Munich (2006) Wedi'r lladd - lladd
Y sêr
Eric Bana, Daniel Craig, Ciarán Hinds, Mathieu Kassovitz, Geoffrey Rush
Cyfarwyddo
Steven Spielberg
Sgrifennu
Eric Roth, Tony Kushner
Hyd
164 munud
Sut ffilm
Ffilm ddial a "ysbrydolwyd gan ddigwyddiadau go iawn" cyflafan Gemau Olympaidd Munich 1972 lle lladdwyd athletwyr Israelaidd a herwgipiwyd gan derfysgwyr Palesteinaidd Medi Ddu - Black September.
"Ffilm y bu'n rhaid imi ei gwneud," meddai Steven Spielberg mewn cyfweliad diweddar. Fe'i disgrifiodd hefyd fel, "Gweddi dros heddwch".
Ffilm i gymryd ei lle ochr yn ochr â Schindler's List. Honno yn ymwneud â'r Holocost a hon yn awr ym ymwneud ag amddiffyniad yr Iddewon o wladwriaeth Israel a'u gwrthdaro â'r Palesteiniaid.
Y stori
Mae'r ffilm yn dilyn ymgyrch Iddew ifanc Avner (Eric Bana) sy'n ymddeol o Mossad ar gais yr awdurdodau er mwyn arwain ymgyrch swyddogol answyddogol i ddarganfod ac i ladd ar ran Llywodraeth ei wlad y terfysgwyr Palesteinaidd a fu'n gyfrifol am gyflafan Gemau Olympaidd Munich, 1972.
Ond yn dilyn cychwyn llwyddiannus Avner a'i griw (Daniel Craig, Ciaran Hinds a Mathieu Kassovitz) mae'r dienyddiwr yn cael ei orfodi i holi ei hun ynglÅ·n ag effeithiolrwydd a moesoldeb y math hwn o weithredu wrth i derfysgwyr newydd gymryd lle y rhai a laddwyd.
Buan iawn y mae'n cael ei ysu gan y cwestiwn a all gweithredu o'r fath gynnig unrhyw ateb rhesymol yn hytrach na bwydo fflamau coelcerth sydd eisoes allan o reolaeth.
Ond mae'r gyfundrefn Israelaidd o'r farn mai'r unig ateb i drais yw dialedd yr un mor dreisiol. "Fe ddaw yr holl waed yma yn ôl atom," ofna Avner.
"Yn y diwedd fe fydd yn llwyddo," medd un o'i feistradoedd.
Problem oesol y rhai sy'n byw gyda'r cledd.
Y canlyniad Ffilm afaelgar llawn tyndra a chyffro - ac ni fyddai rhywun yn disgwyl dim llai gan Speilberg.
Ond mae'r geiriau "Wedi ei hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn" yn peri yr un trafferthion ag y maen nhw bob amser.
Yn wir, yn hytrach na chryfhau statws ffilm yr hyn y mae'r geiriau hyn yn ei wneud bob amser yw cymylu popeth gan ei gwneud yn amhosib i gynulleidfa wahaniaethu rhwng y gwir a'r gau.
Yn ddieithriad, yr hyn mae'r geiriau hyn yn ei ganiatáu yw rhwydd hynt i gyfarwyddwr ymddangos fel hanesydd heb orfod poeni o gwbl a fydd ei ffeithiau yn gywir neu beidio.
Yn yr achos hwn mae'n sicr yn wir i 11 o athletwyr Israel gael eu herwgipio ac mae'r un mor wir i waed gael ei dywallt oherwydd blerwch yr awdurdodau Almaenaidd ond gall yr hyn a ddarlunnir wedyn ynglÅ·n ag Avner a'i griw fod yn gymaint gwirionedd neu yn gymaint ffrwyth dychymyg ag y dymuna Spielberg iddo fod er mwyn cyflawni'i ddyletswydd o greu ffilm afaelgar y bydd pobl am ei gwylio.
