Crash Gwneud i'r ffefryn grasio
Y sêr
Matt Dillon, Don Cheadle, Sandra Bullock, Jennifer Esposito, Terrence Howard, Brendan Fraser, Chris Bridges, Larenz Tate, Thandi Newton, Ryan Phillippe, William Fichtner
Cyfarwyddwr
Paul Haggis
Sgrifennu
Paul Haggis, Robert Moresco
Hyd
113 munud
Trechu'r ffefryn
Yn groes i'r disgwyl, Crash gyda Matt Dillon, Sandra Bullock, a sawl actor blaenllaw arall a ddewiswyd yn brif ffilm gwobrau'r Oscars, 2006.Y Darogan fu mai Brokeback Mountain fyddai'n cipio'r llawryf ond petrusodd Hollywood cyn mynd yr holl ffordd a gwobrwyo ffilm am ddau ddyn mewn cariad er cymaint fu'r ganmoliaeth i'r ffilm honno ymhlith beirniaid a chynulleidfaoedd.
Bu arwyddion ers dyddiau fod Bareback Mountain yn llithro i lawr yr ysgol a Crash yn dringo. Sylweddolodd y bwcis hynny cyn gynted â neb a bu gostyngiad sylweddol yn yr ods yn erbyn Crash cyn y diwrnod mawr.
Y tro diwethaf y cafodd trol yr Oscars ei throi i'r fath raddau oedd yn 1999 pan drechodd Skaespeare in Love y ffilm lawer iawn gwell a llawer iawn mwy sylweddol, Saving Private Ryan.
Gwobr gysur Bu'r wobr eleni yn gysur arbennig i Paul Haggis, cyfarwyddwr.Crash, gan ei fod ef tua'r unig un o griw Million Dollar Babe na chafodd wobr Oscar y llynedd er mai ef sgrifennodd y sgript benigamp.
Rhywbeth i'w ddweud Y mae Crash yn un o nifer o ffilmiau diweddar a chanddynt rywbeth o bwys i'w ddweud. Brokeback Mountain am agweddau tuag at gariad rhwng rhai o'r un rhyw. Good Night and Good Luck am yr erlid gwleidyddol yn ystod cyfnod Mc Carthy. Munich ynglŷn â thrais a dialedd mewn materion rhyngwladol. Capote am hanes sgrifennu In Cold Blood gan Truman Capote.
Pob un yn ffilm sylweddol a allai fod wedi cipio'r wobr fawr a'u bodolaeth yn gwneud camp Crash gymaint a hynny'n fwy.
Un awgrym yw mai natur ddyrchafol Crash er gwaethaf difrifoldeb ac anfelystod ei thestun a enillodd y wobr iddi ar draul natur feel-bad y ffilmiau eraill un ag oll.
Ffilm ysgytwol yw hi; wedi ei lleoli yn Los Angeles ac yn ymwneud â hiliaeth, gwahaniaeth dosbarth a rhagfarnau cymdeithasol sy'n dod i'r amlwg wrth i nifer o gymeriadau ddod i wrthdrawiad a'i gilydd mewn crash.
Un peth trawiadol am y ffilm hon yw cymaint o actorion da ddaeth at ei gilydd i chwarae'r rhannau - Sandra Bullock yn wraig tÅ· annifyr, Don Cheadle yn blismon hiliol a Matt Dillon yn y canol yn cydgordio'r cyfan yn feistraidd.
Lleng o broblemau Rhoddir llais i leng o broblemau sydd wrth wraidd y gymdeithas Americanaidd gyda chwestiynau go anghyfforddus yn cael eu gofyn fel; Pam mae gwynion dosbarth canol yn byw mewn ofn o dduon dosbarth gweithiol?
Dangosir sut y gall gwleidyddiaeth ei gwneud yn anodd dod o hyd i'r gwir.
Ar wefan Saesneg y 91Èȱ¬, pan gyrhaeddodd Crash y sinemau; dywedwyd; "Ychydig o ffilmiau sydd mor herfeiddiol. Ychydig o ffilmiau eleni sydd yn haeddu cymaint o'ch sylw."
A dyma hi yn awr, wedi cael y sylw mwyaf un!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|