Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006 Ffimiau diri ond yn llwm ar y Gymraeg
Bydd Gŵyl Ffilm Caerdydd yn agor yn y Brifddinas Tachwedd 8, 2006, ond llwm yw hi ar y rhai sy'n chwilio am ddarpariaeth Gymraeg gydag ond un ffilm hir yn yr iaith yn cael ei dangos.
Tachwedd 18, diwrnod olaf yr Å´yl dangosir Calon Gaeth - Small Country gyda Mark Lewis Jones,
Nia Roberts,
Rhian Morgan,
Catrin Morgan,
Gareth Bale,
Tom Ellis, Sharon Morgan, Richard Elfyn, Rhian Grundy a Gaynor Morgan Rees.
Y cyfnod yw gwanwyn 1914 a Tom Evans (Gareth Bale) yn gwahodd ei ffrind gorau Edward Turncliffe (Tom Ellis) i ymweld â stad ei rieni yn Shir Gâr heb yn wybod bod ei dad Josi (Mark Lewis Jones) wedi gadael ei fam (Rhian Morgan) i fyw gyda Miriam (Nia Roberts), athrawes leol.
"Craidd y stori yw newid cymdeithasol a gwleidyddol, technolegol ac amaethyddol, personol a theulol yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin adeg y Rhyfel Byd Cyntaf," meddir.
Saethwyd y ffilm yn gyfangwbl ar leoliadau yn siroedd Penfro, Caerfyrddin, Brycheiniog a Morgannwg ac yn Rhydychen gan gwmni Green Bay - Talbot Studios i S4C.
Bydd dangosiad o ffilmiau byrion Cymreig, Welsh Shorts Tachwedd 11.
Gwreiddiau'r Ŵyl Mae gwreiddiau'r ŵyl hon yn ymestyn yn ôl i hen Ŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Aberystwyth - gŵyl a symudwyd i Gaerdydd rai blynyddoedd yn ôl.
Bu'n uchelgais yng Nghaerdydd i'r ddinas ennill amlygrwydd fel un yn cynnal gŵyl ffilm a barn y trefnwyr yw i gam sylweddol gael ei gymryd i'r cyfeiriad hwnnw eleni.
Penodwyd tîm rheoli newydd gyda merch o Gaerdydd, Sarah Howells, yn cyfarwyddo'r ŵyl.
'Hynod brofiadol' Mae hi'n gyn reolwr Gŵyl Sgrin Caerdydd fel yr oedd yr ŵyl yn cael ei hadnabod cynt.
"Mae'r tîm yn cyfuno unigolion hynod brofiadol, brwdfrydig ac egnïol sydd wedi gweithio ym myd y ffilm a gwyliau ledled y byd. Mae'r noddwyr sydd wedi cael eu cadarnhau ar gyfer y digwyddiad proffil uchel yn cynnwys Y Cynulliad Cenedlaethol, Cyngor y Celfyddydau Cymru, Asiantaeth Ffilm Cymru, Cyngor Sir Caerdydd, Cineworld, Skillset, BAFTA Cymru, Soundworks a Bauhaus," meddai.
Yn gweithio gyda Sarah Howells mae Huw Penallt Jones, Prif Weithredwr yr Å´yl, a chanddo oddeutu 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ffilm.
Mae Lisa Nesbitt - gynt o'r IFFW a BAFTA Cymru - yn gyfarwyddwraig gynorthwyol a Greg Mothersdale yn rheolwr.
Meddai Sarah Howells, "Mae'r Ŵyl Ffilmiau yma yn addo bod yr ŵyl ffilmiau orau a welodd Caerdydd, os nad Cymru, erioed.
"Wrth adeiladu ar wyliau'r gorffennol, ond hefyd yn ymwybodol o'r angen i ehangu apêl yr Ŵyl, ein bwriad yw datblygu ein brand newydd, codi ymwybyddiaeth o'r Ŵyl i gynulleidfa ehangach, a hybu ei broffil gan ddarparu cyfuniad arbennig o ffilmiau, y dalent sy'n mynychu a digwyddiadau'r diwydiant sydd wedi eu dylunio'n arbennig.
Mwy cyfeillgar "Bwriad yr Ŵyl yw bod yn fwy cyfeillgar a hygyrch i'r cyhoedd yn ogystal â'r ffaith mai dyma'r unig Ŵyl yn y byd sy'n hyrwyddo talent a ffilmiau Cymraeg ar lwyfan ryngwladol. Fel rhan o'n cynlluniau, byddwn yn cyflwyno gwobr gynulleidfaol newydd ar gyfer y ffilm fer Orau o Gymru."
Dywedodd Huw Penallt Jones+ yntau nad oies rheswm pam na all Cymru gystadlu yn y maes hwn:
"Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio yn y diwydiant ffilm am flynyddoedd bellach, a hynny o Lundain i Hollywood, ac rwy'n credu'n gryf nad oes rheswm pam na all Cymru fod yn gystadleuol gyda'r goreuon.
"Fe fydd gan yr Ŵyl yma y 'glamour a'r glitz' ond yn ogystal â hynny fe fydd yn rhoi llwyfan i ffilmiau a digwyddiadau y gall bobl uniaethu â nhw, sydd yn adlewyrchu ysbryd arbennig y ddinas."
Allweddol Dywedodd Peter Edwards, Cadeirydd Asiantaeth Ffilm Cymru, ei fod ef yn gweld Gŵyl Ffilmiau Caerdydd fel "rhan allweddol o greu diwydiant ffilm yng Nghymru sydd yn gystadleuol ac yn llwyddiannus ac yn hyrwyddo mwynhad sinema yng Nghymru i'r gynulleidfa ehangaf posib.
Ymhlith nifer o weithdai a sesiynau trafod bydd Dosbarth Meistr gyda'r sgriptiwr a'r nofelydd, Rhidian Brook yn trafod ceisio bod yn sgriptiwr
i ymweld â gwefan yr Ŵyl.
Gellir archebu tocynnau'n uniongyrchol oddi yno neu drwy Swyddfa Docynnau Chapter ar 029 20 304400.
Cysylltiadau Perthnasol
Caerdydd - Lleol i Mi
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|