Atonement (2007) Gafael ar gyfnod - gafael ar stori sy'n ysgytwol
Y sêr
Keira Knightley, James McAvoy, Romola Garai, Saoirse Ronan
Cyfarwyddo
Joe Wright
Sgrifennu
Christopher Hampton - wedi ei seilio ar nofel o'r un enw gan Ian McEwan.
Hyd
122 munud
Sut ffilm
Ni fyddai'r disgrifiad 'stori garu o gyfnod yr Ail Ryfel Byd yn gwneud tegwch â'r ffilm rymus hon sydd yn cynnig cymaint mewn syniadaeth a ffilmio. Efallai y gwêl rhai y cychwyn yn rhy araf ond bydd yr ail hanner ysgytwol yn cyffwrdd y rhelyw.
Y stori
Ar yr wyneb mae'r stori yn un seml am ferch ifanc ddychmygus, 13 oed, Briony (Saoirse Ronan) yn dweud celwydd am y myfyriwr meddygol Robbie (James McAvoy), sy'n garddio ar ystad ei rhieni, a hynny'n peri iddo gael ei garcharu ar gam am ymosodiad rhywiol oherwydd i ddychymyg carlamus Briony gamddehongli digwyddiadau rhwng ei chwaer hÅ·n, Cecilia (Keira Knightly), a Robbie.
Pan gyhoeddir yr Ail Ryfel Byd cynigir ei ryddid i Robbie cyn belled ei fod yn ymuno â'r fyddin ac yno y'i gwelwn nesaf yn yn un o dri milwr yn ceisio ffeindio'u ffordd i Dunkirk.
Gyda Cecilia wedi ei chlwyfo yn emosiynol a Briony (erbyn hyn yn ddeunaw oed yn cael ei chwarae gan Romola Garai) yn edifar iddi wneud y fath gam ag ef mae'r ddwy yn mynd yn nyrsus i weini ar filwyr yr Ail Ryfel Byd sydd ar ffo o Dunkirk - un i anghofio ei galar a'r llall i wneud iawn am y drwg a wnaeth.
Fodd bynnag, mae troadau yn y stori, gan gynnwys un ar y diwedd, sy'n gwneud peri bod crynhoad o'r fath yn annigonol o or syml.
Y canlyniad Mae sawl peth yn gwneud hon yn ffilm go arbennig nid lleiaf y modd y mae awyrgylch y cyfnod rhwng 1932 a 1940 yn cael eu cyfleu. I rai bydd yn atgof o'r hyn a fu, i eraill yn fyd gwahanol. "Mae'r gorffennol yn wlad wahanol," yn wir.
Ond er cystal yr awyrgylch ac er mor hawdd ymgolli ynddo, mae'n deg dweud bod y ffilm yn cymryd cryn amser i gyrraedd ei huchafbwynt cyntaf o frad Briony. Ond wedi hynny mae golygfa ar ôl golygfa gwirioneddol ysgytwol sy'n ein rhwygo'n emosiynol.
Mae'r stori'n cael ei hadrodd trwy gyfrwng nifer o olygfeydd allan o drefn - ambell un yn cael ei chwarae yn effeithiol iawn fwy nag unwaith er mwyn eu dehongli o safbwynt gwahanol gymeriadau.!
Mae cariad, teyrngarwch, brad, rhyfel ac aeddfedrwydd ymhlith y themâu yn ogystal â'r thema ganolog o wneud iawn am rhyw ddrwg yn y gorffennol a cheisio a rhoi maddeuant.
A beth yw gwerth y gwir?
Mewn un golygfa ddirdynol mae Briony, y nyrs, yn cysuro milwr Ffrengig ar ei wely angau trwy adael i'w feddwl cymysg gredu mai ei gariad sydd yno wrth ei ochr. Merch y celwydd dinistriol yn dweud celwydd arall ond y tro hwn bod hynny'n gysur ac yn fendith.
