The Dark Knight Batman 2008 - Mae'n edrych yn ddu!
Y sêr
Christian Bale, Heath Ledger, Gary Oldman, Morgan freeman, Aaron Eckhart, Maggie Gyllenhaal a Michael Caine.
Cyfarwyddo
Christopher Nolan
Sgrifennu
Jonathan Nolan
Hyd
152 munud
Adolygiad Glyn Evans
Sut ffilm>
Ffilm sy'n parhau'r daith a gychwynnwyd gan David Nolan yn Batman Begins
Taith sy'n mynd ag arwr comics i gyflwr cwbl wahanol i'r holl arwyr jocôs eraill a dynghedwyd â'r gallu i achub y byd.
Ydi, mae'r gair 'dark' yn y teitl yn gwbl addas. Mae'r gymdeithas yn ddu, y stori yn ddu, y dihiryn yn ddu a Batman ei hun yn plymio o un pwll du o iselder ysbryd a gwewyr i'r llall ac yn llawn amheuaeth am ei swyddogaeth ei hun.
Gellid fod wedi gwneud y teitl yn fwy arwyddocaol fyth trwy ychwanegu y gair 'long' ato gan fod y ffilm hefyd ddeugain munud o leiaf yn rhy hir.
'Long' hefyd fel ag yn The long dark night of the soul fel y sylwodd un adolygydd - gan fod Batman yn brwydro gymaint â'i amheuon ei hun ag yw gyda'i arch elyn, y Joker.
Neges gyfoes Yn amlwg aeth y ddau frawd Christopher a Jonathan Nolan ati i wneud ffilm sy'n fwy na ffilm gyffro ond yn un sydd â sylw i 'w wneud ar y cyflwr dynol ac yn un sy'n feirniadol o feddylfryd rhyngwladol a chyfundrefn gyfraith-a-threfn yr Unol Daleithiau yn dilyn 9/11.
Yn ôl y dehongliad hwn, America ydi Gotham City a lluoedd cyfraith a threfn y wlad yw Batman (Christian Bale), y Comisiynydd Gordon (Gary Oldman) a'r District Attorney Harvey Dent (Aaron Eckhart) gyda'r Joker (Heath Ledger) yn alegori o'r bygythiad terfysgol sy'n bodoli yn y byd.
Nid bod y gyffelybiaeth yn un gwbl deg gan mai achosi terfysg a dinistr o ran pleser mae'r Joker nid i hyrwyddo unrhyw 'achos'.
Yn ffaeledig
Natur ffaeledig cymeriad Batman sy'n ddiddorol. Vigilante yw ac yn vigilante sy'n cael ei hun wedi ei orfodi i ymddwyn yr un mor dreisgar ac ymosodol â'r terfysgwr y mae'n ei wrthsefyll.
Er mwyn cael ei faen i'r wal rhaid iddo anwybyddu hawliau pobl gan gyfiawn dulliau annymunol er mwyn trechu'r 'drygioni mwy'. Ni all lwyddo heb sathru hawliau dynol trwy ddefnyddio technoleg i dreiddio i holl ffonau symudol Gotham ac wrth holi'r Joker yn y ddalfa mae'n gorfod troi at ei guro a'i ddyrnu er mwyn cael gwybodaeth ohono.
Ildia i'r rhwystredigaeth o beth mae'r 'dyn da' i'w wneud gyda gelyn sy'n mwynhau cael ei frifo!
O'r un brethyn
Yr ensyniad, yn y pen draw, yw mai tamaid o'r un brethyn yw'r terfysgwr a'r vigilante ond bod un yr ochr ddrwg i'r wal a'r llall yr ochr dda iddi ond eu dulliau o weithredu yr un mor wachul. Hen ddilema hyrwyddwyr cyfraith a threfn wrth gwrs - sut mae trechu'r diafol heb arfer dulliau'r diafol?
Yr unig lygedyn o obaith yma yw'r Bobl - mewn golygyfa rymus lle mae ganddyn nhw ar ddwy fferi y dewis o chwythu ei gilydd i ebargofiant er mwyn achub eu hunain.
Y perfformiadau
Hyd yn oed pe na byddai wedi marw ychydig cyn rhyddhau'r ffilm am berfformiad Heath Ledger fel y Joker y byddem wedi bod yn siarad - fel fel y siaradwyd am berfformiad Jack Nicholson yn 1989.
Y mae yn berfformiad cofiadwy o'i edrychiad i bob symudiad corfforol gan gynnwys symudiadau ei dafod a'i ddawns fach sionc ar gwblhau ei orchwylion ysgeler .
Yn gymeriad cwbl orffwyll, yn dalp o anfadrwydd, ef sy'n hawlio'r rhan fwyaf o'r ffilm.
Yn frwnt ac yn sinistr, mae'n creu y fath iasau a'r fath awyrgylch o fryntni noeth y mae rhywun yn cael ei orfodi i holi; Sut y gellir cyfiawnhau tystysgrif 12A i'r ffilm?
Ond er mai am y perfformiad anhygoel hwn y mae pawb yn siarad amdano ar yr un gwynt ag Oscar tybed a fyddai hynny yr un mor wir pe byddai Heath Ledger yn dal efo ni oherwydd cymeriad undimensiwn yw hwn o gymharu â Batman ei hun a pherfformiad mwy aml haenog Christian Bale.
Perfformiadau eraill sy'n haeddu eu crybwyll yw Gary Oldham fel yr heddwas a Morgan Freeman fel mentor Bruce Wayne - ef bob amser yn argyhoeddi fel y dyn o ddyfnder cymeriad.
Fel ag yn Batman Begins mae Michael Caine yn parhau'n was neu fwtler i'r arwr mantellog.
Golygfeydd Mae'r ffrwydradau un ag oll yn - wel, mor ymfflamychol ag y byddai rhywun yn disgwyl. Gan gynnwys ysbyty cyfan yn cael ei ffrwydro'n chwilfriw.
.
O ran tyndra yr olygfa sy'n gweithio orau yw'r un estynedig ar y ddwy fferi..
O ran coluro y niwed erchyll i wyneb Harvey Dent.
Gwerth ei gweld? Yn wir, mae werth ei gweld am y rheswm syml ei bod yn ceisio gwneud rhywbeth gwahanol ond yn ychwanegol at hynny mae'n ffilm afaelgar gyda digon o haenau iddi.
Ond y mae hi beth mwdredd yn rhy hir ac fe ellid fod wedi dweud y cyfan sydd ganddi i'w ddweud yn llawer mwy cryno.
Cysylltiadau Perthnasol
Batman Begins
|
|