ffilm sy'n dangos yr actorion ar eu gorau yn fy marn i.
A beth am neges y stori?
Ydy'r fath lwc yn bodoli neu ydy'r cyfan yn ganlyniad o'r dychymyg yn rhedeg yn ribidi res?
Y cwestiwn pwysicaf y mae'r ffilm yn ei godi yn fy marn i, fodd bynnag, yw a ydy lwc a llwyddiant mewn bywyd yn bwysicach na chariad - tybed beth fydd eich barn chi?
Ffilm sy'n bendant werth ei phrynu.
]
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
|