Drwg sefyllfa o'r fath yw y bydd cynulleidfaoedd yn llyncu'r cyfan fel ffeithiau hanesyddol ond y cyfarwyddwr heb unrhyw gyfrifoldeb i sicrhau'r gwirionedd.
Bid a bo hynny; cyn belled ag y mae techneg creu ffilm yn bod mae Spielberg yn llwyddo'n well gyda Munich na chydag ambell un o'i ffilmiau diweddar. Mae Munich yn afaelgar, yn gyffrous ac yn codi cwestiynau athronyddol a moesol pwysig ynglŷn â therfysgaeth ryngwladol, hawliau gwlad i'w hamddiffyn ei hun a sut i ymateb i derfysgaeth.
Ond y cyfan o fewn gweledigaeth Hollywood o'r byd - ac yn y pen draw y dialwyr yw 'arwyr' Munich a chyda hwy y mae disgwyl i gydymdeimlad y gynulleidfa fod pa bynnag wrthddadleuon sy'n cael eu gwyntyllu.
Cymeriad i gydymdeimlo ag ef yw Avner - y lladdwr oer sy'n fawr ei gariad at ei wraig a'i faban.
Perfformiadau Yn olygus â phresenoldeb cryf mae Eric Bana y cydio fel gŵr a thad sydd hefyd yn arweinydd criw o ddienyddwyr brith.
Mewn ffilm heb unrhyw berfformiad sâl gan neb mae sawl actor yn gofiadwy hefyd - Geoffrey Rush fel yr asiant llywodraeth, Ephraim er enghraifft.
O safbwynt drama mae amrywiaeth dda o 'gymeriadau' yng nghriw Avner: Steve y De Affricanwr (Daniel Craig); Robert, y cyn wneuthurwr teganau sy'n awr yn creu bomiau (Matthieu Kassovitz); Carl ddryslyd (Ciaran Hinds) a Hans oeraidd, broffesiynol (Hans Zischler).Yn bwydo'r Israeliaid â gwybodaeth mae un o ddynion yr isfyd rhyngwladol, Louis (Mathieu Amalric) a'i dad - barwn gwledig Ffrengig sy'n cael ei chwarae'n rhagorol gan Michael Lonsdale.
Gystal â'r trelar?
Ydi.
Ambell i farn
Ac yntau'n bwnc mor astrus nid yw'n syndod fod tuedd i'r ymateb fod yn eithafol. Yn y ddadl rhwng Israeliaid â Phalesteiniaid anodd iawn dod o hyd i neb sy'n gwbl gytbwys ei farn ac y mae Spielberg wedi ennyn dig Israeliaid - sy'n ei gyhuddo o fod yn fradwr - a Phalesteiniaid fel ei gilydd.Yn yr Unol Daleithiau galwodd Cyfundrefn Seionistiaidd America am i bobl osgoi'r ffilm yn gyfan gwbl.Achosodd y ffilm wewyr yn yr Almaen hefyd oherwydd ensyniadau i'r Almaen gawlio'r ymateb i ddigwyddiadau Gemau Olympaidd 1972. Teimlai rhai ei bod yn annheg codi'r grachen honno ar yr union adeg y mae'r Almaen ar drothwy llwyfannu gornest chwaraeon fawr arall - gemau pêl-droed Cwpan y Byd.Mae'r rhai hynny sydd wedi medru edrych ar Munich fel ffilm yn unig, fodd bynnag, wedi eu plesio gan yr arddangosfa bellach hon o ddoniau Spielberg gan fod Munich yn wead tynn sy'n trin yn ddeheuig holl elfennau ffilmiau cyffro ac ysbio gyda sawl adlais o ragoriaethau'r hen feistr tyndra hwnnw, Hitchcock.
Gwerth ei gweld?
Nid yn unig o safbwynt bod yn ffilm gyffro ragorol ond fel sbardun i wyntyllu trafodaeth ynglÅ·n ag effeithiolrwydd ac egwyddorion moesol cynnal ymgyrchoedd gwleidyddol trwy ladd a thrais.
|
|