Eastern Promises Llwyddiant yng nghanol gwaed a bryntni
Y sêr - Viggo Mortensen, Naomi Watts, Vincent Cassel, Armin Mueller-Stahl, Sinead Cusack.
Cyfarwyddo David Cronenberg.
Sgrifennu Steven Knight,.
Hyd
100 munud.
Adolygiad Shaun Ablett
Nid oes llawer o ffilmiau fel Eastern Promises yn cael eu gwneud rhagor, ffilmiau sy'n cyfleu negeseuon pwysig iawn, sydd â stori gref a deallus, a hefyd bortread ardderchog o bob cymeriad.
Dyna sut ffilm yw Eastern Promises David Cronenberg - ffilm am angau i raddau ond yn fwy na hynny, ffilm sy'n canolbwyntio ar weithgareddau y maffia Rwsiaidd yn Llundain.
Mae'n ffilm wahanol i rai eraill am gangiau gan ei bod canolbwyntio ar ddulliau'r maffia Rwsiaidd a chawn olwg mewn dyfnder ar y gymdeithas hon sy'n enwog dros y byd am ei ffordd o ladd ac elwa ar werthu cyffuriau anghyfreithlon.
Mae'r brif stori yn ymwneud â merch a a fu farw mewn ysbyty yn Llundain ar enedigaeth ei baban a'r fydwraig, Anna Khitrova ( Naomi Watts), yn ymroi i chwilio am fwy o wybodaeth am deulu'r fam a datrys y broblem o pwy fydd yn edrych ar ôl y babi.
Ond wrth edrych chwilio i hanes y ferch mae Anna yn cael ei thynnu'n ddyfnach i fyd y maffia a thrwy hynny gwrdd â Nikkolai Luzhin (Viggo Mortensen) sy'n was i'r maffia.
Cefais ysgytwad o weld pa mor ddeniadol a gwefreiddiol oedd y prif gymeriad, Nikolai Luzhin, sy'n pwysleisio pa mor dda yw Viggo Mortensen.
Hoffais hefyd berfformiad Naomi Watts fel y nyrs sy'n dod a rhywfaint o dosturi i'r ffilm.
Aeth Viggo Mortensen - a chwaraeai Aragorn yn Lord of the Rings - i Rwsia am nifer o wythnosau cyn dechrau ffilmio i brofi'r diwylliant gwahanol sydd yno ac mae hyn yn siŵr o fod wedi cael effaith gadarnhaol ar ei berfformiad.
Creodd y cyfarwyddwr, David Cronenberg, yr un math o ffilm nôl yn 2005 gyda Viggo Mortensen, felly mae'n amlwg bod perthynas bwysig rhwng y ddau ac erbyn Eastern Promises mae'n amlwg bod gan y ddau fwy o syniad beth sydd ei angen i wneud y ffilm hon yn un llwyddiannus - ffilm gyda llawer o ymladd, gwaed a rhegi ond ffilm fythgofiadwy hefyd.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Shaun Ablett
|
|