Rambo (2008) Diwedd siomedig i gyfres
Cyfarwyddwr Sylvester Stallone
Sgrifennu Sylvester Stallone, Art Monterastelli
³§Ãª°ù Sylvester Stallone, Julie Benz, Gavin McTavish, Matthew Marsden, Paul Schulze
Gwion ap Rhisiart yn trafod Ffilmiau Rambo
A oeddwn i'n mynd i dalu dros chwephunt i weld y ddiweddaraf - a'r olaf - o ffilmiau Rambo?
Cafodd y gyntaf, First Blood, ei gwneud yn 1984 pan oedd Sylvester Stallone yn gredadwy fel milwr ifanc oedd newydd ddychwelyd o Fietnam i gael ei gamdrin gan sheriff ystyfnig ym mynyddoedd Oregon.
Cefais fy narbwyllo i fynd i weld ffilm 2008 gan gyfaill a ddywedodd y dylem ni fynd er mwyn cau pen y mwdwl ar ffilmiau yr oedd y ddau ohonom wedi tyfu i fyny â nhw.
Er gwaetha'r adolygiadau anffafriol iawn yn y wasg yn gyffredinol yr oeddwn i yn benderfynol o ddod o hyd i rinweddau gan i'r cymeriad gael cymaint o effaith arnaf yn fy arddegau.
Gweld rhinwedd Ac yn wir, gwelais rinwedd i'r ffilm tua hanner awr wedi iddi ddechrau! Roedd gweld Rambo yn gwaredu grŵp o filwyr creulon gyda dim ond bwa saeth pwerus yn rhoi cryn dipyn o foddhad sadistaidd imi mae'n rhaid cyfaddef.
Cefais bleser aruthrol hefyd gweld y teitlau ar y diwedd.
Yn anffodus, roedd yr awr a hanner rhwng y ddau beth yn wastraff llwyr ac yn sarhad ar bobl fel fi a roddodd gyfle i'r ffilm.
Cafodd Rocky Balboa - ffilm olaf cyn hyn cyfres fwyaf llwyddiannus Stallone - ymateb gwych gan bawb ac yr oeddwn innau ymhlith y rhai a'i canmolodd i'r cymylau flwyddyn yn ôl gan iddi ddelio â nifer o bynciau emosiynol a dynol fel heneiddio a galar, mewn ffordd deimladwy a thyner a hynny'n cloi y stori yn gwbl foddhaol.
I gyfeiriad arall Aeth y Rambo diweddaraf i gyfeiriad arall. Nid fu unrhyw ymdrech i greu stori o werth na chymeriadau credadwy.
Ynddi, mae'n pensiynwr Stallone, 63 oed, yn mynd i Burma i achub cenhadon crefyddol.
Yn y broses mae 236 o bobl yn cael eu lladd a ninnau'n teimlo i rywun geisio gwneud eu gorau glân i greu ffilm a chymeriadau hollol arwynebol.
Yn gedadwy Yn First Blood roedd John J Rambo yn gymeriad credadwy a theimladwy; yn filwr oedd yn teimlo iddo gael ei fradychu gan ei wlad.
Yn yr Wythdegau, gwnaed nifer o ffilmiau yn ymwneud â sgil effeithiau y rhyfel yn Fietnam gan gynnwys The Deer Hunter aBorn on the Fourth of July gyda thoreth o ffilmiau eraill yn portreadu bywyd milwyr yn ystod y Rhyfel.
Er na chafodd hi'r un clod â'r ffilmiau hynny yr oedd First Blood hithau yn gyfraniad gwerth chweil i'r genre.
Pan ryddhawyd Rambo: First Blood Part 2 daliodd hithau zeitgeist neu ysbryd y cyfnod gan wneud yn wych mewn sinemâu ar draws y byd.
Yn anffodus nid oedd hyn yn rhywbeth i ymhyfrydu ynddi er i'r Arlywydd Ronald Regan ddweud mai'r ffilm dreisgar a senoffobig hon oedd ei hoff ffilm ef a hynny ynddo'i hun yn adlewyrchiad digon arswydus ar y cyfnod hwnnw.
I'w roi mewn cyd-destun, dyma'r cyfnod pan oedd y Rhyfel Oer ar ei anterth gyda chynlluniau star wars mawr gan Regan i osod arfau amddiffynnol yn y gofod.
Ymladd y Rwsiaid
Dair blynedd yn ddiweddarach dychwelodd Stallone yn ymladd y Rwsiaid yn Afghanistan - wedi'r cyfan roedd ymladd y genedl hon wedi gweithio iddo yn Rocky IV pan fu'r arwr hwnnw yn paffio'r peiriant ar ddwy goes, Ivan Drago.
Ond erbyn 1988, pan ryddhawyd Rambo III, roedd y Rhyfel Oer ar fin dod i ben a'r cymeriadau mor afreal a thros ben llestri fel na ellid credu ynddyn nhw o gwbl.
Bu gwrthwynebiad mawr i'r ffilm ym Mhrydain hefyd yn dilyn y sôn i Michael Ryan wisgo fel Rambo cyn saethu'n farw 16 o bobl yn Hungerford.
Rhwng popeth, methiant mawr fu Rambo III ac mae'n eironig edrych yn ôl ar y ffilm nawr ar Rambo yn cynorthwyo'r mujahadeen yn erbyn y Sofieitiaid sef y bobl a esblygodd i fod yn Taliban!
Pam eto Pam felly atgyfodi'r gyfres yn 2008?
Dydw i ddim yn siŵr allai ateb y cwestiwn yna. Mae'n wir bod cyfundrefn Burma yn un annheg a threisgar fel y gwelwyd yn glir ar y newyddion yn Ionawr ac mae yna'n sicr le i ffilm edrych ar yr argyfwng dyngarol dy'n digwydd yno.
Ond wedi dweud hynny, dyw ffilm mor ddifeddwl a chwerthinllyd a Rambo ddim yn gyfraniad gwerthfawr o gwbl.
Mae'r trais a welwn ar y sgrin yn waeth na'r hyn a welais yn unrhyw ffilm arall.
Os oedd yr ail ar drydydd ffilm yn y gyfres yn debyg i gomic gellir cymharu a gêm gyfrifiadurol shoot 'em up.
Bosib mai hynny yw ei hunig rinwedd arall yw ei bod yn amserol o ran technoleg gyfrifiadurol.
|
|