Mae yna yn Atonement adlais amlwg o ddwy ffilm arall. The English Patient gan Anthony Minghella sydd amlycaf ond mae'n rhaid bod helynt y llythyr gan Robbie caru i Cecilia trwy law Briony i fod i'n hatgoffa o The Go-Between y cymerodd Michael Redgrave ran ynddi.
Tanlinellir y cysylltiad hwn trwy gael Minghella yn holi Vanesa Redgrave - fel Briony yn ei hen ddyddiau - ar ddiwedd y ffilm ac yn y cyfweliad hwn, ac nid cyn hynny, y daw popeth yn eglur am Atonement.
Heb os mae Atonement yn brofiad i'w drysori gyda chymaint o gysgodion i gydio ynddyn nhw. Ac mae ei olwg ar fywyd milwyr yn gwbl glir ac eglur.
Ambell i farn Nid pawb a blesiwyd a'i gymryd yn ddigon ysgafn mae Deborah Ross yn y Spectator gan gwyno nad yw'r cymeriadau ddigon 'real' iddi ymdeimlo â hwy. "Mae hon yn ffilm o gryn nerth ond ni allwn ddod o hyd i'w chalon," meddai gan gynnig pwnc trafod yn syth.
Yn y New Statesman wedyn mae Ryan Gilbey yn amau bod arddull McEwan yn anghydnaws a gramadeg ffilm gan ddweud bod rhai golygfeydd o ganlyniad fel golygfeydd 'B movies'.
Ond mae eraill fel y Guardian, Observer, Telegraph, Sunday Telegraph a'r ddau Indipendent y tu hwnt gyda'u canmoliaeth o ffilm hynod deimladwy gyda pherfformiadau a lluniau rhagorol.
"Mae'n uchelgeisiol gydag actio teriffig," meddai'r Telegraph.
Ond yn amlwg nid yn un fydd yn plesio pawb fel ei gilydd.
Perfformiadau Er mai Keira Knightly - ac mae hi'n gwneud gwaith teilwng - fu'n cael y sylw mwyaf ac a welwyd drosodd a throsodd yn codi bron yn noeth o'r dŵr, perfformiadau Saoirse Ronan, James McAvoy a Romola Garai yw rhai cofiadwy y ffilm hon.
Golygfeydd cofiadwyYdi, mae'r olygfa - hynod gyfarwydd erbyn hyn - o Knightly yn codi o'r dwr a'i dilledyn prin yn glynu wrthi yn drawiadol ac mae'n siŵr y bydd yn perswadio rhai i'r sinema!
Ond mae golygfeydd eraill hefyd sy'n ymwneud â dŵr nid lleiaf yr un lle mae'n ffrwydro i'r gysgodfan cyrchoedd awyr yn Llundain lle mae Cecilia yn ymochel rhag y bomiau.
Mae'r panorama o Robbie yn Dunkirk yn disgwyl cael eu cario i ddiogelwch Lloegr yn hunllefus.
Briony yn cysuro'r Ffrancwr ar ei wely angau.
Y cyfarfyddiad rhwng Cecilia, Briony a Robbie a'i ymateb i'w brad.
Gwrandewch
Ar y gerddoriaeth a chnoc barhaus hen deipiadur.
Gwerth ei gweld Dywedwyd bod nofel McEwan yn un na ellid ei ffilmio. Profwyd hynny'n anghywir ac mae hwn yn brofiad na ddylid ei golli. Ac os yw yr hanner cyntaf yn mudferwi braidd yn rhy araf yr ydym yn cael ei taflu o un crochan berwedig i'r llall yn ystod yr ail hanner. Ac mae cymaint o bethau i feddwl amdanyn nhw wedyn. Cymaint o adleisiau; mwy na thebyg y bydd angen ei gweld fwy nag unwaith i weld popeth yn ei phensaernïaeth.
Cysylltiadau Perthnasol
Geraint Morse yn Dweud ei Ddweud am Atonement
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|