Forgetting Sarah Marshall (2008) Dwyn sioe - heb fawr i'w ddwyn!
Y s锚r
Jason Segal, Kristen Bell, Mila Kunis, Russell Brand, Paul Rudd
Cyfarwyddo
Nicholas Stoller
Sgrifennu
Jason Segal
Hyd
111 munud
Adolygiad Glyn Evans
Sut ffilm
Comedi ramantus o America am ddyn sy'n glaf o serch ar 么l cael ei wrthod gan ei gariad.
Y stori
Mae Peter Bretter (Jason Segal) a Sarah Marshall (Kristen Bell) mewn cariad - hi yn cyflwyno rhaglen deledu boblogaidd debyg i Crimewatch ac yntau'n cyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer y rhaglen.
Ar ddechrau'r ffilm mae Sarah yn 'dympio' Peter ar 么l cyfarfod seren roc Aldous Snow (Russell Brand).
Yn glaf o serch mae Peter yn dianc i Hawai am wyliau anghofio - ond y rhai cyntaf a w锚l yno yw Sarah a'i chariad newydd sy'n gwneud yn anodd iawn iddo'i anghofio - er gwaethaf atyniadau amlwg Rachel (Mila Kunis), derbynwraig ddeniadol a serchus y gwesty lle mae'n aros.
Y canlyniad
Dyma'r ffilm ddiweddaraf o stabl gynhyrchu Judd Apatow a blesiodd gymaint gyda Knocked Up a The 40 Year Old Virgin.
Ond y peryg yw mai eu siomi gaiff y rhai hynny a wirionodd ar y ffilmiau hynny.
Beth bynnag am Peter Bretter, fe fyddan nhw yn ei chael yn hawdd iawn anghofio Sarah Marshall a gweddill y criw.
Er mor addawol y posibiliadau o gael dau hen gariad a dau gariad newydd yn baglu ar draws ei gilydd ar draethau Hawai nid yw'r awdur na'r cyfarwyddwr yn cael y gorau o'r sefyllfa gan wneud y 111 munud yn rhai eithaf hirion heb fawr i gadw'n diddordeb.
Mae'n debyg mai Russell Brand fel y merchetwr diegwyddor nad oes pall ar ei chwant am ryw sy'n dod allan ohoni orau. Hebddo byddai wedi bod yn dlawd iawn ar y cynhyrchiad.
Mae llif gweddol gyson o j么cs rhywiol amrwd yn ymwneud a maint, hunanfoddhad, herpes ac yn y blaen.
Chwerthin?
Nid rhyw lawer. Mae fel ffilm American Pie i 么l-raddedigion.
Ambell i farn Er bod y diffyg brwdfrydedd yn eithaf cyffredinol - coeliwch neu beidio mae ambell un wedi mwynhau Forgettiong Sarah Marshall gyda'r Daily Mirror er enghraifft yn rhoi pedair seren lawn iddi gan ddweud; "Er nad yw'n gomedi o'r radd flaenaf y mae yn sicr yn un dderbyniol a ddylai apelio at y rhan fwyaf."
Nid y ganmoliaeth wresocaf.
Fel un o lesser products stabl Judd Apatow y'i disgrifir yn yr Observer ac mae'r Guardian yn crtnhoi trwy ddweud bod yna rywfaint o chwerthi "ond dim llawer".
Mae gwefan ffilm y 91热爆 fodd bynnag yn s么n am gyffyrddiadau o athrylith gan ganmol parodrwydd i ddangos gwendidau yr arwr a'i ddilorni "i'r pwynt nes bo'n rhaid ichi ei garu a chwerthin am ei ben i'r un graddau."
Rhan orau Y tri - Peter, Sarah ac Aldous yn cael pryd o fwyd gyda'i gilydd.
Mae rhai yn canmol yr olygfa ar y dechrau lle mae Sarah yn dweud wrth Peter noeth lymun gorn ei bod yn gorffen ag ef - ond mae'n fwy dadlennol na doniol fel y gwelwch chi.
Perfformiadau Mae cytundeb mai Russell Brand sy'n cael y gorau o'r ffilm hon. Yn ferchetwr digon atgas a hunanol ganddo ef mae'r llinellau gorau ac ef sy'n gwneud argraff fel cymeriad.
Mae mwy nag un yn ei ddisgrifio yn "dwyn y sioe" ond wrth ddweud hynny dylid cadw mewn cof yr hyn a ddywed beirniad y Sunday Times:
"Efallai ei fod yn dwyn y sioe - ond yr unig reswm am hynny yw nad oes llawer o sioe i'w dwyn!"
Mor wir.
Gwerth ei gweld? Os ydych wirioneddol eisiau cael gwared a 111 munud o'ch bywyd ar 么l mynd i'r holl drafferth o ddreifio i'r dref a dod o hyd i le parcio.
|
|