St Trinian's (2008) Fel yr oedd nid yw eto
Y sêr
Rupert Everett, Colin Firth, Russell Brand, Gemma Arterton, Talulah Riley
Cyfarwyddo
Oliver Parker, Barnaby Thompson
Sgrifennu
Piers Ashworth, Nick Moorcroft ar sail lluniau a llyfrau Ronald Searle.
Hyd
101 munud
Sut ffilm
Ymgais i ddod a stori ysgol ferched fwyaf gwallgof ac anhydrin Lloegr i sylw cenhedlaeth newydd o fynychwyr sinema.
Y cefndir
Mae i gartwnau, straeon a ffilmiau St Trinian's ddalen go helaeth yn llyfr hanes hiwmor Saesneg.
Yr athrylith y tu ôl i'r diafoliaid mewn jimslips ydi Ronald Searle ac ymddangosodd y cartŵn cyntaf yng nghylchgrawnLilliput fis Gorffennaf 1941.
Darluniai ddwy ferch ysgol mewn jimslips rhy gwta yn darllen arwydd a ddywedai: "Owing to the international situation, the match with St Trinian's has been postponed."
Ac yntau'n aelod o'r lluoedd arfog ar y pryd ac yn aros yn Kirkcudbright, Yr Alban; gwnaeth Searle y llun er difyrrwch ffrindiau yr oedd dwy o'u merched yn mynychu Academy for Young Ladies yng Nghaeredin o'r enw St Trinnean's.
Aeth y llun i lawr mor dda fe'i hanfonodd yn syth at Lilliput ond yr oedd Searle mâs yn y Dwyrain Pell pan welodd y defnydd o'i lun gyntaf pan ddaeth o hyd i gopi o'r cylchgrawn ymhlith sbwriel y stryd yn Singapore!
Chlywodd neb ddim oddi wrtho am ddwy flynedd wedyn; tan fis Rhagfyr 1943 ac yntau wedi bod yn garcharor rhyfel.
Ac yn ystod y cyfnod hwn bu'n darlunio'n gyfrinachol gyflwr ef a'i gyd garcharorion gan guddio'r lluniau rhag y Siapaneaid dan fatresi cleifion yn dioddef o'r Clefyd Melyn.
Wedi'r rhyfel cyhoeddwyd y lluniau hyn mewn llyfr a sgrifennwyd gan garcharor arall, Russell Brandon.
Pan ddaeth heddwch ail afaelodd Searle yn y lluniau o ferched anystywallt ysgol breifat - y cyntaf yn darlunio prifathrawes yn holi'r ysgol; "Hand up the girl who burnt down the West wing last night"
A dyna gychwyn pennod ryfeddol o luniau am ferched gwyllt yn llowcio Gin, smocio a bygwth a dychryn pawb o fewn cyrraedd iddyn nhw.
Bu'r cyfan yn llwyddiant ysgubol gan sbarduno Frank Launder i wneud ffilm amdanynt, The Belles of St Trinian's yn 1954.
Fe'i dilynwyd gan Blue Murder at St Trinian's ('57), The Pure Hell of St Trinian's ('60) a The Great St Trinian's Train Robbery ('66)
Un o nodweddion y ffilmiau hyn oedd mai dyn, yn nhraddodiad y pantomeim, chwaraeai ran y brifathrawes, Millicent Fritton, sef yr anhygoel Alastair Sim a oedd yn chwarae hefyd ei brawd o fwci, Clarence, yn y stori hefyd.
Yn y gyfres hon y daeth actor ifanc o'r enw George Cole i amlygrwydd - yn chwarae rhan Flash Harry flynyddoedd cyn bo sôn o gwbl am Arthur Daley a ddaeth a Cole i gymaint o boblogrwydd ar y teledu yn yr Wythdegau.
Un peth a wnâi'r ffilmiau yn wahanol i gartwnau gwreiddiol Searle oedd i'r ffilmiau ychwanegu at ferched gwyllt Dosbarth Pedwar Searle ferched aeddfetach y Chweched yn ymffrostio'n bowld ac yn dalog yn eu rhywioldeb.
Yng ngwaith gwreiddiol Searle doedd dim rhyw o gwbl ond yn amlwg y teimlad oedd fod ei angen ar gyfer y sinema ac fe weithiodd i'r dim os yw poblogrwydd y ffilmiau yn ffon fesur.
Cadwyd at nifer o'r elfennau hyn yn ffilm 2007 gan gynnwys Mrs Fritton yn cael ei hactio gan ddyn sydd hefyd a rhan wrywaidd arall yn y ffilm.
Russell Brand ydi Flash Harry erbyn ond rhyw gysgod digon egwan yw e o George Cole.
Y stori
Fel y bu erioedy mae'n parhau; mae St Trinian's mewn trafferthion. Mrs Fritton (Rupert Everett) heb arian i dalu ei dyledion a'r Gweinidog Addysg yn y Llywodraeth, Geoffrey Thwaites (Colin Firth) yn benderfynol ar gau'r sefydliad.
Er mwyn ennill arian i adfer y lle rhoddir cynllun ar waith i ddwyn llun gwerthfawr o'r Amgueddfa Genedlaethol gyda chymorth Flash Harry (Russell Brand).
Wrth gwrs, rhaid wrth ferch newydd i ymuno â'r ysgol i'w chamdrin (Talulah Riley) nes ei bod yn ennill ei phlwyf a gwneud argraff ar y Brif Eneth, Kelly (Gemma Arterton).
Y canlyniad Er gwaethaf ambell i ymdrech i ddiweddaru'r stori gyda chyfeiriadau at smocio baco gwirion yn hytrach na baco mwg ac at gyffuriau dydi'r pethau oedd yn gwneud St Trinian's yn feiddgar ddyddiau ei ieuenctid ddim yn mynd i gyffroi neb erbyn heddiw.
A chyda stori wan a chymeriadau sy'n creu fawr ddim argraff ffilm yw hon sydd ond o ddiddordeb i'r genhedlaeth honno sydd am ei chymharu a'r aflendid godidog a fu yr holl flynyddoedd yna yn ôl pan oedd cynulleidfaoedd yn ddiniweitiach a'r gwylliaid ar y sgrin o'r herwydd yn fwy beiddgar..
Ac mae'n od gorfod dweud fod ffilmiau du a gwyn y Pumdegau yn llawer mwy lliwgar na hon.
Perfformiadau Er mawr syndod, ac yn groes i'r disgwyl, Colin Firth sy'n rhagori fan hyn fel y gwleidydd o Lundain sy'n teithio i'r wlad i roi caead ar biser yr ysgol drafferthus a chwbl afreolus hon sy'n gymaint staen ar gyfundrefn addysg y wlad..
Siomedig ydi Rupert Everett fel y brifathrawes ond yn well fel ei brawd seimllyd. Ond go brin bod digon yma i warantu ail ffilm gydag ef.
Rhai golygfeyddColin Firth a'r morgrug..
Gwerth ei gweld Er mwyn cymharu â'r gorffennol ac ymdrybaeddu ym moethusrwydd gwybod fod pethau gymaint gwell ers talwm.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
|
|