Finding Neverland Yn hapus yn ein dagrau
Y sêr Johnny Depp, Kate Winslet, Julie Christie, Freddie Highmore, Dustin Hoffman
Cyfarwyddwr Marc Forster
Sgrifennu David Magee
Hyd 101 munud
Sut ffilm Drama ddagrau sy'n gwneud pawb yn hapus. Stori lenyddol, ramantaidd, am berthynas y dramodydd, J M Barrie, â gwraig weddw a'i phlant a'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'r ddrama Peter Pan a gwlad Neverland.
Y stori Ac yntau a'i ben yn ei blu yn dilyn derbyniad claear i'w ddrama ddiweddaraf, The Admirable Crichton, mae'r dramodydd Albanaidd gyda'r llais melfed, J M Barrie (Depp) yn cyfarfod yn y parc, Sylvia Llewelyn Davies (Winslet), gwraig weddw a mam i bedwar o blant.
Trwy apelio at ei phlant gyda'i ymddygiad plentynnaidd mae'n ennill ei chalon hithau hefyd a daw Barrie, Sylvia a'r plant yn gymaint ffrindiau mae'n treulio mwy o amser gyda nhw na chyda'i wraig bell ac oeraidd ei hun, Mary (Radha Mitchell).
Daw eu priodas dan fwy fyth o bwysau pan fo pobl yn dechrau siarad nid yn unig am berthynas y gŵr priod hwn â gwraig weddw ond ei berthynas â'i phlant hefyd. Ymhlith y rhai sy'n rhybuddio Barrie i ymatal yw ei gyfaill Syr Arthur Conan Doyle.
Ymhlith y Llywelyn Daviesus mae Emma du Maurier, mam Sylvia (Julie Christie) yn elyniaethus i'r berthynas hefyd. Yn gwrthod cael ei swyno gan ei chwarae plentynnaidd, hefyd, mae'r mab Peter (Freddie Highmore) sy'n dal mewn galar ar ôl ei dad.
Daw mwy fyth o ddagrau pan fo Sylvia'n dechrau pesychu'n angladdol a datblygu salwch marwol.
Ond o gael ei dynnu i fywyd diniwed a synhwyrus chwarae plant mae Barrie yn esgor ar ei ddrama fwyaf anghyffredin a mwyaf llwyddiannus am y bachgen bythol ifanc, Peter Pan, a'r wlad Dir na n-Ogaidd, Neverland, lle mae popeth yn bosibl a phob clwyf yn cael ei esmwytháu.
Y canlyniad Os nad oeddech chi'n credu mewn tylwyth teg cynt . . .
Cynhyrchiad gafaelgar a synhwyrus ac, os braidd yn siwgwraidd, yn cyffwrdd â'r galon.
Ond er mai ffilm am blant ac am ddrama i blant yw hon dydi hi ddim yn ffilm i blant o bell ffordd.
Mae yma edrych hefyd ar y broses greadigol ac mae gwersi hefyd ynglŷn â'n hagweddau tuag at fywyd a nerth y dychymyg. "Mi wnes ti'u dysgu nhw y gall pethau fod yn wahanol trwy smalio," meddir tua diwedd y ffilm.
Ffilm neis ydi hon yn ei hanfod ac er bod bwgan paedoffilia yn llechu yn y cefndir caiff ei gadw'n ddigon pell o'r stori a dim ond y cymhellion mwyaf anrhydeddus sy'n cael eu priodoli i Barrie.
Does dim ymdrech ychwaith i archwilio mewn unrhyw ddyfnder y berthynas ddiffygiol rhyngddo ef â'i wraig.
Y darnau gorau Yn gyson ddiddorol ond mae teimladrwydd arbennig yn y perfformiad o Peter Pan yng nghartref Mrs Llewelyn Davies.
Perfformiadau Mae dehongliad Depp o Barrie yn argyhoeddi a Julie Christie yn wych fel mam Sylvia Llewelyn Davies.
Dydi'r ymwneud rhwng Depp a Winslet, fodd bynnag, ddim yn gweithio gystal.
Fel y byddai rhywun yn disgwyl mae Dustin Hoffman yntau yn gwneud yn fawr o ran fechan a roddwyd iddo.
Y gwir amdani yw fod hwn yn gynhyrchiad y mae ei berfformiadau yn asio'n dda i'w gilydd heb unrhyw berfformiad gwan.
Mae Depp yn hudolus a swynol ac yn cynnal ei acen Albanaidd i'r diwedd.
Ymhlith y plant mae Freddie Highmore yn rhagorol.
Gystal â'r trelar? Yn rhoi mwy o foddhad nag â awgrymir.
Ambell i farn Er yr islais cyson o glod, cymysg yw'r ymateb mewn gwirionedd a neb yn mynd dros ben llestri â'i ganmoliaeth.
Dagreuol heb fod yn sentimental meddai'r Sunday Times sydd, fel sawl un arall, yn sôn am y posibilrwydd o Oscars pan ddaw yn ddydd o brysur bwyso ar gyfer pethau felly.
Canmolodd y Wales on Sunday Depp am beidio â dwyn y sioe a disgrifir Highmore fel "sensational".
Yn addas iawn, mae Gary Slaymaker yn y Western Mail yn tynnu sylw at y sgriptio celfydd a't cyfarwyddo cain.
Rhai geiriau "Beth yn union ydi trosedd Michael?""Mae o'n frawd iau imi."
Os dowch chi o hyd i lygedyn o hapusrwydd yn y byd mae yna bob amser rywun sydd eisiau ei ddiffodd.
Wrth gwrs wnaiff o ddim gweithio - os na fydd neb yn credu ynddo.
Ffeithiol Gorau po leiaf ŵyr rhywun am fywyd go iawn J M Barrie gan nad yw cadw'n gaeth at ffeithiau yn un o rinweddau'r ffilm. Dyma rai pethau i'w hystyried: Dyn bychan digon diolwg, hyll yn wir, oedd J M Barrie. Nid felly Johnny Depp! Doedd Sylvia Llewelyn Davies ddim yn wraig weddw pan gyfarfu'r ddau am y tro cyntaf ac yr oedd ganddi fwy na phedwar o blant.
Gwerth mynd i'w gweld? Ydi'n wir - ond dim ond gyda'r aeddfetaf o'r plant!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|