Harsh Times (2006) Anghyfforddus ac effeithiol
Y sêr
Christian Bale, Freddy Rodriguez, Eva Longoria
Cyfarwyddo
David Ayer
Hyd
115 munud
Adolygiad Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm
Drama sydd wedi ei chyfarwyddo gan yr un awdur a ysgrifennodd y ffilm Training Day a The Fast and The Furious.
Y ffilm gyntaf i David Ayer ei chyfarwyddo, a'r un gyntaf i Christian Bale fod yn rhan o'r tîm cynhyrchu hefyd.
Mae'n dilyn dirywiad meddyliol cyn filwr i'r pwynt lle mae'n berygl iddo'i hun ac i bawb o'i gwmpas.
Mae Ayer yn creu ffilm sy'n dangos sleisen dreisgar ond realistig o fywyd mewn ardal ddifreintiedig o Los Angeles.
Y stori
Yn hytrach na chwilio am waith, mae Jim David (Christian Bale) - sy'n gyn filwr a fu'n ymladd yn rhyfel Irac - a'i gyfaill mynwesol Mike Alvarez (Freddy Rodriguez) yn treulio'u hamser yn yfed a chymryd cyffuriau a phob math o ddrygioni arall sy'n codi, ar hyd strydoedd South Central.
Mae Sylvia (Longoria), cariad Alvarez, yn rhoi pwysau arno i gael gwaith ond mae dylanwad Jim, sy'n yn ddyn bregus iawn yn feddyliol, yn goroesi ac yn llwyddo i'w arwain ar gyfeilion.
Y canlyniad
Mae'r brif stori yn un eithaf seml ond mae digon o is storiâu a deialog sydd a digon o hiwmor.
Er hyn, mae'n rhaid dweud taw oni bai am yr actio disglair byddai hon yn ffilm llawer mwy cyffredin ac arferol na beth wnaethpwyd.
Ambell i farn Yn ôl y Guardian, "Mae perfformiad Bale yn drydanol, sydd yn y diwedd yn cael ei wobrwyo â chydymdeimlad amharod nad oedd yn disgwyl ei derbyn"
"Mae Ayer yn mynd am y 'jygiwlar' ar bob achlysur - unwaith, yn llythrennol - ac mae'r gwaith camera graenus yn ychwanegu at realaeth budr y sefyllfa" meddai Timeout.
Perfformiadau Ers ei berfformiad iasoer yn American Psycho, mae Bale - a anwyd yng Nghymru - wedi parhau i ddatblygu i fod yn un o'r actorion mwyaf dibynadwy'r sgrîn fawr. Mae ei allu i drawsnewid yn gorfforol ar gyfer rhan yn rywbeth nas gwelwyd ers dyddiau cynnar Robert De Niro - collodd bedair stôn ar gyfer ei berfformiad yn y ffilm drawiadol The Machinist
Nid oeddwn yn teimlo fod Eva Longoria yr un iawn i chwarae rhan Sylvia ond mae'n anodd dweud ai ei pherfformiad hi oedd yn wael ynteu a oedd wedi ei cham gastio.
Ymddengys yn rhy hardd a 'neis' i fod yn gariad i rywun fel Mike Alvarez ac o ganlyniad teimlwn ei bod allan o le ryw ffordd.
Gwerth ei gweld?
Bydd unrhyw berson a fwynhaodd Training Day yn cael pleser tebyg o'r ffilm hon.
Er ei bod yn ffilm ddidrugaredd ac anghyfforddus i'w gwylio ar adegau mae'r hiwmor a'r hoffter tuag at gymeriadau ffaeledig yn llwyddo i ddal eich diddordeb.
Mae'n rhaid dweud i un olygfa neilltuol roi ysgytwad enfawr imi - lle mae ein 'harwyr' yn y dafarn yn ceisio gwerthu dryll. Felly, byddwch yn barod!
Mae'n cyfarwyddwr yn llwyddo i greu cydbwysedd tensiwn, digrifwch a chydymdeimlad â'r cymeriadau ar yr amseroedd cywir sy'n llwyddo yn effeithiol i'ch glynu wrth eich sedd hyd at y diwedd gwaedlyd.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|