In the Valley of Elah (2008) Mynd i'r afael a gwewyr Irac
4 seren
Y sêr
Tommy Lee Jones; Charlize Theron; Susan Sarandon
Cyfarwyddo
Paul Haggis
Ysgrifennu
Stori gan Mark Boel wedi ei haddasu ar gyfer y sgrîn gan Paul Haggis
Hyd
121 munud
Adolygiad gan Gwion ap Rhisiart.
Sut ffilm
Trasiedi fodern yn ymwneud â'r goblygiadau personol, teuluol a chymdeithasol sy'n deillio pan fo pobl ifainc yn mynd i ymladd dros eu gwlad.
Y cyfarwyddwr, Paul Haggis, oedd yn gyfrifol am Crash ( 2004) oedd yn ymwneud â'r hiliaeth sy'n bodoli yn America heddiw.
Y stori
Darganfyddir corff marw milwr ifanc a fu'n ymladd yn Irac y tu allan i'w gatrawd yn yr Unol Daleithiau, yn amlwg wedi ei lofruddio.
Ond mae ei dad, Hank Deerfield, (Jones), a fu'n swyddog yn y fyddin, yn amau bod y fyddin yn celu'r gwir am yr hyn ddigwyddodd i'w fab.
Yn benderfynol o ddod o hyd i'r gwir, mae ef a'r Ditectif Emily Sanders (Theron), yn ymchwilio mewn i'r mater eu hunain gan ddatgelu ffeithiau trist iawn am yr hyn sy'n digwydd mewn rhyfel. Gwybodaeth anghyfforddus i unrhyw riant o'i chlywed am eu mab marw.
Y canlyniad
Stori dditectif ar yr wyneb ond ffilm â dyfnder mawr iddi mewn gwirionedd gan ddefnyddio'n ddestlus iawn stori bersonol emosiynol am deulu i wneud pwynt eangach beirniadol o bolisi tramor yr Unol Daleithiau a'r ffordd y mae polisïau yn effeithio ar bobl ifainc cyffredin, teuluoedd a chymunedau.
Ambell i farn
• Rhoddodd cylchgrawn Empire bedair seren allan o bump In the Valley of Elah gan ei disgrifio fel ffilm "llawn tyndra a phŵer" ac "yn llawer llai amlwg na Crash".
"Efallai bod Elah yn llawn o syniadau sydd ddim cweit yn cysylltu, ond mae perfformiad ysgubol Jones yn rhoi gwedd ddynol a thrugarog ar y gwrthdaro yn Irac," meddai.
• Yn ôl Peter Bradshaw yn y Guardian: "Mae hon yn ffilm gyhyrog o bwerus ac mae ofn a dicter gwirioneddol yn ei chalon."
Perfformiadau
• Ysgrifennais ar y wefan Cymru A'r Byd fis Ionawr 2007 y byddwn yn bwyta fy nhiced sinema pe na bai Forest Whittaker yn ennill Oscar am ei berfformiad yn The Last King of Scotland - ac yn wir enillodd y wobr.
Rwyf am fod digon rhyfygus a dweud yr un peth am Tommy Lee Jones eleni eto.
Mae'n berfformiad ei yrfa yn cyfleu cymeriad bregus a balch - balchder o'i ddisgyblaeth yn y fyddin a thristwch personol a thristwch yn y diffyg parch sy'n cael ei ddangos tuag ato gan y sefydliad hwn bellach.
• Perfformiad da gan Charlize Theron fel heddwas cryf, galluog a diffuant sydd yn gorfod ymladd i gael parch gan ei chydweithwyr sy'n priodoli ei llwyddiant i'w phrydferthwch.
• Perfformiad grymus gan Susan Sarandon hefyd fel mam y milwr a gwraig Tommy Lee Jones. Trueni bod ei chymeriad yn un mor ymylol na welir yn ystod hanner olaf y ffilm.
Rhai geiriau
• "Heriodd Goliath yr Israeliaid i ddanfon eu milwr gorau i lawr y bryn i'w ymladd - ond gwrthododd pob un," meddai Hank Deerfield tra'n adrodd stori Dafydd a Goliath wrth fab cymeriad Theron. Yn llawn cwestiynau craff hola'r bachgen, "Pam na wnaethon nhw ei saethu o gyda bwa a saeth o dop y bryn?". "Wel, byddai hynny heb fod yn deg.." yw ateb ansicr ac anfoddhaol Deerfield.
Darnau gorau
• Yr olygfa sydd yn dangos Tommy Lee Jones ar ei orau yw'r un fer iawn lle mae'n eistedd mewn launderette yn disgwyl i'w ddillad olchi gyda'r edrychiad ar ei wyneb ac osgo ei gorff yn cyfleu dyn sydd wedi ei dorri.
Wrth i gymeriad Charlize Theron gerdded i mewn, yn sydyn mae'n teimlo ei fod yn gorfod cyfleu eu hun fel rhywun cadarn a disgybledig.
• Mae'r berthynas rhwng cymeriadau Tommy Lee Jones a Charlize Theron yn realistig iawn ym mhob golygfa ac yn dangos dealltwriaeth, tynerwch a hyd yn oed gyffro rhywiol rhyngddynt.
• Diweddglo'r ffilm gyda'r faner. Diwedd addas iawn i ffilm raenus gyda rhywbeth pwysig iawn i'w ddweud.
Gwerth ei gweld?
Da gweld ffilm am yr hyn sy'n digwydd yn Irac ar hyn o bryd. Mae hon yn sicr yn gyfraniad meddylgar a chynnil.
Ni welir brwydrau a chyffro na bwledi ond mae'r hyn sy'n cael ei ddweud a'r ffordd mae'n cael ei ddweud yn cyfleu mwy am anghyfiawnder a'r erchyllterau na'r rhan fwyaf o ffilmiau rhyfel traddodiadol.
|
|