Prinder ffilmiau Cymraeg Mae angen mwy o ffilmiau o Gymru, yn ôl un o'n hactorion mwyaf blaenllaw.
Mae Matthew Rhys wedi ennill clod fel actor ar lwyfan, mewn cynyrchiadau o The Graduate a Romeo and Juliet, yn ogystal ag ar y sgrîn fawr, mewn ffilmiau fel Titus gydag Anthony Hopkins.
Ond ar raglen materion cyfoes 91Èȱ¬ Cymru, Taro 9, ar S4C ddydd Mawrth, Ebrill 11 dywed na all gofio'r tro diwethaf iddo actio mewn cynhyrchiad Cymraeg.
Pryderu "Prin iawn fydda i'n gweithio yn y Gymraeg," meddai Matthew, sydd wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau Cymreig, fel House of America a Very Annie Mary.
A dywedodd wrth ohebydd y rhaglen, Dewi Llwyd, ei fod yn pryderu nad oes mwy o ffilmiau'n cael eu gwneud - ac y byddai'n hoffi gweld mwy o fuddsoddi mewn datblygu sgriptiau.
"Os yw'r sgript yn dda, mi neith pobl ymuno â'r prosiect. Allan yn yr Unol Daleithiau...ar y dudalen gyntaf, mae'n dweud, 'Draft 8/ 9/10/1'. Ond ...ym Mhrydain, chi'n gweld 'Drafft 1 / 2', achos falle dyw'r amser ddim gyda nhw, oblegid dyw'r arian ddim gyda nhw, felly dyw e ddim yn barod i'w saethu."
Anodd cael arian Yn y rhaglen hefyd eglura cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr pa mor anodd yw casglu'r arian ynghyd ar gyfer cynhyrchu ffilmiau.
Bydd ffilm ddiweddaraf Marc Evans, Snowcake, gyda Sigourney Weaver ac Alan Rickman yn ein sinemâu yn ddiweddarach eleni.
Er bod ffilmiau blaenorol y cyfarwyddwr o Gaerdydd wedi bod yn llwyddiannus yn fasnachol, ac iddo ennill nifer o wobrau, mae dod o hyd i'r arian ar gyfer ffilmiau yn parhau'n hunllef.
"Gyda Snowcake," meddai, "fe gymerodd hi flwyddyn i ffeindio'r arian, a 27 diwrnod i'w saethu, felly dyw e ddim yn gyfartal fel proses."
Cafodd dwy ffilm Gymraeg, Solomon a Gaynor a Hedd Wyn enwebiadau am Oscars, a daeth llwyddiant masnachol i ffilmiau Saesneg o Gymru, fel Twin Town a Human Traffic.
Ond ers hynny, digon prin fu ffilmiau o Gymru mewn unrhyw iaith, a hynny er bod nifer o actorion o Gymru yn llwyddo'n rhyngwladol.
Rhwng 1995 a 2005 enillodd 27 o ffilmiau nodwedd arian trwy Gyngor Celfyddydau Cymru a Sgrîn Cymru Wales - o'r rheiny dim ond 14 gafodd eu cwblhau, a dim ond dwy o'r rheiny gafodd eu rhyddhau i sinemâu drwy Brydain (Very Annie Mary ac A Way of Life)
Corff newydd Ddiwedd Mawrth 2006 fe ddaeth y corff a fu'n gyfrifol am ffilm yng Nghymru, Sgrîn Cymru Wales, i ben, yn dilyn adroddiad beirniadol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Yn ôl Peter Edwards, Cadeirydd y corff newydd fydd yn dod yn ei le, bydd Asiantaeth Ffilm Cymru nawr yn canolbwyntio ar hybu ffilmiau gan gynhyrchwyr newydd.
"Mae'n rhaid gwneud yn siŵr ein bod ni'n ffeindio'r prosiectau, a'r talent, i fynd gyda'i gilydd, fel eu bod nhw'n gallu gwneud ffilmiau cyntaf yn eithaf cyflym, yn hytrach na gwastraffu eu talent trwy aros o gwmpas yn rhy hir," meddai.
Taro 9, Dydd Mawrth, Ebrill 11, 2006. 91Èȱ¬ Cymru ar S4C, 20.25.
|
emyr williams , ankstmusik Helo,
Llawer o ddiolch am adolygu fy ffilm 'Y Lleill' - gwych !
emyr williams , ankstmusik Yn cytuno (wrth gwrs) fod yna brinder o ffilmie cymraeg. Neithiwr fe ddangoswyd fy ffilm sinema annibynnol Y LLEILL(the others), yn Theatr Gwynedd, Bangor - noson wych, cynulleidfa fawr (hen ag ifanc)a digon o awch i wylio ffilm fodern gymraeg. Yn siomedig (i mi) mae'r ffilm wedi cael ei ddangos yn gyson mewn sinemau ers rhai misoedd heb unrhyw sylw gan wefan Cymru'r Byd - hwyrach fod yr oes fodern yn hapusach yn cwyno am betha a trafod diffyg hyn a diffyg llall yn hytrach na profi yr hyn sy yn bodoli a sy yna ar eu cyfe. Just a thought. Wrth gwrs mae hi yn bwysig cael adolygiada o ffilmie saesneg yn y gymraeg - ond beth am fentro i adolygu ffilm gymraeg yn yr un ffordd.
Yr oedd gan 91Èȱ¬ Cymru'r Byd adolygydd yn Theatr Gwynedd ac erbyn hyn mae ei sylwadau ef i'w gweld ar ein gwefan. Cliciwch
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|