Martha Jac a Sianco - y ffilm Teyrnged deilwng i gampwaith o nofel
Y Sêr Sharon Morgan, Ifan Huw Dafydd, Geraint Lewis, Carol Harrison.
Cyfarwyddo Paul Jones.
Sgwennu Addasiad Caryl Lewis o'i nofel ei hun
Hyd 110 munud
Lowri Haf Cooke yn adolygu ffilm Nadolig S4C 2008
Mae Martha Jac a Sianco yn dilyn hanes dau frawd a chwaer sy'n gaeth i'w gilydd yn dilyn marwolaeth eu mam.
Ond er ei bod yn ffilm am rwystredigaeth, chwalu breuddwydion a'r ochor dywyll i fywyd cefn gwlad, ceir eiliadau o hiwmor, pathos, a thynerwch ingol.
Oedd, roedd y ffilm hon yn ddewis rhyfedd fel prif raglen S4C nos Nadolig 2008 ond i mi, Martha Jac a Sianco oedd uchafbwynt darlledu'r Nadolig- ar unrhyw sianel.
Haenau dwfn Y brif feirniadaeth am amseriad y darlledu oedd ei bod hi'n ffilm mor "depressing" ac, yn wir, ar un wedd mae hi yn ffilm dywyll sy'n addasiad o lyfr tywyllach!
Ond annheilwng iawn fyddai diystyru'r ffilm ar sail mor arwynebol gan fod y stori reit syml yn cuddio haenau dwfn ac fe ddylai unrhyw un gyda brawd neu chwaer fedru uniaethu ag o leiaf elfen o'r berthynas glostraffobig o fewn y teulu dan sylw.
Angladd Mami Mae'n agor ar achlysur angladd Mami, penteulu fferm Graig Ddu yn ne Ceredigion, ac yn dilyn y cynhebrwng deallwn iddi adael y fferm yng ngofal cyfartal y tri "plentyn"; Martha (Sharon Morgan), Jac (Ifan Huw Dafydd) a Sianco (Geraint Lewis).
Mae Jac, y brawd hÅ·n, yn gandryll. Ag yntau'n nesau am ei drigain oed mae e'n ddyn caled sydd wedi cyfaddawdu erioed dan yr argraff y byddai'n cael ei haeddiant.
Bu'n rhaid i Martha hefyd wynebu penderfyniadau anodd gan dalu'n ddrud dros y blynyddoedd, a Sianco'r brawd bach ar goll ym meddwl plentyn - yr unig un i alaru'n agored am fam sydd yn dal i daflu cysgod trostynt oll o'r tu hwnt i'r bedd.
Dynes ddwad Ymddengys mai stalemate yw'r sefyllfa nes y daw Judy (Carol Harrison) - dynes ddwad, a chariad Jac- i fyw atynt a'i phresenoldeb hi yn troi sefyllfa arteithiol yn un ganmil gwaeth.
Ar un pwynt, cynigir achubiaeth i Martha wrth i Gwynfor (Dafydd Hywel) ofyn iddi ei briodi - ond ai dihangfa o'r Graig Ddu fyddai'r ateb i'w phroblemau hi, a'u problemau oll?
Nid dyma unig gyfyng gyngor Martha - a'r gwyliwr hefyd! Yn wir, er mai'r Martha gadarn gyda'i hurddas dawel sydd yn ennyn ein cydymdeimlad mwyaf i dechrau, erbyn diwedd y ffilm gallwn uniaethu'n llwyr â'r pedwar prif gymeriad.
Ie, hyd yn oed â Judy, y slapar o Gocni gartwnaidd o sbeitlyd, oherwydd erbyn diwedd y ffilm, daw'n amlwg mai hi yw'r unig un o'r creaduriaid ymylol hyn sydd yn ddigon cyfrifol i ofalu amdani hi ei hun.
Cyfrifoldeb i'w gilydd Os yw Judy yn ymgorfforiad o'r hunlle ôl-Thatcheraidd, yna mae tranc y tri arall yn deillio o'u gwreiddiau dwfn, a'u hannallu i ymwrthod â'u cynefin a'u cyfrifoldeb i'w gilydd, a dyna sydd yn gwneud y stori drasig hon mor amserol.
Ag ystyried mai stori llawn tensiynau ac emosiynau byw yw Martha Jac a Sianco, mae'n ffilm hynod lonydd.
Mae pob un olygfa wedi'i goleuo a'i fframio'n berffaith gan roi cyfle euraidd i'r gwyliwr ystyried pob un manylyn, o ddodrefn y parlwr di-rodres, i'r deisen hufen ar blât Martha ar ymweliad i'r dre.
Rhaid canmol Richard Wyn Huws am waith camera ysgubol.
Mae'r actio hefyd yn rhagorol, ac wrth ystyried perfformiad y tri phrif gymeriad nid yw'r un yn rhagori ar y llall gan i dri actor dawnus ddarganfod gwir galon pob cymeriad a'm darbwyllo'n llwyr - ac nid yn aml y gallwch chi ddweud hynny am berfformwyr Cymraeg gor-gyfarwydd.
O gyfrwng i gyfrwng Os oes gwendid, nid bai'r ffilm yw hynny ond bai'r darllenwyr hynny sydd am gymharu dau gyfrwng gwahanol iawn.
Mawredd nofel wreiddiol Caryl Lewis oedd i'w thudalennau dasgu o dafodiaith De Ceredigion, gan lwyddo i lunio stori fywiog allan o sefyllfa gymharol statig.
Yn naturiol, collwyd rhywfaint o hynny yn y "cyfieithiad" ffilm gan mai yn y bôn, stori am deulu sy'n methu â chyfathrebu yw Martha Jac a Sianco - ond diolch i dîm cynhyrchu amldalentog, llwyddwyd i dalu teyrnged i gampwaith o nofel trwy greu clasur o ffilm Gymraeg.
Cysylltiadau Perthnasol
Martha Jac a Sianco - y llyfr
Caryl Lewis yn siarad am ei gwaith
|
|