Prime (2006) Problemau caru
Adolygiad Meleri Siôn
Y sêr
Uma Thurman, Meryl Streep, Bryan Greenberg, Jon Abrahams
Cyfarwyddo
Ben Younger
Sgrifennu
Ben Younger
Hyd
106 munud
Mae Prime yn awr ar gael ar DVD.
Chwilfrydedd barodd i mi droi at hon - ffilm hollol ddiniwed, ramantus a doniol, ond ar yr un pryd yn codi digon o gwestiynau am grefydd, oedran a chefndiroedd gwahanol yn ogystal ag anawsterau bywyd bob dydd.
Ynddi, mae Rafi (Uma Thurman), merch 37 oed sydd wedi ysgaru'n ddiweddar, yn cyfarfod David (Bryan Greenberg).
Dim ond 23 yw David ac mae'r problemau yn dechrau, fel y gallwch ddychmygu, pan fo ei fam, Dr Lisa Metzger (Meryl Streep), yn sylweddoli beth sy'n digwydd.
Cymhlethir pethau gan y ffaith mai Metzger yw therapydd Rafi - y person sy'n gwrando ar ei phroblemau personol gan gynnwys yr hyn sydd ganddi i'w ddweud am ei pherthynas gyda dyn 23 oed mae'n ymwneud ag ef!
Amlygir rhagrith Dr Metzger trwy gydol y ffilm yn ei beirniadaeth am berthynas ei mab gyda dynes hÅ·n.
Ond ar yr un pryd mae'n perswadio Rafi i gymryd mantais o'r sefyllfa er mwyn iddi deimlo'n well ynddi'i hun!
Roeddwn braidd yn siomedig fod Dr Metzger yn darganfod gwir natur y berthynas cyn pawb arall ond mae'r hiwmor sydd yn dod i'r ffilm wrth wylio ei hymateb i'r ychydig wybodaeth y mae Rafi yn ei ddatgelu am y berthynas rhyngddi hi â David werth ei weld.
Nid wyf wedi chwerthin cymaint dros ffilm ers amser hir!
Nid yw'r diwedd gystal ag y byddwn wedi'i ddisgwyl a gallai'r clo fod yn llawer gwell.
Er bod rhai agweddau o'r ffilm yn siomedig, y mae ar y cyfan yn un gwerth ei gweld.
Neges y stori yn y pen draw yw ei bod hi'n well caru a cholli na pheidio a charu o gwbl.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|